Mi fydda i'n ceisio peidio bod yn rhy blwyfol ar Flogmenai - ond cyn fy mod wedi treulio tipyn o amser yn ymgyrchu yn Arfon ar gyfer etholiad eleni, dwi'n siwr y bydd darllenwyr y blog sy'n byw y tu allan i'r etholaeth yn maddau i mi am gynhyrchu ychydig o nodiadau ar berfformiad y Blaid - a phleidiau eraill - yn yr etholaeth.
Mae gan Lafur bleidlais barchus yn Arfon - 34%. O ganlyniad mae gwleidyddiaeth yr etholaeth wedi ei bolareiddio mwy nag yn unman arall yng Nghymru. Pleidleisiodd 89% o'r etholwyr i'r Blaid neu i Lafur. Dim ond yn y Rhondda ceir polareiddio tebyg - gydag 87% yn pleidleisio i'r ddwy blaid gyntaf.
Tra bod y 3% y cafodd y Dib Lems yn yr etholaeth yn eithaf nodweddiadol o'u pleidlais tros y rhan fwyaf o Gymru, roedd y 6% y cafodd y Toriaid yn anarferol o isel. Dim ond yn y Rhondda (2%) roedd eu pleidlais yn sylweddol is - roedd y ganran yn Arfon yn debyg i ganran Merthyr, Cwm Cynon ac Aberafon. Mae'n eithaf sicr y byddant wedi colli eu hernes petai UKIP wedi trafferthu sefyll yn yr etholaeth. Yn y Rhondda yn unig y collodd y Toriaid eu hernes y tro hwn. Mae'n hawdd anghofio bod tua 40% o'r etholaeth (Ogwen a Bangor) yn cael eu cynrychioli gan Dori yn San Steffan hyd at 1997. Y Dib Lems druan oedd eu prif wrthwynebwyr tan y flwyddyn honno - cawsant eu goddiweddyd gan Beti Williams (Llafur) y flwyddyn honno. Cafodd Sian bump gwaith cymaint o bleidleisiau na'r Toriaid a'r Dib Lems efo'i gilydd.
A son am Fangor, dwi'n credu mai Bangor ydi'r unig ddinas i gael ei chynrychioli erioed gan Blaid Cymru ar lefel Cynulliad neu San Steffan - ond roedd y Blaid ymhell ar y blaen yno, gan ennill 8 o'r 10 ward - rhai ohonynt gyda mwyafrifoedd anferth. Roedd Bangor yn dipyn o gadarnle i'r Blaid yn 2016.
Er bod Llafur (fel arfer) yn hynod hyderus o gipio'r sedd - ac wedi llusgo rhes di ddiwedd o weinidogion i'r etholaeth tros y misoedd diwethaf ni chawsant bleidlais arbennig o uchel. Cawsant ganran uwch mewn 28 etholaeth arall a phleidlais uwch mewn 31. Deugain etholaeth sydd yng Nghymru i gyd.
Yn anarferol roedd y gyfradd pleidleisio yn uwch yn Arfon nag oedd yn y rhan fwyaf o etholaethau tebyg. Yn wir roedd yn uwch nag oedd yn unrhyw etholaeth yng Ngwynedd, Ynys Mon, Conwy, Fflint, Dinbych na Wrecsam.
No comments:
Post a Comment