Ond mae yna un man gwan - neu fan cryf - dibynnu sut rydym yn edrych ar bethau. Yn gyffredinol mae proffil demograffig y Gymraeg yn eithaf iach yn yr ystyr bod yr ifanc yn llawer mwy tebygol o siarad y Gymraeg na'r hen. Mae hyn yn awgrymu y bydd y niferoedd sy'n siarad y Gymraeg yn cynyddu yn y dyfodol. Y rheswm am hyn ydi bod y system addysg yn cynhyrchu Cymry Cymraeg. Yn wir erbyn hyn mae tua 80% o blant sy'n siarad y Gymraeg wedi ei dysgu yn yr ysgol yn hytrach na'r cartref. Mae'r rhan fwyaf o bobl fy oed i a phobl hyn na hynny hyd yn oed wedi dysgu'r Gymraeg yn y cartref. Fodd bynnag dydi'r niferoedd plant sy'n cael eu haddysgu trwy'r Gymraeg ar hyn o bryd ddim yn agos at fod yn ddigon i fod yn ddigon i gynhyrchu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
I gwrdd a'r targed hwnnw byddai'n rhaid cynyddu'r nifer o blant sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn sylweddol. Mae'r ddogfen yn cydnabod hynny. Ar un olwg ddylai hynny ddim bod mor anodd a mae o bosibl yn edrych. Rydym yn gwybod bod cryn dipyn mwy o alw am addysg Gymraeg na sy'n cael ei ddarparu mewn rhannau sylweddol o Gymru. Dylai fod yn fater syml i orfodi awdurdodau lleol i asesu'r galw lleol am addysg cyfrwng Cymraeg a'i ddarparu. Mae yna fecanwaith i wneud hynny eisoes yn bodoli - sef y gwasanaeth arolygu. Y ffaith nad ydi hwnnw'n cael ei fygwth yn y cynllun ydi 'r gwendid. Byddai'r posibilrwydd o fethu arolygiadau oherwydd diffyg trefniadau i asesu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac ymateb i'r galw hwnnw yn gorfodi pob awdurdod addysg yng Nghymru i fynd i 'r cyfeiriad mae Alun Davies am iddynt fynd.
Ond mae yna broblem arall - sef agwedd llawer o aelodau, dilynwyr ac actifyddion Llafur ar lawr gwlad. Rwan - a bod yn deg - mae Llafur Cymru wedi dod ymhell yn eu hagwedd tuag at y Gymraeg yn ystod fy mywyd i. Mae'r casineb a welwyd yn y gorffennol tuag at yr iaith yn y gorffennol yn llawer llai cyffredin erbyn heddiw. Serch hynny mae yno o hyd ymysg lleiafrif, a dydi'r lleiafrif hwnnw ddim yn un di nod o bell ffordd.
Mae'r stori am actifyddion Llafur yn cydweithio efo'r Dde eithafol i wrthwynebu troi Ysgol Llangennech yn esiampl o hyn wrth gwrs, ac mae'r ffaith bod Cyngor (Llafur) Rhondda Cynon Taf yn gwario bron i'r cwbl o'u harian cyfalaf yn awgrym ohono hefyd.
Yr hyn sy'n wirioneddol boenus am y sefyllfa Llangennech ydi ymateb y sefydliad Llafur i'r sefyllfa. Mae Cyngor Caerfyrddin yn dilyn y trywydd mae Llywodraeth Cymru am iddo ei ddilyn. Mae rhai o aelodau Llafur yn lleol yn cydweithredu efo'r Dde eithafol i chwystrellu gwenwyn i mewn i'r holl sefyllfa. Y gorau y gellid ei ddweud am yr AC a'r AS Llafur lleol ydi eu bod yn edrych i'r cyfeiriad arall - a gallwn fod yn llawer, llawer llai caredig na hynny. A gallwn ddweud rhywbeth tebyg am Lywodraeth Cymru - doedd yna ddim condemnio ymddygiad cwbl bisar eu haelodau lleol. Cofier bod Llafur u DU wedi bod yn taflu pobl allan o'r blaid - neu'n eu gwahardd rhag pleidleisio yn yr etholiad arweinyddol - am aildrydar negeseuon cwbl ddi niwed gan aelodau o'r Blaid Werdd. Ddigwyddodd 'na ddim byd nes i Jonathan Edwards dynnu sylw Jeremy Corbyn at y sefyllfa - a phan ddigwyddodd hynny cafwyd gweithredu o fewn oriau. A wedyn cyhoeddwyd ymchwiliad i Blaid Lafur Llanelli.
A dyna ydi'r risg i Gynllun Miliwn o Siaradwyr Llywodraeth Cymru mewn un stori fach dwt. Mae'n un o nodweddion Llafur Cymru bod osgoi gwrthdaro mewnol yn flaenoriaeth iddi - yn wir gellir dadlau mai dyna ei phrif flaenoriaeth. Oni bai ei bod yn wynebu'r elfennau gwrth Gymraeg yn ei rhengoedd ei hun ac yn cefnogi awdurdodau - o pa bynnag blaid - sy'n gweithredu ar ei ddymuniadau fydd yna ddim tri chwarter miliwn siaradwr Cymraeg erbyn 2050 heb son am filiwn.
Dydi gorffennol y Blaid Lafur Gymreig ddim yn rhoi llawer o le i ni fod yn obeithiol mae gen i ofn.
No comments:
Post a Comment