Wednesday, September 28, 2016

Tour de force mewn rhagrith

Mae'r stori ddeugain oed yma sydd yn ymddangos yn Walesonline heddiw wedi ennyn ymateb eithaf digri - yn arbennig felly gan y Toriaid 'Cymreig' - plaid sy'n gyflym ddatblygu i fod yn arweinydd Byd eang yn y grefft o ragrithio di gywilydd ac eithafol.  

I dorri stori hir yn un fyrach mae'n ymwneud ag ymweliad gan nifer o bleidwyr a Libya ddeugain mlynedd yn ol, a rhodd honedig o £25,000 gan lywodraeth Libya i'r Blaid.

Rwan does yna ddim amheuaeth i nifer o aelodau'r blaid ymweld a'r wlad yn 1976, ond mae yna gryn dipyn o amheuaeth am y £25k.  Fel mae'n digwydd bod mae gen i frith gof o'r stori am y £25k - roeddwn yn 16 ar y pryd, a dwi'n eithaf siwr ei bod yn un o'r straeon yna sy'n crwydro weithiau - urban myth fel dywed y Sais.  Byddai £25,000 yn 1976 werth tua £190,000 heddiw - byddai'r cyfraniad mwyaf yn hanes y Blaid o ddigon.  

Byddai pres felly wedi ei roi i'r Blaid byddai wedi ei wario ar rhywbeth neu'i gilydd, a byddai rhywfaint ohono wedi ymddangos ar rhyw ffurf neu'i gilydd yn etholiad 1979 - un o'r rhai lleiaf llwyddiannus a lle cafwyd y lleiaf o wariant yn hanes y Blaid.  'Does yna ddim cofnod o daliad o'r fath gan y Blaid - a does yna ddim cofnod yn Libya chwaith.

Mae'r Toriaid wrth gwrs yn arbenigwyr ar dderbyn cyfraniadau o ffynonellau amheus - cawsant £440,000 gan y drwg weithredwr Asil Nadir ar ddechrau naw degau'r ganrif ddiwethaf er enghraifft.  Ar yr un pryd fwy neu lai roedd y blaid honno wedi derbyn cyfraniad anferth o £2,000,000 gan y Groegiwr John Latsis - perchenog llongau ac un o brif gefnogwyr unbeniaeth milwrol y wlad rhwng 1967 a 1974.  Mae yna hefyd le i gredu i John Major sicrhau nifer o ddynion busnes Asiaidd oedd yn cyfrannu i goffrau 'r Ceidwadwyr y byddai'n cadw amodau treth hynod ffafriol iddynt - amodau oedd yn caniatau iddynt dalu treth bitw ym Mhrydain ar enillion tramor anferth.  

Ond mae'r Toriaid hefyd yn gyfeillion agos efo llywodraethau unbeniaethol sydd o leiaf cyn waethed a llywodraeth Gadaffi yn ei dyddiau olaf, a llawer iawn gwaeth na'r hyn oedd yn 1976.  Ac mae'r cyfeillgarwch hwnnw'n gyfredol ac yn barhaus yn hytrach na'n ymwneud ag un ymweliad yn nghanol y ganrif ddiwethaf.  

Dydi'r Blaid Doriaidd ddim yn derbyn cyfraniadau gan y Saudis, ond mae'n sicrhau bod dwsinau o drwyddedau yn cael eu dosbarthu i gwmniau arfau Prydeinig i werthu arfau i'r unbeniaethol). Mae'r rhestr cyhuddiadau yn erbyn unbeniaeth Saudi Arabia yn faith:

1). Hawliau dynol ar ei thiriogaeth ei hun gyda'r gwaethaf yn y Byd.
2). Cyflawni troseddau ryfel lu yn Yemen - gan gynnwys gwneud defnydd eang o artaith.
3). Gwneud defnydd eang o artaith mewn rhyfeloedd ac i bwrpas mynd a'r afael a gwrthwynebiad gwleidyddol ar ei thiriogaeth ei hun.
4). Gwneud defnydd o'r gosb eithaf yn amlach na bron i unrhyw wlad arall yn y Byd.
5). Cefnogi ac ariannu terfysgaeth Byd eang.  Pres a chefnogaeth unbeniaeth Saudi Arabia ddaeth ag Al Qaida ac ISIS i fodolaeth.














Ahhhh- dwi'n sylwi i Lafur gael ei phig i mewn.


Roedd Llafur efo union yr un gysylltiadau efo'r unbeniaeth Saudi a sydd gan y Toriaid wrth gwrs.






Ond roedd Llafur Blair hefyd ar dermau da iawn efo llywodraeth Gadaffi yng nghyfnod Tony Blair allforwyd gwerth tua £120 miliwn o arfau i'r wlad rhwng 2005 a 2009 - y rhan fwyaf ohono'n stwff a fyddai'n cael ei ddefnyddio gan y weinyddiaeth i ymosod ar ei phoblogaeth ei hun.  Roedd Blair mor gyfeillgar efo'r unben nes mynd ati i gywiro traethawd estynedig un o'i feibion ar gyfer doethuriaeth mewn gwleidyddiaeth.  Dwi ddim yn tynnu coes

Yn wir aeth cyn belled ag ysgrifennu llythyr i Gadaffi yn ymddiheuro am fethu ag alldraddodi rhai o'i wrthwynebwyr mewnol.  



O.N Dwi'n sylwi hefyd bod y stori wedi cael lle blaenllaw ar wefan 'newyddion' y Bib i'r stori ddeugain oed yma - yn wahanol i'r stori mymryn yn fwy cyfredol am fethiant Llafur yn y Cynulliad i gefnogi galwad am fynediad llawn i Gymru i'r farchnad sengl.  Mae'n debyg y byddwn yn clywed am honno yn 2056.  



4 comments:

Anonymous said...

Pam wyt ti'n meddwl i Carl Clowes godi'r stori o gwbl ? Wrth gwrs y mae'r BBC am roi sylw i'r peth os yw cyn-ymgeisydd yn mynnu datgelu'r stori ei hun.

Cai Larsen said...

Dydi o ddim yn syndod bod y Bib wedi rhedeg efo'r stori - y pwynt dwi'n ei wneud ydi bod straeon eraill sy'n embaras i Lafur yn cael eu hanwybyddu.

Dwi'n meddwl bod y Dr Clowes wedi camgymeryd ynglyn a'r £25k.

Anonymous said...

Ond does posib nad oedd Carl Clowes yn sylweddoli y buasai stwr mawr yn dilyn unrhyw awgrym o'r fath. Pam na fuasai wedi gwirio'r peth hefo Dafydd Williams gyntaf ? Beth oedd ar ei ben o ?.

Unknown said...

Dim ond i gadarnhau - bues i'n gyfrifol fel Ysgrifennydd Cyffredinol (1971-1993) am dderbyn arian ar y pryd. Doedd dim rhodd o Libya.