Friday, September 16, 2016

Cyfle rhy dda a phrin i'w golli

Rydym wedi nodi eisoes sawl gwaith yn y blog yma bod gwleidyddiaeth etholiadol yn rhyfedd i'r graddau bod yna gyfnodau hir o sefydlogrwydd cymharol wedi eu rhannu gan gyfnodau byr o newid cyflym.  Y gamp os ydi plaid i lwyddo'n etholiadol tros yr hir dymor ydi cymryd mantais o'r cyfnodau byr lle mae newid yn digwydd, cael ei hun mewn lle cryf ac yna sefydlogi ac adeiladu ar y gefnogaeth newydd mae wedi ei hennill yn ystod y cyfnod o newid araf.  

Mae'n debyg ein bod mewn cyfnod o newid cyflym ar hyn o bryd, a does yna fawr o neb mewn sefyllfa i fanteisio ar yr hyn sy'n digwydd.  Ystyrier y pleidiau unoliaethol. 

Yn y dyddiau yn union ar ol y refferendwm roedd yn edrych mai'r Toriaid oedd am golli cefnogaeth, a hynny'n gyflym.  Roedd Cameron newydd ymddiswyddo, roedd pawb yn beio ei gilydd am yr hyn oedc wedi digwydd, ac roedd Llafur wedi goddiweddyd y Toriaid yn y polau am y tro cyntaf ers i Corbyn ennill yr arweinyddiaeth.

Wedyn cafwyd penderfyniad trychinebus gan y rhan fwyaf o aelodau seneddol Llafur i gymryd mantais o ganlyniad y refferendwm a gwneud yr hyn roeddynt yn marw eisiau ei wneud ers blwyddyn -  cael gwared o Corbyn.  Wnaeth hynny ddim gweithio - a chafwyd misoedd o ryfel cartref ers hynny - a misoedd o golli cefnogaeth.

Yn y cyfamser treuliodd y Toriaid gyfnod byr lle'r oedd pawb yn trywannu pawb arall yn ei gefn, cyn mynd ati i setlo am arweinydd heb roi unrhyw ddewis o gwbl i'r aelodau cyffredin.  Dyma sut mae pethau'n gweithio yn y Blaid Doriaidd.  

Canlyniad hyn oll ydi bod y Toriaid yn ymddangos yn gryf ac yn unedig, tra bod Llafur yn ymddangos yn wan a rhanedig - ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y polau.  Mae hyn yn gamarweiniol wrth gwrs - a bydd hynny'n dod yn amlwg fel y bydd manylion y trafodaethau i adael y DU yn dod yn amlycach.  

Cafodd y refferendwm ei hennill i raddau trwy argyhoeddi digon o bobl y byddai'n bosibl gadael yr Undeb, aros yn y farchnad sengl ac atal mewnfudo i'r DU.  Dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd, a phan ddaw hynny'n amlwg bydd rhwygiadau yn ymddangos unwaith eto yn y Blaid Geidwadol - a bydd hollt yn ymddangos oddi mewn i'r dosbarth aelodau etholedig Ceidwadol a rhwng y dosbarth hwnnw a'r aelodaeth gyffredin.  

Oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd tros y misoedd diwethaf ni fydd Llafur mewn lle i gymryd mantais o drallodion y Toriaid - byddant yn lwcus o allu aros yn un blaid. Bydd y gwenwyn sydd wedi ei greu gan wrthryfel gwleidyddion proffesiynol Llafur yn erbyn eu haelodau llawr gwlad yn parhau i niweidio'r Chwith am gyfnod maith.  

Bydd y ddwy brif blaid draddodiadol yn wan a rhanedig yn y tymor canolig o leiaf.  

Mae'n debyg y bydd y Dib Lems druan yn codi o'r dyfnderoedd maent wedi plymio iddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond bydd yn cymryd amser maith iddynt ddad halogi eu hunain yn dilyn eu cyfnod maith yn cynnal llywodraeth Doriaidd Cameron.

Ac wedyn dyna ni UKIP - mae'r ffraeo mewnol yno yn ddigon i wneud i ffraeo Llafur ymddangos yn eithaf boneddigaidd a chwrtais - ac mae ganddyn nhw'r cymlethdodau pellach o orfod ail ddiffinio eu hunain yn sgil Brexit a gorfod delio efo'r ffaith na fydd ganddynt prin unrhyw wleidyddion proffesiynol y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol maes o law - diolch i'w llwyddiant yn y refferendwm.

Ac mae hyn oll yn gadael cyfle i blaid unedig, hyderus fydd yn cael ei phrofi'n gywir o safbwynt Brexit, a sydd a gweledigaeth glir ynglyn a dyfodol Cymru i symud ymlaen a sefydlu ei hun fel prif blaid Cymru.  Mae'r cyfle yn un rhy dda - a phrin - i'w golli - ac os na fydd Plaid Cymru'n gwneud y mwyaf ohono, bydd hanes yn ei beirniadu'n hallt.  


1 comment:

Anonymous said...

http://ifanmj.blogspot.co.uk/2016/09/why-plaid-cymru-should-move-to-centre.html