Friday, September 23, 2016

Is etholiadau cyngor yr wythnos

4 comments:

Anonymous said...

Newyddion cymysg. Biti fod arolwg diweddaraf Roger Scully yn dangos mai'r Ceidawdwyr sy'n elwa o lanast Llafur ar y funud. Tybiaf fod angen i Blaid Cymru anghofio brwydr Brexit, a dechrau brwydro o ddifrif am annibyniaeth. Mae'n anodd codi ysbryd cefnogwyr wrth rygnu ymlaen am frwydr lle roedd nifer ohonom gyda teimladau cymysg am y canlyniad bethbynnag.

Anonymous said...

Unig beth mae arolwg Scully yn dangos ydy dylanwad gwleidyddiaeth Prydeinig ar feddyliau yng Nghymru a'r realiti ydy bod gwleidyddiaeth y ddwy blaid fwya Prydeinig wedi dominyddu'r tonfeddu ers Brexit.

Cneifiwr said...

Yr hyn sy'n cyfri, Anhysbys, ydy canlyniadau go iawn. Enillodd y Blaid yng Nghilycwm. 2% oedd canran y Toriaid.

Anonymous said...

Cytuno, ond pam bwydo gwleidyddiaeth Prydeinig drwy godi 'Brexit' unwaith eto ? Mae'n fater sydd wedi selio yn meddyliau'r etholwyr fel mater o ymdeimlad Prydeinig. Mae angen i PC ddechrau roi agenda sy'n unigryw Gymreig o flaen yr etholwyr. Cyn belled ac y mae hwythau yn y cwestiwn, mae'r Gymuned Ewropeaidd yn perthyn i ddoe.