Sunday, September 25, 2016

Llafur - beth nesaf?

Felly dyna'r coup drosodd - o bosibl un o'r cynllwyniau mwyaf di glem ac idiotaidd yn hanes gwleidyddiaeth diweddar - wedi ei gynnal ar yr amser anghywir, yn gwneud defnydd o'r ymgeisydd anghywir ac yn siwr o fethu o'r dechrau'n deg.  Y bwriad oedd difa arweinyddiaeth Corbyn, a thrwy hynny gryfhau'r Blaid Lafur yn etholiadol.  Y canlyniad oedd cryfhau gafael Corbyn ar y blaid a'i thanseilio'n etholiadol.



Reit - beth fydd yn digwydd nesaf?  Yn fy marn bach i, rhywbeth tebyg i'r canlynol.

1).  Bron pawb oddi mewn i'r blaid yn galw am undod.  Siarsio cyffredinol mai'r dasg rwan ydi gwrthwynebu'r Toriaid ac ati, ac ati.

2).  Y Chwith yn mynd ati i ddefnyddio ei fantais niferol i adgyfnerthu ei afael ar strwythurau mewnol y blaid.  Mewn gwirionedd does ganddi ddim dewis.  Roedd diffyg rheolaeth lawn y Chwith tros y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn gryn fygythiad i Corbyn - cael a chael oedd hi iddo gael caniatad i sefyll o gwbl.  Wnaeth ymdrechion pencadlys Llafur i atal cefnogwyr Corbyn rhag pleidleisio yn eu miloedd ddim gwahaniaeth yn y diwedd - roedd y bwlch rhy fawr.  Ond roeddynt yn dangos y perygl o fod a rheolaeth rannol yn unig o'r blaid.

3). Gwrthryfelwyr o Aelodau Seneddol yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd.  Mae'r newid ffiniau, a'r ffaith bod mwyafrif aelodau lleol y blaid yn gefnogol i Corbyn yn rhoi cryn bwysau ar y cyfeillion hyn. Mae swydd aelod seneddol efo cyflog rhy dda, ac amodau gwaith rhy ffafriol i'w colli ar chwarae bach.  Bydd y cam nesaf yn dyngedfenol i lawer ohonynt. 

Eisoes gwelwyd Nia Griffith yn gwneud ei phenderfyniad - ar ol yr holl honni nad ydi Corbyn yn etholadwy mae wedi plygu glin a dychwelyd i'r gorlan yn llywath ei gwedd a thawel ei llais.  Roedd rhai o aelodau ei phlaid leol hi ymysg y mwyaf llafar eu cefnogaeth i Corbyn wrth gwrs.  

Mae'n debygol y bydd eraill yn dod i gasgliadau gwahanol - bydd rhai yn aros ar y cyrion  i weld beth ddigwyddith ac yn gweithredu wedyn, tra bydd eraill eto yn penderfynu bod eu perthynas efo'u pleidiau lleol wedi ei niweidio i'r fath raddau nad ydynt am gael eu hail ddewis - a byddant yn edrych ar yr opsiynau sy'n cynnig y posibiliadau gorau o barhau i fod yn aelodau seneddol wedi 2020. 

4). Adain Dde, Blairaidd y blaid yn penderfynu beth i'w wneud.  

Mae'n bwysig deall bod i'r Blaid Lafur dair prif cydadran - Y Chwith, y Dde a'r sawl sydd heb ideoleg cryf.  O ran yr aelodaeth mae'r Chwith yn gryfach na'r un cydadran arall - mae canlyniad yr etholiad yn brawf o hynny.  

Sect bach ydi'r un Blairaidd, ond mae wedi ei or gynrychioli ymysg aelodau seneddol a llwyddodd i ennill rheolaeth tros y blaid am gyfnod o tua pymtheg mlynedd.  Yr hyn wnaeth y sect Blairaidd tra'n rhedeg y blaid - a'r wladwriaeth - sydd wrth wraidd llawer o'r anhrefn sy'n nodweddu Llafur heddiw.  

Mae'r gweddill yn weddol ddi ideoleg.  Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau seneddol a lwmp mawr o'r Blaid Lafur 'Gymreig' yn y categori yma.  Mae Owen Smith yn esiampl arbennig o dda.  Cyn iddo geisio gosod ei hun ar Chwith y blaid i bwrpas  ennill yr etholiad arweinyddol doedd o erioed wedi dangos fawr o gredoau sylfaenol o gwbl ag eithrio gwrthwynebiad llwyr i iobs a defaid, diffyg diddordeb mewn datganoli, tueddiadau unoliaethol cryf, ymdeimlad o fod yn anghysurus ynglyn a'i Gymreigrwydd ac ambell i ddatganiad na fyddai ymyraeth y sector breifat yn y Gwasanaeth Iechyd yn beth drwg i gyd yn y dyddiau pan roedd yn gweithio i Pfizer. 

Bydd y di ideoleg yn dilyn y llwybr sy'n fwyaf tebygol o sicrhau eu goroesiad gwleidyddol.  Mae pethau'n wahanol i'r Dde Blairaidd.  Ag eithrio agweddau tuag at Brexit mae yna lawer mwy yn gyffredin rhyngddyn nhw a'r Blaid Doriaidd na sydd rhyngddyn nhw a Corbyn.  Os ydi'r Chwith yn cadarnhau ei afael ar y blaid mae'n fwy na phosibl y bydd rhain yn gadael.  Dydi'r system etholiadol ddim yn garedig efo pleidiau bach yn y DU - ond mae gan y Blairiaid aelodau seneddol ond dim plaid, ac mae gan y Dib Lems blaid ond fawr ddim aelodau seneddol _ _ .

Ond beth bynnag fydd gwhanol elfennau o'r Blaid Lafur yn ei wneud tros y misoedd nesaf, mae un peth yn sicr - mae'r holl gybol wedi gwneud cryn ffafr a'r Toriaid.  Mae yna raniafau go iawn yn y blaid honno tros Brexit, ond diolch i antics y Blaid Lafur 'dydi'r cyfryngau heb orfod adrodd ar hynny eto.  

No comments: