Thursday, September 22, 2016

Cymharwch a chyferbyniwch

O leiaf mae'r Western Mail yn adnabod stori fawr pan maen nhw'n gweld un.  Ac wrth gwrs mae'r ffaith bod Llafur - yn yr unig ran o'r DU mae'n ei llywodraethu - yn pleidleisio i efo'r Toriaid ac UKIP yn erbyn cynnig oedd yn nodi pwysigrwydd mynediad llawn i Gymru o'r farchnad sengl yn stori fawr.

Dydw i ddim adref - a does gen i ddim mynediad hawdd i wasanaethau'r Bib, ond does yna ddim llawer i'w weld am y stori ar eu gwefan.  

Byddwch yn cofio ymateb hysteraidd y Bib pan bleidleisiodd Aelodau Cynulliad Toriaidd ac UKIP tros Leanne Wood i fod yn Brif Weinidog.  Anfonwyd gohebydd i Flaenau Gwent i honni wrth bobl (yn hollol anghywir) bod clymblaid rhwng y Blaid, UKIP a'r Toriaid, gwneud vox pop ar sail y celwydd hwnnw a'i roi ar flaen eu rhaglen.









Meddyliwch am y peth am funud - plaid lywodraethol Cymru yn pleidleisio efo criw o bobl oedd at ei gilydd eisiau gadael yr Undeb Ewropiaidd yn uniongyrchol yn erbyn buddiannau Cymru ar ol cyfnod lle mae Brexit wedi dominyddu'r newyddion am fisoedd - ac mae'r darlledwr gwladwriaethol yn hynod dawedog am y peth.  

Hunan sensoriaeth ydi'r term technegol dwi'n meddwl.  

2 comments:

Anonymous said...

Falle nad oedd hi'n stori fawr gan na drafferthodd hanner aelodau PC gefnogi'r cynnig. Os nad oedd hanner aelodau cynulliad PC yn gallu trafferthu bwrw pleidlais ar gynnig gan Blaid Cymru ai syndod fod y BBC yn rhannu'r diflastod?

Anonymous said...

Beth am ein hannwyl Dafydd El, te? Mi bleidleisiodd dros y cynnig, a phan fethodd hwnnw, mi bleidleisiodd dros 'welliant' y Torïaid. Yna, mi bleidleisiodd yn erbyn y cynnig fel y'i 'gwellwyd', er iddo bleidleisio dros y 'gwelliant' munudau o'r blaen! Mae 'Milord' yn jôc sâl ar Gymru, fel y mae wedi bod ers dros 30 mlynedd.