Cwestiwn ar dudalen sylwadau blogiad diweddar ynglyn a pham bod yr SNP wedi apelio yn ddiweddar at bobl sydd wedi rhoi 'r gorau i bleidleisio i Lafur, tra nad ydi hynny wedi digwydd i Blaid Cymru ydi'r rheswm am y blogiad hwn. Fel rheol mae Blogmenai yn delio mewn canrannau wrth ymdrin ag etholiadau, ond i bwrpas y blogiad hwn byddwn yn delio efo niferoedd rhifol yn bennaf - mae'n fwy perthnasol i fwriad y blogiad.
Ta waeth o edrych ar etholiadau San Steffan Cymru ers 1997 mae'n amlwg i Lafur golli cryn dipyn o bleidleisiau - tua 230,000 a bod yn fanwl. Mae'r Toriaid wedi graddol gynyddu eu pleidlais ers eu perfformiad salaf yn 2001 o tua 120,000 pleidlais. Cododd pleidlais y Lib Dems tros i 100,000 rhwng 2001 a 2010, cyn iddynt gyflawni'r wyrth o golli bron i 200,000 o bleidleisiau bum mlynedd yn ddiweddarach. Gweddol ymylol oedd UKIP hyd at 2015 pan gynyddodd eu pleidlais bron i 170,000 o gymharu a 2005. O gymharu a'r newidiadau anferth yma mae pleidlais y Blaid wedi bod yn rhyfeddol o gyson - gan aros yn yr amrediad 160,000 i 196,000 trwy gydol y cyfnod. Llwyddodd UKIP i ddod o unman yn 2010 i fod yn drydydd yn 2015.
Felly, os ydym yn gofyn pwy sydd wedi elwa o gwymp y bleidlais Lafur yr ateb ydi pawb ar rhyw bwynt neu'i gilydd ag eithrio Plaid Cymru. Mae 'pawb' gyda llaw hefyd yn cynnwys 'neb'. Roedd yna 125,000 llai yn pleidleisio yn 2015 na wnaeth yn 1997 - er bod 80,000 mwy ar y gofrestr pleidleisio erbyn 2015.
Mae yna rhywfaint yn gyffredin rhwng patrwm Cymru a'r Alban. Cwymp y bleidlais Lafur ydi'r peth mwyaf amlwg - ond mae'r cwymp yn llawer mwy - tua hanner miliwn rhwng 1997 a 2015. Roedd pleidlais yr SNP yn llawer llai sefydlog nag un y Blaid. Collwyd tros i 200,000 o bleidleisiau tros ddwy etholiad o 1997 i 2005 ond enillwyd tua miliwn o bleidleisiau tros y ddwy etholiad ddilynol - y rhan fwyaf o ddigon rhwng 2010 a 2015. Cynyddodd y Lib Dems eu pleidlais yn sylweddol rhwng 1997 a 2005 - gan ddod yn ail yn yr etholiad honno. Ond cafwyd cwymp o rai degau o filoedd rhwng 2005 a 2010, a chollwyd chwarter miliwn o bleidleisiau rhwng 2010 a 2015. Fel yr SNP syrthiodd pleidlais y Toriaid i'w bwynt isaf yn 2005 gan gynyddu yn raddol yn y ddwy etholiad ddilynol - er bod eu pleidlais 60,000 yn is ym mis Mai eleni nag oedd yn etholiad trychinebus 1997. Roedd pleidlais y tair prif blaid unoliaethol yn sylweddol is yn 2015 nag oeddynt yn 1997.
Pleidleisiodd tua 100,000 mwy yn 2015 nag yn 1997 gyda llaw - sy'n awgrymu bod nifer sylweddol o bobl nad oeddynt wedi pleidleisio ers talwm wedi mynd allan i bleidleisio i'r SNP. Fel y gellir gweld o'r tabl isod mae cyfraddau pleidleisio yn yr Alban bellach yn ol i ble'r oedd yn 1997 tra bod Cymru wedi llithro o fod y mwyaf tebygol i bleidleisio i fod y lleiaf tebygol o wneud hynny - oni bai am Ogledd Iwerddon.
Etholiad | DU | Lloegr | Cymru | Yr Alban | G. Iwerddon |
---|---|---|---|---|---|
2015 | 66.1% | 65.8% | 65.7% | 71.1% | 58.1% |
2010 | 65.1% | 65.5% | 64.7% | 63.8% | 57.6% |
2005 | 61.4% | 61.3% | 62.6% | 60.8% | 62.9% |
2001 | 59.4% | 59.2% | 61.6% | 58.2% | 68% |
1997 | 71.4% | 71.4% | 73.5% | 71.3% | 67.1 |
Ond roedd yna etholiadau eraill rhwng yr etholiadau San Steffan - a'r rhai pwysicaf o'r rheiny oedd etholiadau Cynulliad a Holyrood. O safbwynt y Blaid, yr etholiad orau o ddigon oedd y gyntaf. Yn wir dyma'r etholiad orau yn hanes y Blaid - sut bynnag rydym yn edrych arni. Roedd y 290,000 yn uwch na'r un bleidlais arall a gafodd y Blaid erioed - roedd y bleidlais wedi dwblu bron ers etholiad San Steffan 87 er i'r gyfradd pleidleisio syrthio. Cafodd y Blaid 28.4% o'r bleidlais, o gymharu a 37.6% Llafur. Roedd y bleidlais ranbarthol hyd yn oed yn uwch - 312,000 neu 30.5% i 35.3% Llafur. Cafwyd cynnydd sylweddol ar hyd a lled y wlad - roedd hi'n edrych fel petai gwleidyddiaeth Cymru yn newid o'r diwedd ar droad y ganrif. Ni ddaeth y newid hwnnw i fodolaeth, ac ers 2001 mae pleidlais y Blaid wedi ail aros oddi mewn i amrediad cul rhwng 180,000 a 205,000 - tebyg i'r amrediad San Steffan, ond ychydig yn uwch.
Mae pleidlais y pleidiau unoliaethol yn tueddu i fod yn llawer is mewn etholiadau Cynulliad na rhai San Steffan, ond mae'r patrymau yn debyg. Cynyddodd pleidlais y Toriaid yn raddol o 162,000 i 237,000 - adlewyrchiad o'r hyn sydd wedi digwydd ar lefel San Steffan. Roedd pleidlais y Lib Dems yn fwy cyfnewidiol, ond cyrhaeddodd uchafswm ei phleidlais yn 2007 gyda 144,500 o bleidleisiau, gan syrthio'n sylweddol i 100,000 yn 2011. Mae canlyniadau etholiad cyffredinol eleni yn awgrymu bod cwymp pellach ar y ffordd y flwyddyn nesaf. Syrthiodd pleidlais Llafur yn raddol rhwng 1999 a 2007 (er bod y ganran yn stori arall), o 380,000 i 315,000 cyn neidio i 402,000 yn 2011 - eu pleidlais uchaf yn hanes y Cynulliad. Gallwn dybio bod hynny yn adwaith i fuddugoliaeth y Toriaid ar lefel San Steffan y flwyddyn flaenorol.
Tra mai'r etholiad gynharaf oedd yr un mwyaf llwyddiannus i'r Blaid, yr un ddiweddaraf oedd yr un orau i'r SNP. Roedd eu 903,000 fwy na dwywaith eu hisafbwynt o 449,000 yn 2003. Cafwyd cwymp arwyddocaol rhwng 1999 a 2003 o 673,000 i 449,000, adennillwyd y tir a gollwyd (a goddiweddyd Llafur) yn 2007 a chafwyd cynnydd sylweddol yn 2011.
Stori o ddirywiad ydi un Llafur - cwymp enfawr yn eu pleidlais o 908,000 i 660,000 rhwng 1999 a 2003, a chwymp mwy graddol yn y ddwy etholiad ddilynol. Mae hanes y ddwy blaid unoliaethol arall yn adlewyrchu ei gilydd i raddau - cwymp cymharol fach yn eu pleidlais yn 2003, ad ennill tir yn 2007 ac yna cwymp sylweddol yn 2011 - un o tua 50,000 yn achos y Toriaid a 170,000 yn achos y Lib Dems.
Reit - beth allwn ei gasglu o hyn oll?
Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod yr Alban a Chymru yn wledydd tra gwahanol mewn aml i ffordd. Un o'r gwahaniaethau pwysicaf o safbwynt etholiadol ydi bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael bron y cyfan o'u newyddion gwleidyddol o Loegr. Mae'r sefyllfa yn yr Alban yn wahanol - mae yna wasg Albanaidd sydd yn trafod gwleidyddiaeth yr Alban yn fanwl, ac mae rhai o'r papurau mwyaf poblogaidd yn gefnogol i 'r SNP - y Scottish Sun er enghraifft. Mae yna wahaniaethau eraill hefyd - mae yna hollt diwylliannol yng Nghymru tra bod yna un crefyddol yn yr Alban (mae tua 19% o boblogaeth Cymru yn siarad y Gymraeg, tra bod tua 16% o boblogaeth yr Alban o gefndir Pabyddol), mae gan yr Alban fwy o lawer o strwythurau cenedlaethol na Chymru, mae canran llawer is o boblogaeth yr Alban wedi eu geni yn Lloegr na sydd yng Nghymru, ac mae mwy o bobl yr Alban efo hunaniaeth Albanaidd na sydd o bobl Cymru efo hunaniaeth Gymreig. Mae'r SNP hefyd yn hanesyddol gryfach na'r Blaid.
Yr ail beth i'w nodi ydi bod refferendwm 2014 wedi dylanwadu yn sylweddol ar ganlyniadau etholiadau cyffredinol yr Alban yn 2015. Mae'n weddol amlwg i fwyafrif llethol y sawl a bleidleisiodd Ia ymgynyll o gwmpas baner yr SNP, a chanlyniad hynny oedd cyflafan o safbwynt Llafur, a'r Lib Dems, a chynydd sylweddol ym mhleidlais yr SNP. Mae'n amlwg hefyd i nifer sylweddol o bobl nad oedd wedi pleidleisio yn 2010 bleidleisio i'r SNP yn 2015 - pleidleisiodd tua hanner miliwn mwy o bobl yn 2015 o gymharu a 2010. Does yna ddim refferendwm wedi bod yng Nghymru, felly does yna ddim cymhariaeth ystyrlon i'w gwneud ar gyfer 2015.
Cyn hynny fodd bynnag mae yna gymhariaeth i'w gwneud. Syrthiodd pleidlais Plaid Cymru a'r SNP yn sylweddol rhwng 1999 a 2003 yn etholiadau 'r Cynulliad a Holyrood. Rhoddodd Alex Salmond a Dafydd Wigley y gorau i arwain eu pleidiau yn 2000. Roedd y ddau yn adnabyddus a charismataidd yn eu ffyrdd gwahanol, ac roedd Dafydd o leiaf yn erbyn arweinwyr Llafur llai adnabyddus a phoblogaidd na fo ei hun. Mae gan Ieuan Wyn Jones a John Swiney eu cryfderau, ond nid oeddynt mor etholiadol boblogaidd na'u rhaglaenwyr. Digwyddodd pethau eraill hefyd, creodd y pleidiau unoliaethol ddelwedd mwy Cymreig / Albanaidd iddyn nhw eu hunain, aeth Llafur yng Nghymru ati i uniaethu Plaid Cymru efo'r iaith Gymraeg (cofier y Welsh Mirror), gwelodd pleidiau bychain sy'n gefnogol i annibyniaeth dwf yn yr Alban.
Wedi etholiad 2003 collodd Llafur bleidleisiau yng Nghymru a'r Alban yn sgil Rhyfel Irac. Y Lib Dems elwodd ar hynny yn bennaf yn Etholiad Cyffredinol 2005, ond cynyddodd pleidlais y Blaid a'r SNP yn etholiadau 2007 - y Blaid o ychydig, ond ad enilliodd yr SNP bron i'r cwbl o'r pleidleisiau oedd wedi eu colli yn 2003.
Un o'r prif resymau am hyn oedd i Alex Salmond ddychwelyd i arwain y gad. Llithrodd pleidlais Llafur - ac yn groes i'r disgwyl enillodd yr SNP o drwch blewyn a ffurfio llywodraeth leiafrifol. Mynd i glymblaid efo Llafur wnaeth y Blaid, gyda Llafur yn arwain y glymblaid honno. Roedd y ddwy blaid genedlaetholgar mewn llywodraeth, ac yn eu ffyrdd gwahanol roedd y ddwy blaid yn llwyddiannus. Llywodraeth Cymru'n Un oedd yr un orau yn hanes y Cynulliad - ac roedd yr hyn oedd yn wahanol a diddorol amdani yn dod o gyfeiriad Plaid Cymru. Rheolodd yr SNP ar eu pennau eu hunain, gan wneud hynny yn effeithiol iawn - yn llawer mwy effeithiol na'r llywodraethau blaenorol. Roedd goreuon yr SNP yn Holyrood - roedd Tim A Llafur ymhell i ffwrdd yn San Steffan..
Cafodd yr SNP wobr fach yn Etholiad Cyffredinol 2010, ar ffurf cynnydd yn eu pleidlais - byddai wedi bod yn fwy o lawer oni bai mai Brown a Darling oedd yn arwain y Blaid Lafur Brydeinig. Cawsant wobr mwy arwyddocaol o lawer yn Etholiad Holyrood y flwyddyn ganlynol - cynnydd sylweddol yn eu pleidlais, grym ar eu pennau eu hunain a'r cyfle i alw refferendwm annibyniaeth ac ail strwythuro gwleidyddiaeth y wlad. Collodd y Blaid bleidleisiau yn y ddwy etholiad fel ei gilydd. Pan ddaeth Etholiad Cyffredinol 2015 cynyddodd ei phleidlais - gan roi'r ganran ail uchaf mewn etholiad cyffredinol yn hanes y Blaid, ond bychan oedd y cynnydd wrth ochr yr un ol refferendwm a gafodd yr SNP.
Felly pa gasgliadau cyffredinol ydym yn gallu eu tynnu o hyn oll?
1) Nid oes yna dystiolaeth bod yr SNP wedi tynnu llawer mwy o bobl i mewn i'r broses etholiadol hyd y refferendwm - hwnnw ydi'r trobwynt o ran ail gysylltu efo'r etholwyr coll.
2) Mae yna gryn dipyn o dystiolaeth bod gwleidyddiaeth Cymru yn llawer mwy Prydeinig nag un yr Alban - mae'r twf graddol ym mhleidlais y Toriaid yng Nghymru yn ogystal a'r ffaith bod cefnogaeth UKIP yn debyg yng Nghymru a Lloegr yn awgrymu hynny'n gryf. Dydi UKIP ddim yn gystadleuol yn yr Alban, a fflat ar y gorau ydi cefnogaeth y Toriaid.
3). Mae yna gwymp hir dymor yng nghefnogaeth Llafur yng Nghymru a'r Alban. Yr eithriad ydi Etholiadau'r Cynulliad yn 2011 pan ymatebodd pobl Cymru i fuddugoliaeth Doriaidd yn San Steffan trwy roi mwy o gefnogaeth i'r brif blaid lywodraethol yng Nghymru - adlais llai trawiadol mewn ffordd o'r symudiad at yr SNP yn yr Alban. Mi fyddwn yn betio cryn dipyn o bres y bydd y gogwydd hir dymor yn parhau yn 2016 ac y bydd y bleidlais Lafur yn syrthio tuag at ei lefel 2007.
4). Mae Plaid Cymru yn ei chael yn eithriadol o anodd cael pobl o'r tu allan i'w chefnogwyr creiddiol i bleidleisio iddi - mae llawer o'r bobl hyn yn byw yn hanner gorllewinol y wlad, ac mae yna ganran uchel ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. Unwaith yn unig mae'r patrwm hwnnw wedi ei dorri mewn gwirionedd - yn 1999. Llwyddodd Llafur i ail sefydlu'r patrwm yn weddol ddi drafferth erbyn 2003. Mae'r SNP wedi torri allan o'u cadarnleoedd gan apelio at y dosbarth gweithiol trefol, ac at Babyddion. Roedd y broses yma wedi cychwyn yn 2007 - saith mlynedd cyn y refferendwm.
5). Yr hyn a agorodd y drws i'r SNP oedd y fuddugoliaeth trwch blewyn a ffodus yn Holyrood yn 2007. Dyna roddodd y cyfle iddynt ddangos eu bod yn well na Llafur am reoli. Dilynodd pob dim arall o hynny - y cynnydd yn 2010, cyflafan 2011, refferendwm 2014 a chwalu cynrychiolaeth Albanwyr unoliaethol San Steffan yn 2015.
Ac os oes yna wers i 'w dysgu o 'r gymhariaeth Cymru / Yr Alban mae hi'n ymwneud a'r diwethaf o'r pwyntiau uchod. O ennill o dan yr hen reolau, roedd yr SNP mewn sefyllfa i fynd ati i newid y drefn oedd ohoni, ac wedi hynny i newid y tirwedd etholiadol ar pob lefel. Ac yna mae'r her i'r Blaid - i arwain llywodraeth ym Mae Caerdydd - a dod i wneud hynny o dan y gyfundrefn sydd ohoni.
Mae'n edrych yn dalcen caled, ond bydd pwysau sylweddol ar Lafur y flwyddyn nesaf - yn erbyn twf graddol y Toriaid, yn erbyn y Blaid o'r Chwith ac yn erbyn UKIP yn rhai o'i chadarnleoedd traddodiadol. Ar ben hynny mae'n edrych yn debygol bellach y bydd yr etholiad yn cael ei hymladd yng nghysgod drwg deimlad fydd wedi codi yn sgil yr etholiad arweinyddol. Efallai na fydd dod o flaen Llafur yn cymaint o gamp yn 2016 nag yw wedi bod yn y gorffennol.
Pwysigrwydd ennill grym, a'i ymarfer yn effeithiol ydi'r brif wers sydd gan yr SNP i'w dysgu i'r Blaid.
3 comments:
Anhygoel meddwl taw un boi ystyfnig oedd yn ymgeisydd ar y rhestr yn Ynysoedd Heledd a fynnodd ail-gyfrif sydd i'w ddiolch am ganlyniad yr SNP yn 2007. Fel arall Llafur fuasai'r blaid â'r nifer fwyaf o seddi. Y canlyniad hwnnw a alluogodd Alex Salmond i ddod yn brif weinidog, sicrhau mwyafrif yn yr etholiad nesaf a wedyn y refferendwm annibyniaeth yn 2014. Prawf ei bod yn werth ymladd am bob pleidlais.
Sylwadau diddorol. Mae dy baragraff clo yn neilltuol bwysig - rhaid ennill grym! Dyna ddadl Llafur rwan efo cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth - oes posib ennill grym wrth symud i'r chwith efo Corbyn? Mae hanes etholiadol Lloegr yn awgrymu nad ydi hynny'n bosibl.
A beth am Hymru? Ai gosod y Blaid i'r chwith o Llafur ddylid? Ynteu ydi Llafur wedi meddiannu'r tir canol Cynreig (sy'n amlwg i'r chwith o Lloegr) ac felly ai apelio at garfan bychan o'r etholwyr y mae'r Blaid?
Awgrym arall. Beth am ffurfio ail Cymru'n Un efo Llafur ar ôl yr etholiad a defnyddio'r grym i gryfhau'r hunaniaeth Cymreig? Galw GIC yn Gwasanaeth Iechyd Cymru ee. Datganoli cyfiawnder, llysoedd a'r heddlu hefyd. Yn y tymor hir oni fyddai hyn yn cryfhau hunaniaeth Cymru ac yn ei gwneud yn haws ennill refferendwm annibyniaeth yn y man?
Yr un peth nad ydwyt yn ei grybwyll yw arian! Roedd tri allan o'r deg uchaf a gyfrannodd arian at achos wleidyddol llynedd wedi cyfrannu i'r SNP / achos annibyniaeth.
Cafodd miloedd lawer eu cyfrannu i achosion cenedlaethol all SNP megis Wings Over Scotland.
Mi addewais lawer i achosion y Blaid ar y wefannau cefnogi ymgeiswyr - gyda'r ymateb bod dim wedi ei dynnu o'r cyfrif banc gan nad oedd y targed wedi ei gyrraedd ar lawer – sy'n golygu fy mod wedi roi llai i'r achos nag oeddwn wedi cyllido!
OK does dim modd sicrhau bod Cai am ennill ffortiwn ar y loteri, ond byddai tynhau yr ymgyrchoedd hel celc ar y we yn fanteisiol. Rwy'n flin bod £10 o addewid i achos y Blaid heb ei dalu i'r achos oherwydd bod rhyw achos yn y dwyrain gwyllt heb lwyddo hel digon o addewidion!
Post a Comment