tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post2254810522097721460..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Gwleidyddiaeth Cymru a'r Alban - cymhariaethCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger3125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-47771942024981406922015-07-28T06:42:57.936+01:002015-07-28T06:42:57.936+01:00Yr un peth nad ydwyt yn ei grybwyll yw arian! Roed...Yr un peth nad ydwyt yn ei grybwyll yw arian! Roedd tri allan o'r deg uchaf a gyfrannodd arian at achos wleidyddol llynedd wedi cyfrannu i'r SNP / achos annibyniaeth.

Cafodd miloedd lawer eu cyfrannu i achosion cenedlaethol all SNP megis Wings Over Scotland.

Mi addewais lawer i achosion y Blaid ar y wefannau cefnogi ymgeiswyr - gyda'r ymateb bod dim wedi ei dynnu o'r cyfrif banc gan nad oedd y targed wedi ei gyrraedd ar lawer – sy'n golygu fy mod wedi roi llai i'r achos nag oeddwn wedi cyllido!

OK does dim modd sicrhau bod Cai am ennill ffortiwn ar y loteri, ond byddai tynhau yr ymgyrchoedd hel celc ar y we yn fanteisiol. Rwy'n flin bod £10 o addewid i achos y Blaid heb ei dalu i'r achos oherwydd bod rhyw achos yn y dwyrain gwyllt heb lwyddo hel digon o addewidion!
Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-31479865599093182802015-07-24T07:43:42.028+01:002015-07-24T07:43:42.028+01:00Sylwadau diddorol. Mae dy baragraff clo yn neilltu...Sylwadau diddorol. Mae dy baragraff clo yn neilltuol bwysig - rhaid ennill grym! Dyna ddadl Llafur rwan efo cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth - oes posib ennill grym wrth symud i'r chwith efo Corbyn? Mae hanes etholiadol Lloegr yn awgrymu nad ydi hynny'n bosibl.

A beth am Hymru? Ai gosod y Blaid i'r chwith o Llafur ddylid? Ynteu ydi Llafur wedi meddiannu'r tir canol Cynreig (sy'n amlwg i'r chwith o Lloegr) ac felly ai apelio at garfan bychan o'r etholwyr y mae'r Blaid?

Awgrym arall. Beth am ffurfio ail Cymru'n Un efo Llafur ar ôl yr etholiad a defnyddio'r grym i gryfhau'r hunaniaeth Cymreig? Galw GIC yn Gwasanaeth Iechyd Cymru ee. Datganoli cyfiawnder, llysoedd a'r heddlu hefyd. Yn y tymor hir oni fyddai hyn yn cryfhau hunaniaeth Cymru ac yn ei gwneud yn haws ennill refferendwm annibyniaeth yn y man?Dyfednoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-63547037587430680442015-07-23T23:06:01.776+01:002015-07-23T23:06:01.776+01:00Anhygoel meddwl taw un boi ystyfnig oedd yn ymgeis...Anhygoel meddwl taw un boi ystyfnig oedd yn ymgeisydd ar y rhestr yn Ynysoedd Heledd a fynnodd ail-gyfrif sydd i'w ddiolch am ganlyniad yr SNP yn 2007. Fel arall Llafur fuasai'r blaid â'r nifer fwyaf o seddi. Y canlyniad hwnnw a alluogodd Alex Salmond i ddod yn brif weinidog, sicrhau mwyafrif yn yr etholiad nesaf a wedyn y refferendwm annibyniaeth yn 2014. Prawf ei bod yn werth ymladd am bob pleidlais.Dafydd Williamsnoreply@blogger.com