Mae'n ddiddorol bod y cyfryngau prif lif wedi cymryd diddordeb yn y ffaith i Leanne Wood roi ei henw ymlaen i gael ei henwebu ar gyfer rhestr Canol Canolbarth Cymru tra'n methu mynd ar ol stori mwy diddorol o lawer sy'n ymwneud a'r rhestrau rhanbarthol.
Dydi'r Toriaid ddim yn awyddus iawn i siarad am hyn, ond y ffordd aethant ati i ddewis ymgeiswyr rhestr yn 2011 oedd trwy ddilyn trefn unigryw eu hunain - gadael i'r sawl oedd eisoes wedi eu hethol ar y rhestrau fynd yn syth i ben y rhestrau hynny heb orfod mynd trwy'r drafferth a'r anghyfleustra o gyflwyno eu hunain ger bron aelodau o'r Blaid Doriaidd. Prin i'r cyfryngau prif lif sylwi ar yr esiampl rhyfeddol yma o anatebolrwydd a dirmyg tuag at brosesau democrataidd - heb son am ddechrau gofyn cwestiynau am briodoldeb y drefn.
Go brin bod fawr o wrthwynebiad i'r drefn yma gan Aelodau Cynulliad Toriaidd yn 2011 - doedd ymgeisyddiaeth ddeuol ddim yn bosibl oherwydd jerimandro'r llywodraeth Lafur flaenorol. Ond rwan bod y sefyllfa wedi newid mae'n ddigon posibl y bydd yr Aelodau Cynulliad sydd yn cynrychioli etholaethau eisiau'r yswiriant ychwanegol o fod ar y rhestrau rhanbarthol.
Efallai y bydd yn fwy anodd i'r pwyllgor bach o bwysigion sy'n arwain y Toriaid Cymreig aeth ati i roi seddi Cynulliad i'w mets yn 2011 wneud hynny eto y flwyddyn nesaf.
1 comment:
Mae agwedd y pleidiau Unoliaethol tuag at y cwestiwn hwn yn hollol anghredadwy.
Pan mae aelodau seneddol a chynulliad (digon di-nod yn aml) o bleidiau mawr Llundain yn colli sedd neu yn ymddeol - be ma nhw yn ei wneud ?
Ateb - Mynd i Dy'r Arglwyddi. Dyma restr digon anghyflawn ond ta waeth.
Llafur - Elystan Morgan, Neil a Glenys Kinnock, Donald Anderson, Alan Howarth, Ted Rowlands, John Morris, Barry Jones, Ivor Richard, Anita Gale, Eluned Morgan
Toriaid - Nicholas Edwards, Wyn Roberts, Nick Bourne
Ond y giamstars ar y gem hon, heb os yw'r Lib-Dems.
Alex Carlile, Roger Roberts, Mike German, Christine Humphreys, Martin Thomas (pwy medd pawb?), Richard Livsey a Jenny Randerson.
Yr wythnos nesaf bydd y rhestr nesaf yn ymddangos - rhestr penblwydd a rhestr methiannau etholiad 2015.
Pwy fydd ar y list y tro yma sgwn i ? Cawn weld cyn diwedd yr wythnos.
Mae'r cyfan yn drewi!!
Post a Comment