Rwan mae llawer o hyn yn wir - byddai gadael yr Ewro yn achosi anhrefn, byddai yna lawer o ddioddefaint, byddai mewnforion yn ddrud iawn, byddai pobl yn ei chael yn anodd i dalu dyledion, byddai chwyddiant yn uchel - ond hanner y stori ydi hi. Mae yna ochr arall i'r stori hefyd - un nad ydi Joe eisiau dweud wrthym amdani. Petai'r Drachma'n colli hanner ei gwerth byddai Gwlad Groeg yn fwyaf sydyn ymhlith y lleoliadau gwyliau rhataf yn y Byd, a byddai nwyddau a chynnyrch amaethyddol o Wlad Groeg hefyd yn rhad iawn - ac felly'n gystadleuol iawn. Os ydi Gwlad Groeg yn gadael yr Undeb Ewropiaidd yn ogystal a'r Ewro gall gymryd camau i atal cyfalaf rhag gadael y wlad - rhywbeth sy'n anathema i'r Undeb Ewropiaidd, ond sy'n ddigon posibl i'w wneud. Gallai hefyd adael i'r banciau fynd yn fethdalwyr, ac felly trosglwyddo'r gyfrifoldeb ariannol am eu cynnal oddiwrth pobl gyffredin Gwlad Groeg a thuag at gredydwyr tramor - y bobl mae Mr Dijsselbloemyn poeni cymaint amdanynt.
Tros amser byddai'r economi yn dod at ei hun, a byddai gwerth y Drachma yn cynyddu. Byddai'r economi yn ail sefydlogi, ac yn dechrau tyfu. Os nad ydych yn fy nghredu mae'r patrwm yma o ddymchweliad economaidd difrifol yn cael ei ddilyn gan dwf economaidd yn digwydd o dro i dro. Dilynwyd argyfwng ariannol Gwlad yr Ia (2008 - 2011) gan adferiad gweddol gryf a chyflym. Felly hefyd argyfwng yr Ariannin (1998-2002).
Rwan dydw i ddim yn cymryd arnaf am eiliad na fydd y digwyddiadau sy'n debygol o ddigwydd tros y dyddiau nesaf yn achosi dioddefaint ac anhrefn. Ond dydi pethau ddim mor syml a mae'r BBC a'r rhan fwyaf o'r cyfryngau prif lif yn honni. Ag ystyried y dioddefaint mae llymder eithafol wedi ei achosi yng Ngwlad Groeg eisoes, a'r dioddefaint sydd yn debygol o gael ei achosi yn y dyfodol, mae'n fwy na thebyg mai cerdded i ffwrdd oddi wrth yr Ewro ac yn wir Ewrop ydi'r llwybr mwyaf rhesymegol i Wlad Groeg.
Mae'r stori yn un gweddol gyfarwydd - mae'r sefydliadau cyfryngol a gwleidyddol yn Ewrop yn blaenori buddiannau sefydliadau ariannol a byddsoddwyr tros fuddiannau trwch poblogaeth Ewrop. Dyna beth sydd wrth wraidd yr hanner stori rydym yn ei chael o Wlad Groeg.
1 comment:
Dyma'r union ddadl megis Gwlad Groeg ac ymateb Gwlad yr Ia a glywsom gan Nigel Farage (o bawb!.. flynyddoedd gynt hefyd..)
Gwyliwch hyn am brawf:
https://www.youtube.com/watch?v=tcrx1yITXis
Post a Comment