Yn ol ei dystiolaeth ei hun mae ganddo lawer o daflenni i'w postio.
Rwan dydi gwthio pamffledi trwy ddrysau ddim yn ddefnydd da o amser ymgeisydd. Dwi'n siwr bod ymgeiswyr ar hyd a lled Cymru yn taflennu - fel Mr Pugh - oherwydd nad oes ganddynt lawer o bobl eraill i wneud hynny, ond mi fyddai'n well o lawer petaent yn treulio eu hamser yn siarad efo darpar etholwyr.
Mae Llanberis wedi ei daflennu gan y Blaid hefyd - a Phenisarwaun - sawl gwaith. Ond pobl sy'n byw yn y pentrefi hynny oedd yn gwneud y taflennu, nid yr ymgeisydd seneddol. Pobl leol fydd yn taflennu Dyffryn Ogwen hefyd, a Chaernarfon a'r rhan fwyaf o lefydd eraill yn Arfon ar ran y Blaid.
Dwi ddim yn codi hyn eto i rwbio trwyn unrhyw un yn y baw - ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cafodd Arfon ei pholio ychydig wythnosau yn ol, ac nid Plaid Cymru oedd yn gyfrifol am y polio hwnnw (does gan y Blaid ddim y pres mawr mae ei angen i dalu am bethau felly). Yr unig blaid wleidyddol arall fyddai efo diddordeb yn Arfon fyddai Llafur - mae'n sedd darged i'r blaid honno.
Rydym wedi son eisoes nad ydi Mr Pugh yn cael llawer iawn o gymorth yn lleol - ond byddai dyn yn disgwyl y byddai Llafur yn ganolog yn gwneud iawn am hynny petaent yn meddwl bod ganddynt obaith realistig o ennill y sedd. Tybed os ydi polio Llafur wedi eu hargyhoeddi bod yna seddi maent yn llawer mwy tebygol i 'w hennill nag Arfon, ac mai dyna pam bod Mr Pugh wedi ei adael efo'r broblem o sut i gael gwared o 20,000 o daflenni?
2 comments:
Os ydw i'n deall yn iawn mae Arfon ar y rhestr o 106 o seddi targed Llafur yn ol "Labour List" Bydd felly yn derbyn £1,000 o bres Tony Blair. Mae rhai ymgeiswyr wedi cesio gwrthod y pres gwaedlyd yma. Ydi Alun Pugh wedi ei derbyn?
Nawr bod stiwdants Bangor wedi mynd adra am eu gwyliau Pasg, mae gan Alun amser i daflenni cymunedau 'eilradd' fel pentrefi chwarel Arfon. Ni welant unrhyw arwydd ohono fo erbyn Ebril 13 a dechrau'r tymor newydd cofiwch. Yn mynedfa y Brifysgol dwy neu dair gwaith yr wythnos y gwelir fo, yn pysgota pleidleisau pobl ifanc Lloegr ar sail pwnc sy ddim yn berthnasol i fwyafrif etholwyr Arfon (ffioedd myfyrwyr o Loegr)
Phil Davies
Post a Comment