Os oes yna senedd grog mae'n bosibl y bydd y gwleidyddion Celtaidd isod yn rhan bwysig o'r trafodaethau fydd yn dilyn.
Mae'n debyg na fyddwch yn gwybod pwy ydi'r cyntaf, ond ei enw ydi Owen Smith. Mae o newydd fod yn brysur yn ymladd i gyfyngu ar faint o bwerau sydd i'w datganoli i Gymru - a'r peth diwethaf yn y Byd mae am ei weld ydi pwerau cyfartal i Gymru o gymharu a'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae digwyddiadau diweddar wedi ei gwneud yn glir mai fo, ac nid Carwyn Jones ydi gwir arweinydd y Blaid Lafur Gymreig. Mae ganddo hanes o ddadlau nad ydi Cymru yn cael ei than gyllido, a'i uchelgais gwleidyddol ydi gwireddu dymuniadau arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Os ydi'r polau i'w credu, fo fydd prif lais Cymru ar ol yr etholiad cyffredinol.
Mae'r ail yn y newyddion dragwyddol ar hyn o bryd - ers i Nicola Sturgeon ddod yn un o arweinwyr yr SNP mae'r blaid wedi datblygu i fod yn blaid fwyaf poblogaidd yr Alban ac yn un o fudiadau llawr gwlad mwyaf poblogaidd yr ynysoedd hyn. Daeth y blaid yn agos at arwain yr Alban allan o'r DU y llynedd - a hynny yn groes i ewyllys y cyfryngau torfol a'r sefydliadau ariannol a gwleidyddol.
Gallai'r pedwerydd fod yn bwysig os ydi pethau'n agos iawn. Fel pennaeth mudiad parafilwrol llwyddodd i gadw 55,000 o aelodau o'r lluoedd diogelwch yn brysur, wedi hynny mae ei blaid wedi tyfu i fod yn y blaid fwyaf yn yr Iwerddon (o bwynt isel iawn), a llwyddodd i gyflawni'r gamp sylweddol o gadw ei hun yn fyw am chwarter canrif er bod pob parafilwr teyrngarol yn fodlon rhoi ei fraich dde i gael dweud eu bod yn gyfrifol am ei ladd.
Bydd holl ddarllenwyr Blogmenai yn gyfarwydd efo 'r pumed.
Prif nodwedd gwleidyddol y cyntaf (a diystyru'r ffaith ei fod yn uffar bach ffraegar) ydi ei ddiffyg uchelgais tros ei wlad. Mae'r gweddill - beth bynnag ffaeleddau rhai ohonynt - yn bobl benderfynol ac uchelgeisiol tros eu gwledydd. Dwi'n gwybod pa un o'r pump fyddwn i ddim am ei weld yn dadlau fy achos - ac yn anffodus mae perygl mai hwnnw fydd yn dadlau ein hachos ni i gyd - ac mi fydd yn dod allan o'r broses efo'r hyn mae ei eisiau - dim byd o gwbl.
Y cryfaf llais y pumed yn y gyfres, a'r gwanaf llais y cyntaf y gorau y fargen gaiff Cymru. Os mai llais y cyntaf fydd gryfaf, fyddan ni ddim yn cael unrhyw beth o gwbl. Bydd y gwledydd Celtaidd sy'n cael eu harwain gan bobl mwy gwrthnysig yn cael y cyfan. Os bydd llais y pumed yn gryf yna mi fyddwn yn y gem.
No comments:
Post a Comment