Cyfeirio ydw i at y pennawd ar waelod ochr dde'r sgrin. Mae'r ymchwydd ym mhleidlais yr SNP yn cael ei ddidgrifio fel SNP threat. Mae'n anodd meddwl am gynnydd ym mhleidlais unrhyw blaid arall yn y DU (gydag eithriad posibl Sinn Fein) yn cael ei ddiffinio trwy ddefnyddio'r dermenoleg yna gan y gorfforaeth. Fedar y Bib ddim atal ei hun rhag dangos ei diffyg gwrthrychedd mewn rhai sefyllfaoedd - ac mae'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban yn sefyllfa felly.
3 comments:
A beth am BBC 2 Newsnight Nos Lun? Eitem ar yr SNP a Llafur, gyda Evan Davis yn cyfweld â chyn-ymgynghorydd i Alasdair Darling a Frazer Nelson o'r Spectator. Y ddau'n elyniaethus i'r SNP. Does dim cytbwysedd gan y BBC wrth drafod cenedlaetholdeb.
Mae sefyllfaoedd felly yn weddol gyffredin - ac yn amlach na pheidio dydi'r holwr ddim yn herio rhagfarnau'r cyfranwyr chwaith.
Welish i'r rhaglen 'na hefyd. Gwarthus. Mi oedd 'na secsiwn ar UKIP hefyd, ond nath y BBC ddim eu galw nhw'n "threat".
Post a Comment