Mae Blogmenai wedi son am ymgyrch egniol Vaughan Williams yn Llanelli, gan nodi'n arbennig y symudiadau sylweddol yn y marchnadoedd betio yn sgil yr ymgyrch honno.
Un o sgil effeithiadau mwy anffodus yr ymgyrch ydi bod y Blaid Lafur yn lleol wedi ypsetio'n lan gan fynd hyd yn oed yn fwy cegog ac anymunol nag arfer. Mae hyn yn un o nodweddion y blaid honno yng Nghymru wrth gwrs - mae'n teimlo bod ganddi hawl dwyfol gefnogaeth pob person dosbarth gweithiol yn y wlad - a hynny er eu bod wedi methu'r union bobl hynny am ganrif gyfan, gron fwy neu lai. Entitlement ydi'r term Saesneg am y gred bod ganddoch hawl i rywbeth heb orfod gwneud unrhyw beth i 'w gael.
Ta waeth, dwi'n siwr na fydd neb o ddarllenwyr Blogmenai yn awyddus i greu mwy o wylofain, udo a rhincian dannedd ymysg selogion Llafur yn nhre'r sosban a'r cyffuniau. Ond jyst rhag ofn bod 'na rhywun yn rhywle sy'n cael rhyw fath o bleser gwyrdroedig o anfon Llafurwyr Llanelli i gyflwr o sterics torfol sur, gallwch gyfrannu yn ariannol i ymgyrch Vaughan yma.
'Dwi'n mynd i gyfrannu fy hun wrth reswm.
3 comments:
Ydy ymgeiswyr eraill am ddefnyddio yr un dull o godi arian, ee Arfon, Môn, Ceredigion?
Mae Mabon wedi defnyddio'r dull hwn.
Diolch o galon i ti Cai. Braf ydy gweld y Blaid Lafur yn rhedeg o gwmpas Tre'r Sosban fel ieir.
Diolch am dy gefnogaeth di ac yn wir am gefnogaeth selogion BlogMenai am eu caredigrwydd - mae wir yn golygu llawer i mi.
Mae newid ar droed, ac mae rhywbeth yn yr awyr. Mae Llanelli ar dan! YMLAEN!
Post a Comment