Friday, February 20, 2015

Dau lun, dwy stori

Hmm - yn ol Wings Over Scotland mae yna 87 o bobl (ag eithrio'r rhes flaen sydd wedi ei llenwi ag aelodau Senedd yr Alban, Arglwyddi ac Aelod Seneddol yn gwrando ar Ruth Davidson yn traddodi ei haraith yng Nghynhadledd Wanwyn y Toriaid Albanaidd heddiw.

Roedd yna 12,000 yn gwrando ar Nichola Sturgeon yn yr Hydro, Glasgow ym mis Tachwedd - ac roedd rhaid i'r rheiny dalu i gael mynd i mewn.  Dwi'n gwybod, dwi'n meddwl.pa un o'r ddwy arweinyddes sy'n edrych ymlaen at etholiadau mis Mai.  


4 comments:

Anonymous said...


Faint sy'n gwrando ar Leanne Wood?

Anonymous said...

Nawr te, paid â gofyn rhag ofn ...

Anonymous said...

Mwy yn gwrando ar Leanne na sy'n credu fod Ed Moribund (dim missprint) yn mynd i fod yn Brif Weinidog

Anonymous said...

Doedd 'na ddim digon o seddi ar gyfer pawb yn Mhorthaethwy noson blaen, ond rhaid gyfadde, doedd yr ystafell ddim yn anferth!