Dydi o ddim yn syndod mawr bod Ann Clwyd yn rhoi'r ffidil fel aelod seneddol Cwm Cynon. Petai wedi sefyll mae'n debyg y byddai'n 85 oed erbyn diwedd y senedd nesaf. Fel ym mhob achos lle ceir ymddeoliad wedi cyfnod hir o wasanaeth mae yna ganmol mawr ar y ddynas. Beth bynnag ei rhinweddau mi fydd hi wedi ei chysylltu tra bydd byw - a wedyn - efo ymgyrch bropaganda Blair a Campell i fynd a'r DU i ryfel anghyfreithlon yn Irac.
Yn ystod yr amser pan roedd pob math o gelwydd yn cael eu rhaffu - bod Irac yn paratoi arfau niwclear, bod yr wlad yn llawn o arfau cemegol a biolegol, bod taflegrau gan Irac a allai gael eu tanio at y DU mewn tri chwarter awr, bod a wnelo'r wlad ag ymysodiadau 9/11, bod llwyth o awerynnau di beilot gan Irac yn barod i ledaenu nwyon gwenwynig tros bawb ac ati - roedd Ann yn gefnogwraig llafar iawn - os nad hysteraidd - i'r ymyraeth anghyfreithlon. Yn wir roedd ganddi ei stori liwgar os bisar ei hun i'w daflu ganol y grochan celwydd - roedd rhywun wedi dweud wrthi bod gan Saddam shredar pobl. Dwi ddim yn tynnu coes. Roedd o'r farn bod Saddam yn taflu pobl yn fyw i mewn i shredar - traed yn gyntaf er mwyn iddynt weld beth oedd yn digwydd - i bwrpas eu troi'n fwyd pysgod.
Beth bynnag - arweiniodd y cymysgedd rhyfedd o gelwydd at ryfel, ac arweiniodd y rhyfel a'r anhrefn a ddilynodd y rhyfel at farwolaeth rhwng 110,000 a 650,000 o bobl. 43,000 o sifiliaid Prydeinig a laddwyd yn ystod y Blits yn 1940 / 1941.
Rhag ofn eich bod yn poeni y bydd Ann yn diflanu o fywyd cyhoeddus, mae'n ddigon posibl y bydd yn cael ei gwobreuo am ei gwasanaethau trwy gael lle yn Nhy'r Arglwyddi.

5 comments:
Cefnogodd Ann Clwyd achos y Curdiad ymhell cyn dyddiau Blair a Bush - yn y 60au a 70au roedd Plaid Cymru hefyd yn cefnogol iawn i'r genedl anffodus hwn.
Dyma ei hateb i'r cyhuddiadau mai celwydd oedd yr holl beth:
http://www.theguardian.com/world/2004/feb/27/iraq.iraq1
Fel Jill Evans, poeni mwy am genhedloedd eraill nac ei chenedl ei hun.
Anon 2.21 - mae stori'r shredar wedi cael sylw sawl gwaith yn y wasg prif lif. Yma er enghraifft - http://www.antiwar.com/spectator/spec36.html. Ni wnaed unrhyw ymdrech i gadarnhau'r stori cyn ei defnyddio fel propoganda i fynd i ryfel.
Anon 5.13 - Mae'r naill wedi defnyddio stori gon ji na all ei chefnogi i bwrpas cychwyn rhyfel a dydi'r llall heb wneud hynny. Fedri di ddim gweld y gwahaniaeth?
Dw i ddim yn meddwl bod yr honiad am y shredar yn arbennig o berthnasol yn y ddadl ynghylch doethineb y rhyfel yn Irác. Roedd Saddam Hussein yn afiach beth bynnag, doed a ddelo, felly dydi'r union fanylion ddim yn bwysig. Shredar neu fwled, pa ots mewn gwirionedd? Ond dw i'n cydnabod bod angen herio'r rôl bropagandaidd mae delweddau dramatig o erchyll (ond ffug) fel hyn yn ei chwarae wrth geisio annog cefnogaeth i'r fenter.
Mae hefyd werth nodi rhagrith y ffaith bod llywodraeth Uzbekistan yn hoffi berwi eu gelynion yn fyw o dro i dro, ond mae llywodraeth Prydain yn parhau ar delerau digon dedwydd a siriol efo rheiny.
Y prif bwynt - i mi o leiaf - oedd bod mynd i ryfel yn annhebygol iawn o wneud pethau'n well yn y pen draw. Roedd yn fenter gwrth-gynhyrchiol. Ac felly y bu. Mae'n amhosibl gorfodi cymdeithas i fabwysiadu democratiaeth trwy drais.
Digon gwir Dylan - ond dydi ailgylchu storiau sydd ar y gorau un yn amheus i bwrpas dechrau rhyfel ddim yn adlewyrchu'n dda ar y sawl sy'n gwneud hynny.
Post a Comment