Sunday, November 24, 2013

Ymgyrch Annibyniaeth yr Alban

Mae'n ddiddorol bod y blogiwr gwleidyddol Mike Smithson yn parhau i ddadlau ei bod yn bosibl i'r ochr Ia ennill yn refferendwm yr Alban er bod pob pol ar hyn o bryd yn awgrymu i'r gwrthwyneb.  Mae'r diweddaraf yn awgrymu y bydd 38% yn pleidleisio Ia, 47% Na tra nad ydi'r gweddill yn rhy siwr.  Mae gan Mike Smithson record arbennig o dda o ddarogan canlyniadau etholiadau.

Dwi'n tueddu i gytuno - a'r rheswm am hynny ydi bod patrymau pleidleisio yn yr Alban efo hanes diweddar o droi yn gyflym iawn.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o fuddugoliaeth ysgubol yr SNP yn etholiadau Senedd yr Alban ym mis Mai  2011 - ond yr hyn sy'n llai adnabyddus ydi bod yr SNP y tu ol i Lafur yn y polau tan yn agos i'r etholiad ei hun.  Rhestraf isod ganfyddiadau'r polau piniwn rhwng Chwefror 2010 a Mawrth 2011.  Cafwyd symudiad sylweddol at yr SNP yn Ebrill 2011. Canran yr SNP ydi'r rhif cyntaf pob tro a chanran Llafur ydi'r ail.  


Chwef 2010:  35/37   36/29   28/33
Mawrth 2010:  34/31
Ebrill 2010:  30/34. 27/31.  34/31.  31/30
Mehefin 2010  29/45
Awst 2010:  32/46. 35/36. 34/37.  32/42
Medi 2010:  29/39
Hydref 2010:  34/46
Tachwedd 2010:  31/41
Ionawr 2011:  33/49
Chwefror2011: 37/36. 32/41
Mawrth 2011:   29/44. 37/43. 35/39. 38/41. 37/38. 40/39

Yn yr etholiad ei hun cafodd yr SNP 45.39% o'r bleidlais i 31.69% Llafur.

Rwan dydan ni ddim yn gwybod i sicrwydd pam y cafwyd y fath newid, ond gallwn fwrw amcan.  Fel roedd yr etholiad yn nesau peidiodd yr SNP a chanolbwyntio ar lywodraethu ac aeth ati i ganolbwyntio ar ymgyrchu gan dywallt adnoddau dynol ac ariannol i mewn i'r ymgyrch.  Pan ddigwyddodd hynny enillwyd y ddadl greiddiol yn gyflym iawn.  Gallai'r un peth ddigwydd eto'r flwyddyn nesaf.

*  Manylion polio ar gael yma.

6 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Mae fy nghalon yn dweud y bydd yr ymgyrch 'Ie' yn ennill y dydd, ond mae fy mhen yn dweud 'Na'. Fe fyddai yn braf meddwl y gallai dadleuon cadarn ddenu pobl i bleidleisio 'ie' ond rydw i'n drwgdybio y bydd mwy o bobl yn pleidleisio ar sail greddf - pa hunaniaeth sydd bwysicaf iddyn nhw - ac ofn y 'worst case scenario' yn achos annibyniaeth - sy'n mynd i ffafrio'r status quo. Rwy'n credu y byddai angen i'r Alban fod mewn lle reit wael, ac i'r ymgyrch 'ie' allai dangos yn hollol blaen ac eglur y bydd pethau cymaint gwell yn annibynol, cyn i'r Alban gymryd cam mawr fawr a hynny. Dyw'r ymgyrch ie ddim wedi gallu dangos y byddai pethau cymaint a hynny yn well mewn Alban annibynol - mae'n ymddangos na fyddai yn cael gymaint a hynny o effaith o gwbl mewn gwirionedd - felly mae nifer yn dod i'r casgliad nad yw werth cymryd y risg.

Roedd trefnu pleidlais annibyniaeth yn gam strategol gan yr SNP yn fy marn i - fe ddylen nhw fod wedi mynd am Devo Max. Mae mwyafrif yn yr Alban yn cefnogi Devo Max, ac mae'n gam llawer llai o Devo Max i Annibyniaeth nag yw o gyflwr presennol Senedd yr Alban i Annibyniaeth. Mae wastad yn haws arwain yr etholwyr gerfydd y llaw i lawr y grisiau yn slo bach na gofyn iddyn nhw gydio ynot ti am bungee jump cyflym a pheryglus i lawr y clogwyn.

William Dolben said...

Diolch am grynhoi'r data, Cai. Rwy'n grediniol fod Alex Salmond yn graffach o beth coblyn na Cameron. Gwyr yn dda fod ganddo gyfle da i ennill. Gwelais bôl piniwn lle gofynnwyd i'r Albanwyr sut y byddent yn pleidlesio pe bai'r Torïaid yn ennill lecsiwn 2015. Buasai'r rhan fwya o blaid annibynniaeth yn yr achos yma. Thatcher yn anad neb a wanychodd yr Undod a gallasai buddugoliaeth i'r Conservative and Unionist (sic) Party ym 2015 yn arwain at ddatgymalu Prydain Fawr. Eironig iawn

Ioan said...

Be mae Mike yn ddweud, ydi y basa fo'n betio ar odds o 8 i 1 (mae'r ods yn 5 i 1 ar y foment). Fellu mae'n rhoi y tebygolrwydd o "Ie" rhywle rhwng 12.5% a 20%.

Ifan Morgan Jones said...

Y broblem yw William bod y bleidlais annibyniaeth cyn y bleidlais cyffreinol!

Aled GJ said...

Mi fentra'i fod yr SNP uwchben eu digon o weld mai dim ond 9% yw mantais Better Together yn wyneb y llif di-ddiwedd o negyddiaeth a chodi ofn sydd wedi nodweddu eu hymgyrch o'r cychwyn cyntaf.

Mae'r ffigwr hwn yn dangos cymaint o stroc oedd penderfyniad yr SNP i gynnal ymgyrch refferendwm dros 2 flynedd a hanner gan fod hynny'n fodd o dynnu'r colyn o ymosodiadau'r unoliaethwyr, mewn math o strategaeth "rope a dope" clasurol.

Ac yn unol a bwriad yr SNP, mae hyn oll wedi arwain at sefyllfa ble bo pobl yr Alban bellach wedi hen ddiflasu ar y codi bwganod di-synnwyr a phlentynaidd gan Better Together, megis yr un diweddaraf- chewch chi ddim gwylio Dr Who mewn Alban Annibynnol( hyn er gwaetha'r ffaith bod Dr Who yn cael ei werthu i bob rhan o'r byd!)

Dydi'r SNP eu hunain ddim wedi cychwyn ar eu hymgyrch hwy eto mewn gwirionedd- mae'n cychwyn fory gyda chyhoeddi'r Papur Gwyn- ond eto dim ond swing o 5% sydd angen i ennill!

Stroc arall oedd cynnal y refferendwm yn dilyn Etholiadau Ewrop 2014, gan ddyfalu y bydd llwyddiant UKIP yn yr etholiadau hynny yn symud y tirwedd Prydeinig ymhellach i'r dde. Bydd hyn yn siwr o ddylanwadu ar lawer iawn o bobl yr Alban rhai sydd heb benderfynu eto sut i fwrw'u pleidlais.

Mae sawl esiampl dros y misoedd diwethaf ble mae IE wedi ennill y dydd mewn dadleuon cyhoeddus yn yr Alban- unwaith y mae pobl yn cael clywed y dadleuon yn llawn. Yr enghraifft orau efallai oedd y Newsnight Scotland hwnnw gyda chynulleidfa o bobl nad oeddent yn siwr sut y byddent yn pleidleisio. A'r canlyniad ar ddiwedd y ddadl, a hyn yn y Borders sydd yn ardal lled geidwadol? 62% IA NA 38%. Roedd wyneb y brydeinwraig falch, Kirsty Wark, yn bictiwr!

Pen ar y bloc fan hyn- ond gyda'r SNP yn barod rwan i ymgyrchu fflat-owt ac UKIP yn cyflwyno newid o fath gwahanol haf nesaf- dwi'm yn amau mai rhywbeth tebyg i ganlyniad Newsnight Scotland fydd canlyniad y refferendwm ei hun flwyddyn nesaf.

William Dolben said...

Ti'n iawn Ifan. Mae'r bleidlais annibynniaeth yn gynt. Mi ddylaswn fod wedi deud: os bydd y boblogaeth yr Alban yn synhwyro fod rhagolygon ennill lecsiwn 2015 Cameron yn gwella, mi fydd o fantais i'r bleidlais ie