Friday, November 22, 2013

Leighton Andrews a datganoli pwerau trethiant i Gymru


Mae'n ddiddorol mai prif ddadl un o Lafurwyr Golwg  -Leighton Andrews - yn erbyn datganoli pwerau gosod treth incwm  i'r Cynulliad ydi ei gred ei hun y byddai refferendwm ar y pwnc yn cael ei cholli.  Ymddengys ei fod wedi ei frifo yn ofnadwy pan gollwyd refferendwm 1979, a dydi o ddim eisiau cael ei frifo eto.  

Rwan dydi Leighton ddim yn egluro pam bod ei farn ei hun ynglyn a thebygolrwydd colli refferendwm yn fwy cywir na pholau piniwn a gwaith ymchwil arall ar y pwnc.  Dydi o ddim chwaith yn son i'r Alban bleidleisio yn drwm iawn o blaid datganoli treth incwm yn 1997.

Rwan mae'n bosibl bod Leighton yn gweld ei hun fel rhyw broffwyd o'r Hen Destament sydd wedi ei fendithio efo'r gallu i weld yr hyn na all neb arall ei weld, a sy'n credu y dylai'r genedl wneud ei phenderfyniadau ar sail ei ganfyddiadau fo ei hun.  

Ond wedyn efallai nad oes gan hyd yn oed Leighton gymaint a hynny o hyfdra.  Efallai mai ymarferiad syml mewn rhoi gwedd barchus i wrthwynebiad Llafur i ddatganoli pwerau trethiant i Gymru sydd ar waith yma. 

Mae'r blog yma wedi dadlau dro ar ol tro na fydd Llafur Cymru byth yn awyddus i ymarfer pwerau tros drethiant oherwydd bod eu hapel yn ddibynol ar allu mynnu mwy o wariant cyhoeddus heb orfod trethu unrhyw un i dalu am hynny.  Mae Llafur Cymru yn gwybod bod sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant yn wenwyn pur iddi.  Dylid edrych ar din droi a 'darogan' etholiadol Leighton, Carwyn a'r gweddill yng nghyd destun y ffaith syml yna.

No comments: