Thursday, November 07, 2013

Datblygu a'r Gymraeg

Dydw i ddim yn honni fy mod yn gwybod llawer am fanylion cynllun Lakes & Leisure yng Nghaergybi.  Serch hynny dwi am wneud un neu ddau o sylwadau cyffredinol parthed cynllunio ac effaith hynny ar yr iaith.

Yr hyn sydd rhaid ei gofio ydi bod mwy nag un ffordd o niweidio iaith.  Tri pheth sy'n berygl i'r Gymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn y bon - niferoedd mawr o bobl ddi Gymraeg yn symud i gymunedau Cymraeg eu hiaith, nifer fawr o bobl sy'n siarad yr iaith yn symud allan o gymunedau Cymraeg neu Cymry Cymraeg yn peidio a throsglwyddo'r iaith i'w plant.

Dydi'r trydydd o'r rhain ddim yn ffactor pwysig yn y rhan fwyaf o Ogledd Orllewin Cymru - mae trosglwyddiad iaith yn effeithiol yma - yn wahanol i rannau mawr o'r De Orllewin.  Ond mae tan ddatblygu wedi bod yn niweidiol mewn rhai llefydd (De Gwynedd) a gor ddatblygu mewn llefydd eraill (Bangor a rhannau o Ynys Mon).

Gall datblygiad olygu codi tai neu greu swyddi  - os nad oes digon o swyddi mae pobl o oedran gweithio yn symud allan, ac yn aml mae pensiynwyr yn cymryd eu lle.  Os oes gormod o waith mae llawer o bobl yn cael eu dennu o'r tu hwnt i Gymru.  Yn yr un ffordd os oes gormod o dai yn cael eu codi mae prisiau yn cael eu gyrru i lawr digon i ddenu pobl sy'n gweithio ymhell i ffwrdd, tra os na chodir tai o gwbl mae prisiau yn cael eu gyrru i fyny gan ei gwneud yn amhosibl i lawer o bobl leol brynu yn lleol. 

Y gamp ydi cael pethau'n iawn - diwallu anghenion lleol am gartrefi a chyflogaeth.  Ond mae hynny'n anodd iawn i'w wneud yn ymarferol.  Dydi cwmniau masnachol ddim am gynhyrchu cynlluniau sy'n blaenori anghenion y Gymraeg, nid dyna pwrpas cwmniau masnachol.  Dydi llawer o gynlluniau bach ddim yn debygol o ddod at ei gilydd mewn modd sy'n diwallu anghenion lleol chwaith.  Dewis y gorau o ddau ddrwg o safbwynt yr iaith ydan ni yn aml.

Ar nodyn ychydig yn wahanol mae yna eironi yn y ffaith y gallai lleoli'r 300 o dai ar Ynys Cybi arbed yr iaith ar dir mawr Ynys Mon. Mae'r cwmni datblygu yn rhyw obeithio y bydd y tai maent yn yn bwriadu eu codi yn cartrefu gweithwyr fydd yn symud i'r ardal i godi Wylfa B ar ycychwyn.  Dydi Ynys Cybi ddim mor sensitif ag Ynys Mon o safbwynt ieithyddol - dydi'r Gymraeg heb fodyn iaith   gymunedol yno ers cenhedlaeth a mwy.  Mae'n parhau i fod yn iaith gymunedol ar y rhan fwyaf o Ynys Mon.  Os y daw Wylfa B - a does yna ddim byd y gellir ei wneud oddi mewn i Gymru i effeithio ar y penderfyniad hwnnw - mae'n rhaid ei bod yn well i'r Gymraeg bod llawer o'r bobl  o'r tu allan i'r ardal yn mynd i fyw ar Ynys Cybi yn hytrach nag Ynys Mon.

1 comment:

Unknown said...

Cai, fel rhywun o Gaergybi mae gennyf deimladau cymysg am y datblygiad yma, dw i yn erbyn y datblygiad presennol am ei fod yn rhy fawr. Rwyf wrth reswm o blaid swyddi (gwn yn iawn fod angen swyddi yng Nghaergybi). Ond pa fath o swyddi? Swyddi rhan amser heb lawer o oriau? Swyddi efo cytundebau 'zero hours'? Swyddi i bobl leol? Pobl Caergybi a'r cylch? Diddorol oedd gweld y Blaid Lafur yn rhannu llwyfan efo UKIP yng Nghaergybi yn clodfori'r swyddi newydd yma ac yn bychanu unrhyw un efo consyrn am y datblygiad yma. Os ydy'r holl addewidion yn cael eu gwireddu, am y swyddi ayyb gwych, ond mae hanes wedi dysgu gwersi i ni ledled ein cenedl ynglyn a phrosectau mawrion fel hyn - amser a ddengys!