Sunday, November 17, 2013

Annus Horribillis Llafur Mon yn parhau

Cweir yn yr etholiadau cyngor, ymyraeth gan y Blaid Lafur yn ganolog i atal John Chorlton rhag sefyll yn yr is etholiad Cynulliad, perfformiad gwaethaf y blaid ers degawdau lawer yn yr is etholiad honno.  Byddai rhywun yn disgwyl na allai blwyddyn erchyll y Blaid Lafur ar Ynys Mon fynd yn waeth - ond mae hynny wedi digwydd.  Mae un o'u tri chynghorydd - Raymond Jones - wedi ymddiswyddo oherwydd cefnogaeth yr aelodau Llafur eraill i gynllun Lands & Lakes.

Os nad oedd Albert Owen yn edrych ymlaen at 2015 eisoes, mae'n edrych ymlaen gyda llai o awch hyd yn oed rwan - mae gan Raymond gefnogaeth bersonol sylweddol yn ardal gryfaf Llafur yn yr etholaeth - ardal London Road / Morawelon.

Dydi pethau ddim yn edrych yn dda i Albert.


3 comments:

Anonymous said...

Deud dim di'r gora' rhag ofn iddo gael ei sensro

Cai Larsen said...

Ti newydd ddweud rhywbeth.

Anonymous said...

pam yr ydym yn ofnus fel gwlad i bleidleisio ar gyfer unrhyw un ar wahân i lafur? Mae ei yn fwy amlwg yn y de, Llafur yn parhau i fod yn "gadarnle" ar fwy na 80% o'r cymoedd ond maent yn ymddangos i fod yn gwneud dim i warantu bod rheolaeth.