Dwi'n meddwl bod pawb a fynychodd gynhadledd y Blaid yn Aberystwyth ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn gytun ei bod yn un llwyddiannus. Cynnwys a threfniadaeth sy'n rhannol gyfrifol am hynny mae'n siwr.
Ond mae yna fwy iddi - mae llwyddiant cynhadledd yn rhywbeth y gellir ei deimlo yn hytrach na'i ddadansoddi. Pan mae yna nifer dda o bobl yn mynychu a phan mae llawer o'r bobl hynny yn teimlo'n optimistaidd mae cynhadledd yn un hapus. Roedd y gynhadledd yma'n un hapus a chytun.. Canlyniad Ynys Mon ydi un o'r rhesymau am yr optimistaeth wrth gwrs, ond mae yna fwy iddi. Mae cyfeiriad y Blaid yn glir ar hyn o bryd, ac mae strategaeth amlwg yn ffurfio ar gyfer yr etholiadau sydd yn ymddangos ar y gorwel. Mae yna amrediad eang o bolisiau gwreiddiol a diddorol yn dechrau ffurfio. Mae delwedd gyhoeddus y Blaid yn optimistaidd a chadarnhaol.
Ydi hyn oll yn sicrhau llwyddiant yn yr etholiadau sydd o'n blaenau? Wel nag ydi, ond mae seiliau cadarn i lwyddiant bellach wedi eu gosod.

No comments:
Post a Comment