Monday, July 29, 2013

Pam bod gan y Blaid le i fod yn obeithiol yn Ynys Mon

Dwi ddim eisiau galw is etholiad Ynys Mon eto, ond dyma i chi un neu ddau o argraffiadau  - argraffiadau cwbl bersonol dwi'n prysuro i nodi.   Well i mi roi fy nghardiau ar y bwrdd cyn cychwyn - does gen i ddim mynediad i fawr ddim data.  Mae'r hyn sydd gen i i'w ddweud wedi ei seilio ar fy argraffaiadau o fod allan yn canfasio - a dwi wedi gwneud hynny yn Ne yr ynys yn bennaf.  I'r sawl nad ydynt yn gyfarwydd a daearyddiaeth etholiadol Ynys Mon mae cefnogaeth y Blaid fel rheol ar ei gryfaf yng nghanol yr ynys, wedyn y De, tra bod y gefnogaeth yn is yn y Gogledd ac ar Ynys Cybi.

Un peth amlwg ydi bod adnabyddiaeth pobl o Rhun yn llawer cryfach nag ydi eu hadnabyddiaeth o'r enwau eraill sydd ar y papur pleidleisio.  Mae hyn yn bwysig mewn unrhyw etholaeth, ond mae'n arbennig o bwysig mewn etholaeth sydd a thraddodiad annibynnol cryf fel Ynys Mon.  Mae yna lawer o bobl ar yr ynys yn pleidleisio tros y sawl sy'n gyfarwydd, a'r sawl sydd a chysylltiadau lleol cryf - fel mae'r etholiadau lleol diweddar yn dangos yn glir.  A waeth i ni fod yn blaen ddim - mae gan y Blaid ymgeisydd llawer cryfach na'r un o'r pleidiau unoliaethol.

Yr ail beth sy'n amlwg ydi nad yw'r pleidiau unoliaethol wedi cysylltu yn llwyddiannus efo'r etholwyr.  Un o'r arwyddion amlycaf i ganfasiwr bod gan ei blaid broblemau ydi bod naratif un neu fwy o'r pleidiau eraill i'w chlywed ar y stepan drws.  Mae hynny'n dangos bod y pleidiau hynny wedi cyfathrebu eu neges i'r etholwyr.  Dydw i heb gael y profiad hwnnw o gwbl y tro hwn.

Yn drydydd ychydig iawn o dystiolaeth ymgyrchu gan y pleidiau unoliaethol sydd i'w weld ar hyd a lled yr ynys.  Dwi ddim yn amau bod ymgyrchu lleol wedi bod gan Llafur ac UKIP, ond does yna ddim ymgyrchu ynys gyfan gwerth son amdano wedi digwydd.  Dwi'n gwybod bod rhai cyfeillion wedi bod yn dweud bod Llafur yn gallu gwneud gwyrthiau o ganolfanau ffonio - dwi ddim yn derbyn hynny.

Yn bedwerydd mae'r cyfryngau wedi cadw'n weddol glir o'r etholiad ac wedi gadael i beiriannau ymgyrchu'r pleidiau ei chwffio hi ar lawr gwlad.  Mae'r hyn sydd gan y Blaid i'w gynnig yn hyn o beth yn llawer, llawer mwy -a mwy pwerus -na'r hyn sydd gan y pleidiau unoliaethol i gyd efo'i gilydd.  Mae'n brofiad anarferol i mi ganfasio efo pobl nad ydw i wedi eu cyfarfod o'r blaen.  Yn ystod yr etholiad yma dwi wedi canfasio efo dwsinau o bobl nad ydw i wedi eu cyfarfod o'r blaen.  Mae yna nifer sylweddol iawn o bobl wedi bod allan yn ymgyrchu.  Byddai'n syndod i mi petai cymaint wedi bod allan mewn unrhyw etholiad diweddar yng Nghymru i unrhyw blaid.
Yn bumed mae'n ymddangos bod pleidlais y Dde wedi ei hollti.  Mae tua chwarter y bleidlais ym Mon - mwy weithiau - yn  mynd i'r pleidiau adain Dde.  Mae ymgyrch ddi glem y Toriaid ynghyd ag ymgyrch mwy brwdfrydig UKIP yn awgrymu y bydd yr ail o'r rhai  yn cael mwy o bleidleisiau na'r cyntaf.

Rwan dydi hyn oll ddim yn golygu bod yr etholiad wedi ei hennill eto - mae yna ddigon o dystiolaeth o'r di faterwch sydd wedi bod yn bla ar wleidyddiaeth Cymru a Phrydain ers 1997.  Mae yna lawer o waith i'w wneud eto o ran sicrhau bod pleidleiswyr yn mynd allan i bleidleisio.  Os bydd y Blaid yn llwyddo yn hynny o beth tros y dyddiau nesaf, mae gennym ddigon o le i fod yn obeithiol am nos Iau gofiadwy.Ond mae llawer o waith i'w wneud cyn hynny.

17 comments:

maen_tramgwydd said...

Mae ymgeiswyr pleidiau eraill wedi dweud celwydd yn y gorffennol er mwyn cael eu dewis.

D'oes dim rheswm i'r Blaid ddilyn eu hesiampl. Dwi'n siomedig iawn.

Ydi hyn yn arwydd fod y Blaid yn fodlon dweud beth bynnag mae'n nhw'n meddwl fydd yn debygol iddi gael llwyddiant etholiadol?

Nid oes gobaith i Gymru os yw hynny yn wir.

Sut allwn ni ymddiried mewn rhywun o'r fath ar ôl iddo gael ei ethol, os caiff ei ethol?

Anonymous said...

Maen Tramgwydd

Fel un sydd tu allan i'r blaid, mi fuaswn yn ail-lunio dy gwestiwn. Sut allwn ni ymddiried mewn plaid sy'n llunio polisi niwcliar sydd mor chwerthinllyd o naif a phendew?

Pob lwc i Rhun. Dwi'n siwr y bydd y genedl yn ei werthfawrogi yn llawer mwy na lleiafrif bach o'i gyd-bleidwyr.

maen_tramgwydd said...

Di-enw 2.54

Nid y polisi sy'n fy mhoeni i, ond yr egwyddor o fod yn onest ac yn agored. Mae hynny'n fwy pwysig nac unrhyw bolisi.

Anonymous said...

Dyna ydi'r peth - mae MH yn dweud bod mai ond y Socialist Labour dynas sydd yn dillyn polisi Plaid Cymru. Dweud y cyfan dydi. Student politics.

maen_tramgwydd said...

Dim ots gen i beth mae rhywun arall yn dweud. Dwi'n mynegi fy marn i. Dwi'n disgwyl safon uwch oddiwrth ymgeiswyr PC na safonau isel pleidiau eraill.

Cai Larsen said...

Ti'n disgwyl hunanladdiad gwleidyddol gan ymgeiswyr y Blaid oherwydd i lond dwrn o bobl basio rhyw bollisi neu'i gilydd.

Mae'r pplisii yma yn tynnu yn hollol groes i gyfeiriad polisi cyffredinol y Blaid o gryfhau'r economi. Mae'r peth i hyd yn dangos gwendidau yn y ffordd mae'r Blaid yn llunio polisiau.

maen_tramgwydd said...

Ti'n gwneud yr un camgymeriad a Di-enw. Darllena be dwi wedi sgrifennu yn ofalus, Cai.

Os yw ymgeisydd yn anghytuno a rhyw bolisi neu gilydd, dyler ei fod yn datgan hynny ar yr amser ac yn y lle priodol.

Os buasai hynny wedi digwydd, fuaswn i ddim yn gorfod datgan fy marn yma. Fe fuasai wedi cael ei ddewis neu peidio, a diwedd ar y peth.

Anonymous said...

Ydwi'n iawn i ddarogan mai'r aelod parchus dros Syniadau oedd saer y polisi gafodd ei fabwysiadu yn 2011 yn dilyn damwain Fukushima?

BoiCymraeg said...

Mae'r diweddaraf bod Rhun wedi ei ddatgan - h.y. bod Plaid Cymru yn cefnogi niwclear newydd lle mae'n bodoli'n barod - yn ffeithiol anghywir.

Mae hyn naill ai'n golygu nad yw Rhun yn gwybod hyn - ac os felly mae'n annerbyniol o anwybodus ynglyn a pholisiau ei blaid ei hun - neu bod e wedi dweud hyn er ei bod e'n gwybod nad yw hi'n gywir.

Ddim yn siwr pa un sy'n well gen i gredu i fod yn onest. Dwi yn erbyn polisi'r Blaid ar ynni niwclear - dwi'n ei gweld yn "necessary evil" - ond mae'r math yma o ymddygiad yn tanseilio ei ymgyrch, yn tanseilio Leanne fel arweinydd ac yn tanseilio Plaid Cymru.

Pam bod hyn yn wahanol i Dafydd Elis-Thomas yn ceisio honni na fu neb byth o blaid annibyniaeth?

Hogyn o Rachub said...

"Pam bod hyn yn wahanol i Dafydd Elis-Thomas yn ceisio honni na fu neb byth o blaid annibyniaeth?"

Achos mae annibyniaeth yn gwbl graidd i Blaid Cymru. Tydi polisi niwclear ddim.

Pob lwc i Rhun ap Iorwerth medda fi, bob tro dwi wedi'i glywed yn siarad mae o'n gwneud synnwyr mawr - o ddarllen rhai pethau ar y we (Syniadau yn enghraifft dda iawn dros yr wythnosau diwethaf) mae'n ymddangos bod angen pobl gall ar Blaid Cymru a ddim, fel y dywedodd rhywun uchod, y blydi nonsens 'student politics' 'ma. Mae hynny'n fwy gwrthyrrol i bleidleisiwr aeddfed na'r unpeth arall.

Wir-yr, problem FAWR Plaid Cymru ydi ei bod hi'n chwarae'r gêm wleidyddol mewn ffordd neis neis barchus. A bydd hi BYTH yn rym o bwys yng Nghymru nes iddi, esgusodwch y Saesneg, SMARTEN UP.

Anonymous said...

"You know that there's been a policy in Plaid Cymru going back 40 years....."

Boi Cymraeg,

Nid yw yn dweud fod "Plaid Cymru yn cefnogi niwclear newydd lle mae'n bodoli'n barod" Darllen y frawddeg uchod. Nid wyf i'n aelod o'r Blaid ond dwi'n ddigon call i wybod y byddai hi'n gall i adael hyn hyd nes ar ol yr etholiad....os nad ydych eisiau i Labour ennill wrth-gwrs.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl y bydd Rhun yn ennill yn gyffyrddus ond dwi'n siomedig iawn nad ydi o wedi datblygu narratif ei hun ar fusnes Wylfa B.

O'r hyn dwi wedi glywed ganddo, mae o wedi derbyn neges Llafur am y swyddi bron yn ddi-gwestiwn, heb ddatblygu hynny mewn unrhyw fodd.

Mae gwendid Llafur yn lleol wedi cynnig cyfle gwych i BC
gyflwyno neges amgen ar fater Wylfa B, a honno'n ddadl genedlaetholgar gryfach nag a gafwyd yn y gorffennol megis( yn Saesneg):

"What Ynys Mon needs is a strong nationalist AM who will fight to ensure that, if the Wylfa B development goes ahead, the people of Ynys Mon and Wales can have clear assurances about local employment and just as clear assurances regarding the issue of nuclear waste and clear up costs for generations to come."

Pam, o pam nad ydi o'n fodlon defnyddio iaith fel hyn ac yntau wedi dweud ei fod o'n genedlaetholwr sy'n credu mewn annibyniaeth?!

Mae'r holl athroniaeth "chwarae hi'n saff" yma, fel y dywed HOR, yn wrth-gynhyrchiol yn y pendraw!

Dai said...

"Nid y polisi sy'n fy mhoeni i, ond yr egwyddor o fod yn onest ac yn agored. Mae hynny'n fwy pwysig nac unrhyw bolisi....

...Dwi'n disgwyl safon uwch oddiwrth ymgeiswyr PC na safonau isel pleidiau eraill."

Beth wyt ti'n meddwl yw hyn - cystadleuaeth gwneud teisen y WI?


"Wir-yr, problem FAWR Plaid Cymru ydi ei bod hi'n chwarae'r gêm wleidyddol mewn ffordd neis neis barchus. A bydd hi BYTH yn rym o bwys yng Nghymru nes iddi, esgusodwch y Saesneg, SMARTEN UP."

Cweit so.

Dai said...

Digon posibl fod yr etholiad wedi ei ennill neu golli erbyn hyn gyda'r pleidleisau post.

Cai Larsen said...

Wel, does yna ddim digon o bleidleisiau post i wneud hynny - ond ti'n iawn bod y mwyafrif llethol ohonyn nhw i mewn bellach.

Dyfed said...

Dwi ddim yn siwr o lle mae'r syniad yma bod Rhun wedi bod yn anonest ar gwestiwn Wylfa wedi dod. Fe fu'n ddigon clir yn ystod y cyfarfod dewis - fe wnaeth ei safiad yn glir ddwywaith yn ystod y cyfarfod. Roedd yn amlwg fod ei safiad yn wahanol i'r ddwy ymgeisydd arall. Fe gafodd ei ddewis gan Blaid oedd yn gwybod i'r dim be oedd ei feddwl ar y peth. Tydi o'n dweud dim sy'n wahanol yn ystod yr ymgyrch ag y dywedodd o ar y cychwyn.

Dai said...

Os ydy Ynys Mon rhywbeth yn debyg i etholaethau eraill yna mae tua 20% o etholwyr yn derbyn pleidlais drwy'r post. Mae tua 3/4 o'r rheiny yn pleidleisio fel arfer sef 15% o'r cyfanswn etholwyr cofrestredig.

Wedyn, os yw'r canran pleidleisio yn isel - dyweder 35% (bu'n 22% yn Nwyrain Abertawe a 50% ym Mlaenau Gwent (ond ar yr un diwrnod ag is-etholiad San Steffan ar yr un dydd), - yna os ydy un ymgeisydd dipyn ar y blaen yna fe all fod yn anodd i eraill ei oddiweddid.

Dim rheswn i orffwys ar y rhwyfau wedi dweud hynny!