Saturday, July 13, 2013

Mwy o bobl Cymru eisiau gadael Ewrop na sydd eisiau aros

Mae'n ddiddorol bod - yn ol pol piniwn Beaufort diweddar - mwy o bobl Cymru eisiau gadael yr Undeb Ewropiaidd na sydd eisiau aros.  Mae'r gred y dylid gadael yr Undeb yn arbennig o gryf yng Nghymoedd y De.

Os ydi hyn yn profi unrhyw beth mae'n profi nad ydi taflu pres at ardal yn gwneud y sawl sy'n taflu'r pres yn boblogaidd.  Mae'r UE wedi buddsoddi £3.2bn yn y Cymoedd a'r Gorllewin rhwng 2000 a 2006 ac yna £3.5bn arall rhwng 2007 a 2013.


3 comments:

Anonymous said...

Ac yn argoeli'n wael i Llafur lle mae UKIP am fod yn cystadlu am yr un bleidlais!

Anonymous said...

Beaufort?? Gogwydd mor fawr ers Chwefror???

Anonymous said...

Ychydig flynyddoedd yn ol wnes i wneud pol piniwn gyda Phrifysgol Aber yn y cymoedd , dau beth -

Cefnogaeth i'r Cynlluiad & casineb i Ewrop