Saturday, July 06, 2013

Llwybr gyrfa Tal Michael

Y pedwerydd sylw ar dudalen sylwadau'r blogiad olaf ond un wnaeth i mi feddwl llwybr gyrfa mor hynod o anarferol sydd gan ymgeisydd Llafur yn is etholiad Mon, Tal Michael.



O chwilio mae'r hyn a ddywedir yn wir - mae 'r yrfa yn anarferol iawn.  Wedi gadael y brifysgol yn Rhydychen  aeth i weithio i'r Blaid Lafur yn San Steffan - lle'r oedd ei dad Alun yn aelod seneddol wrth gwrs.  Tua'r un pryd cafodd ei ethol yn gynghorydd ar Gyngor Islington.  Mae'n debyg bod ei waith yn San Steffan yn ymwneud a cyfraith a threfn.

Wedi i Lafur fynd i lywodraeth symudodd yntau ymlaen i weithio mewn llywodraeth leol - cafodd ddwy swydd yn Llundain -  pennaeth polisi corfforaethol i Gyngor Barnet, prif weithredwr corfforaethol yn Hackney cyn mynd i Ogledd Lloegr i fod yn  gyfarwyddwr partneriaethau a llywodraethiant yn Doncaster.  Wedi hynny symudodd i Ogledd Cymru fel Prif Weithredwr Heddlu Gogledd Cymru.

Rwan mae hon yn yrfa ddisglair i ddyn cymharol ifanc - daeth y swydd yn Barnet ag yntau ond yn saith ar hugain oed.  Does yna ddim o'i le mewn llwyddo'n ifanc wrth gwrs, ond mae natur yr yrfa yma yn codi cwestiwn diddorol.  Faint o'r penodi a wnaed gan gyd Lafurwyr?  Yn amlwg Llafur yn San Steffan roddodd y swydd San Steffan iddo.  Pan benodwyd Tal i'r swydd Barnet doedd yna ddim rheolaeth lawn gan neb tros y cyngor gyda Llafur a'r Toriaid yn agos iawn o ran cynghorwyr gyda'r Lib Dems ymhell y tu ol.  Llafur sydd yn rheoli Hackney fel rheol a nhw sydd wedi rheoli o 2001 ymlaen.  Yn anarferol doedd yna ddim rheolaeth un plaid o 1996 i 2001.  Dydi CV Tal ddim yn manylu ar bryd y cafodd y swydd Hackney, ond mae'r posibilrwydd pendant yno mai gan gyd Lafurwyr y cafodd y swydd honno -   mae Tal ar ei wefan yn disgrifio'r weinyddiaeth tra'r oedd yn gweithio yno fel un Llafur. Llafur fydd yn rheoli yn Doncaster bron yn ddi eithriad, ond er mai nhw oedd y blaid fwyaf o 2004 i  2010 doedd ganddyn nhw ddim rheolaeth lawn.  O ran Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru mae'n anhebygol bod Llafur efo mwyafrif, ond byddai ganddynt gryn ddylanwad ar y corff.  Yn amlwg Llafurwyr yng Nghaerdydd oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i beidio a gadael i John Chorlton fynd ar y rhestr fer ym Mon.

Rwan does yna ddim byd o'i le fel y cyfryw mewn pobl sydd a chysylltiadau gwleidyddol a dydi hi ddim yn glir bod y sefydliadau cyhoeddus sydd wedi cyflogi Tal yn y gorffennol yn cael eu dominyddu gan Lafur pan wnaed y penodiadau.  Ond mae yna batrwm yma o ddyn sydd efo cysylltiadau Llafur cryf iawn yn cael ei benodi, a'i benodi a'i benodi i swyddi uchel mewn sefyllfaoedd lle mae dylanwad ei blaid yn gryf.

Yn anffodus i Tal fodd bynnag, nid cyd aelodau o'r Blaid Lasur fydd yn dewis pwy fydd Aelod Cynulliad nesaf Ynys Mon.

8 comments:

Anonymous said...

Efallai mai codi bwganod yw hyn oll i gyd. Mae'n bosib, wrth gwrs, ei fod yn ymgeisydd cryf iawn am swyddi mewn cyfweliad ac ar bapur. Efallai y dylwn ni ddathlu'r ffaith ei fod wedi cael profiad mwy eang na nifer fawr o ASau. Mi ddwedaf unwaith eto, mi fuaswn yn falch o'i weld yn cynrychioli un o seddi'r blaid Lafur yng Nghlwyd unwaith i RhapI gipio Ynys Mon.

Anonymous said...

Fe yr un a gododd y mater, mae'n rhaid dweud fod y penodiadau hyn wedi fy synnu'n arw.

O edrych o gwmpas y Cynghorau Sir yn y rhan hon o'r wlad,(sef, Ynys Mon, Conwy a Gwynedd) dwi erioed wedi clywed am unrhyw Uwch-Swyddog a ddaeth i mewn i swydd mor allweddol, mor ifanc a TM, ac hefyd, mor ddi-brofiad a TM.

Mae pob un Uwch-Swyddog y gwn i amdanynt o fewn fy nghof i, yn cyrraedd y lefel hon yn eu 40au, os nad yn eu 50 au, a maent wedi magu blynyddoedd o brofiad o fewn yr adran arbennig honno fel arfer.

Yn amlach na pheidio mae nifer o'r swyddogion hyn wedi dechrau mewn adran ar lefel cymharol isel - yna wedi llwyddo i gael un dyrchafiad ar ol y llall, cyn symud i fod yn ddirprwy ac oddiyno mynd yn un o'r prif swyddogion reit ar ddiwedd gyrfa.

Ond dyna hi - Hogyn o'r wlad ydw i

Anonymous said...

Ydi hyn yn eich synnu chi ?

Nid yn unig mae Alun Michael wedi bod yn paratoi'r ffordd ar gyfer y mab trwy agor bob math o ddrysau megis Rhydychen, swyddi pwerus a chyflogau anhygoel,heb son am 'stich-up' Sir Fon, mae'n amlwg hefyd nad oes gan yr hen ddyn owns o egwyddor ble mae arian cyhoeddus yn y cwestiwn. Gweler y darn hwn am Alun Michael o Wikipedia

Alun Michael was one of the MPs who was investigated by the Daily Telegraph in its probe into MPs Expenses Claims in 2009. The Daily Telegraph reported that "Alun Michael claims £4,800 for food in one year, and £2,600 for repairs to his roof at his constituency home in Penarth. Claims for £1,250 cost of repairing a wall and building a 13ft chain link fence.". Subsequently it was reported he was among 390 MPs required by Sir Thomas Legg to repay taxpayers' money which allegedly they had wrongly-claimed. An audit of claims dating back to 2004 revealed that Michael should repay £18,889.56 for mortgage interest on additional loans "not shown to have been for an eligible purpose". He had also been paid £280 more than he was entitled to claim for council tax in the year 2004/05 - claiming expenses for 12 installments when, in fact,he had only had to pay 10 to the local authority. Michael blamed a "clerical error" for the inflated claim. He said "The council tax payment came at a time when I was under a lot of stress politically". Michael repaid £19,169.56 although later in a 2010 Election Hustings meeting in Splott he said press reports of his having been forced to pay back £20,000 were "untrue" and asserted he had "voluntarily" paid back the money.

Fel y bydda nain yn arfar ddeud. Does na ddim digon ar gael i rai !!!

Well o'r hannar petai o wedi prynu treigliadur go dda.

Anonymous said...

Mae’n amlwg nad yw hoelion wyth y Blaid Lafur yng Nghaerdydd, nag ym Môn mae’n amlwg, wedi darllen Atgofion Oes, Elystan. Yno, ar dudalen 210, ceir disgrifiad da o’r hyn ddigwyddodd iddo pan gafodd ef ei barashiwtio i mewn i ymladd etholiad 1979.

Tra’n canfasio gyda Cledwyn ar y Stryd Fawr yn Llangefni, fe glywodd un wraig yn sibrwd yng nghlust y cyn-aelod.

‘Mae o’n ddyn clên, ond dwi ddim yn ’i ddallt o’n siarad.’

Ar ôl i’r wraig fynd yn ei blaen, dywedais wrth Cledwyn,

‘Cofiwch eiriau Pantycelyn.. :

Dyn dieithr ydwyf yma,
Draw mae ’ngenedigol wlad.’

Petai cefnogwyr Tal Michael wedi darllen, ac wedi ystyried geiriau doeth Elystan, a fysa’r Blaid Lafur Gymreig ys gwn i, wedi rhoi cic mor uffernol o giaidd yn nhin John Chorlton druan, a pharashiwtio apparatchik diarth arall i mewn i ymladd etholiad mor bwysig ?



Anonymous said...

Mae’n amlwg nad yw hoelion wyth y Blaid Lafur yng Nghaerdydd, nag ym Môn mae’n amlwg, wedi darllen Atgofion Oes, Elystan. Yno, ar dudalen 210, ceir disgrifiad da o’r hyn ddigwyddodd iddo pan gafodd ef ei barashiwtio i mewn i ymladd etholiad 1979.

Tra’n canfasio gyda Cledwyn ar y Stryd Fawr yn Llangefni, fe glywodd un wraig yn sibrwd yng nghlust y cyn-aelod.

‘Mae o’n ddyn clên, ond dwi ddim yn ’i ddallt o’n siarad.’

Ar ôl i’r wraig fynd yn ei blaen, dywedais wrth Cledwyn,

‘Cofiwch eiriau Pantycelyn.. :

Dyn dieithr ydwyf yma,
Draw mae ’ngenedigol wlad.’

Petai cefnogwyr Tal Michael wedi darllen, ac wedi ystyried geiriau doeth Elystan, a fysa’r Blaid Lafur Gymreig ys gwn i, wedi rhoi cic mor uffernol o giaidd yn nhin John Chorlton druan, a pharashiwtio apparatchik diarth arall i mewn i ymladd etholiad mor bwysig ?



Anonymous said...

Dau ddyfyniad Llafurol

"What we saw in Falkirk is part of the death throes of the old politics. It is a symbol of what is wrong with politics. I want to build a better Labour Party - and build a better politics for Britain." medd David Milliband ddoe.

“Falkirk selection problems were a one-off”. Harriet Harman, ddydd Sul.

Mae Milliband, Harman, a sawl un arall yn y Blaid Lafur y dyddiau hyn, yn honni mai rhywbeth oedd yn perthyn i’r hen Blaid Lafur draddodiadol oedd ‘stitch-ups’. Rhywbeth oedd yn perthyn i’r hen oes. Digwyddiadau prin ac anarferol.

Wel, nid dyna ddigwyddodd ym Môn bythefnos yn ôl – yn wir, roedd ‘stitch-up Môn’ yn rhywbeth a grewyd gan fodernwyr y Blaid Lafur Newydd.

Yma ym Môn, Undebwr Llafur o’r hen deip, sef John Chorlton, gafodd ei adael oddiar y rhestr fer, ac fe wnaeth y Blaid Lafur yn ganolog yn siwr fod popeth yn cael ei wneud i sicrhau mai Tal Michael fyddai’n cael yr enwebiad.

Y mae creu ‘stitch-ups’ mae’n amlwg yn rhan annatod o wead y Blaid Lafur - boed Lafur hen neu newydd.

Anonymous said...

Dai says: ar flog Guido Fawkes

July 9, 2013 at 12:39 pm

The Anglesey Stitch-Up

Recently we were told that “Falkirk selection problems were a one-off”. Harriet Harman, Sunday. Also “What we saw in Falkirk is part of the death throes of the old politics. It is a symbol of what is wrong with politics. I want to build a better Labour Party – and build a better politics for Britain.” David Milliband yesterday.

Milliband, Harman, and other modernisers, tell us that ‘stitch-ups’ are something that happened in the dark days of Old Labour. They are, they tell us, rare and indeed unique occurrences.

Well, that is not what happened on Anglesey a week last Saturday. The ‘Ynys Môn stitch-up’ was engineered by the modern Blairite wing of the party.

On Anglesey, where a by-election is being fought, a local, very experienced, and well respected Trade Unionist – the former Cllr John Chorlton, failed to make the short list of candidates. However, three very weak candidates were put up along side Tal Michael – the blue eyed boy of Welsh Labour, and son of former Labour Minister, Alun Michael. This whole episode appears to have been choreographed by elements from within the New Labour regime.

In fact, Tal Michael was being proclaimed as the candidate on Friday evening – the day before the official selection meeting!

‘Stitch-ups’ it appears, are endemic within the Party – and it is not just Unite and the Old Labour party that are involved in these shenanigans.

Shame on you New Labour!

Ydi Dai yn darllen BlogMenai?

Irma said...

This is fantastic!