Wednesday, July 31, 2013

Darogan canlyniad is etholiad Ynys Mon

Reit y rhan hawdd i ddechrau.  Mae Rhun am ennill a hynny yn gyfforddus.


Rwan am y darogan mwy anodd.  Mae'r gyfradd pleidleisio yn debygol o fod yn isel.  Dwy is etholiad sydd wedi bod yn hanes y Cynulliad Dwyrain Abertawe (2001) 22.6% a Blaenau Gwent (2006) 49.6%.  Mae'r gyfradd pleidleisio yn debygol o fod rhwng y naill a'r llall yn Ynys Mon.  Cynhalwyd is etholiad Blaenau Gwent ar yr un diwrnod ag is etholiad San Steffan, ac roedd yn cael ei chynnal mewn amgylchiadau anarferol iawn.  Byddai'r gyfradd pleidleisio mewn is etholiad Cynulliad arferol ym Mlaenau Gwent yn llawer is.

Erbyn dydd Llun roedd 54% o'r 8,800 o'r pleidleisiau post a ddosbarthwyd gan Gyngor Mon wedi eu dychwelyd.  Gellir darogan y bydd tua 60% wedi eu dychwelyd erbyn 'fory.  Mae hyn yn isel, mae 70% i 80% o bleidleiswyr post yn dychwelyd eu pleidleisiau gan amlaf.  Mae hynny yn aml 50% ar ben y gyfradd pleidleisio cyffredinol.  Byddai cyfradd pleidleisio o 60% yn awgrymu cyfradd gyffredinol o 40%. Gallai fod yn is na hynny.  Dwi'n gwybod y bydd ymdrech anferth fory gan y Blaid i gael ei chefnogwyr allan - ond mae'n dalcen caled i ymladd yn erbyn tueddiadau cryf i beidio a phleidleisio mewn is etholiadau - ac mae hynny yn arbennig o wir am is etholiad yng nghanol haf sydd wedi ei hamddifadu o sylw cyfryngol tan yn ddiweddar.   Byddai dod yn agos at  y 48.6% a welwyd yn etholiad 2011 yn gryn gamp.  Un cysur i'r Blaid o hynny ydi bod ei mwyafrif canrannol yn debygol o fod yn uchel iawn os ydi'r gyfradd pleidleisio yn isel iawn.  Mae Pleidwyr yn llawer gwell na neb arall am bleidleisio - yn y Gogledd Orllewin o leiaf.  Ar ben hynny gallai ymdrech lwyddiannus gan y Blaid i gael ei chefnogwyr allan, a diffyg llwyddiant gan y pleidiau unoliaethol i wneud hynny arwain at ganlyniad trawiadol iawn.

O, a thra rydym yn son am bleidleisiau post, y sibrydion sy'n dod o gyfeiriad y sawl sydd wedi gweld y rhai a ddychwelwyd ydi bod Rhun ymhell ar y blaen.  Mae Llafur a Phlaid Cymru yn cytuno ar hynny - nid bod y naill blaid na'r llall yn debygol o gadarnhau hynny.

Y Toriaid oedd yn ail yn 2011.  Fyddan nhw ddim yn ail y tro hwn.  Ar ddiwrnod da gallai'r Dde ddisgwyl hyd at 30% ar Ynys Mon.  Mae'r bleidlais honno wedi ei hollti y tro hwn rhwng y Toriaid ac UKIP, ac mae UKIP wedi gwneud gwell sioe o ymgyrchu na'r Toriaid.  Bydd y Toriaid yn hynod lwcus o ddod yn drydydd.  Ynys Mon ydi un o'r etholaethau gwaethaf i'r Lib Dems a fydd dim yn newid y tro hwn - byddant yn colli eu hernes ynghyd a Katherine Jones.

Llafur sy'n debygol o ddod yn ail.  Mae eu pleidlais mewn etholiadau Cynulliad hyd yn hyn wedi amrywio o 4,681 i 7,181.  Os byddant yn gwneud joban go lew ar gael eu pleidlais ar Ynys Cybi ac mewn un neu ddau o leoedd trefol eraill gallant ddod yn agos at waelod yr amrediad yna.  O fethu gwneud hynny gallant syrthio o dan 4,000, neu hyd yn oed 3,500 - rhywbeth fyddai yn eu rhoi yn anghyfforddus o agos at UKIP.

A di ystyru pleidlais anferthol 1999 mae pleidlais y Blaid wedi bod yn yr amrediad 9,452 i 10,653.  Mae'n anodd, ond yn bosibl cadw'r bleidlais honno mewn cyd destun is etholiad ganol haf sydd heb gael fawr ddim sylw cyfryngol o gwbl.  Byddai cadw pleidlais y llynedd yn rhoi'r Blaid tros 45%.  Byddai hwnnw'n  berfformiad da iawn.   Byddai dod yn agos at yr uchafswm yn rhoi tua hanner y bleidlais i'r Blaid.  Dyna ddylai'r targed fod a byddai cyrraedd hynny yn ganlyniad gwych.  Byddai cyrraedd y 52.6% a gafodd Ieuan Wyn yn ol yn 1999 yn un anhygoel.

Croeso i unrhyw un sydd am ddarogan y canlyniad wneud hynny ar y dudalen sylwadau.  

13 comments:

Hogyn o Rachub said...

Fyddai o ddim yn etholiad pe na bawn i'n ceisio darogan!

Y nifer sy'n pleidleisio ydi'r prif ddirgelwch a'r prif ffactor rili - i fod yn deg mae Môn yn tueddu i fod yn well na lot o lefydd fel hyn ond fedra i ddim dychmygu fo'n uwch na'r 40%.

Dwi am ddarogan y canlynol:

1) Bydd PC yn cael unrhyw beth rhwng 40% a 50% o'r bleidlais (yn dibynnu lot ar faint sy'n pleidleisio)

2) Bydd Llafur yn ennill tua chwarter y bleidlais - efallai tua phumed os bydd y nifer sy'n pleidleisio yn isel iawn

3) Bydd y Ceidwadwyr yn llwyddo i ddod yn drydydd, mymryn o flaen UKIP

Dylan said...

Diolch. Tua phryd gawn ni'r canlyniad? O gwmpas yr 1am?

Cai Larsen said...

12.30 ydi'r diweddaraf - ond mae'r pethau 'ma'n hwyr pob tro.

Un o Fôn said...

Mae pleidlais Llafur yn feddal iawn yng Nghaergybi mae'n debyg a hynny oherwydd eu cefnogaeth i gais cynllunio am ddatblygiad mawr ym Mhenrhos. Symol iawn oedd eu pleidlais yn etholiad y Cyngor.

Richard said...

Un peth diddorol i fi ydy trio gwahaniaethu rhwng ffactorau lleol ac unrhyw batrymau ehangach. Beth dych chi'n meddwl? Fyddai hynny'n bosibl ynr yr achos yma?

Cai Larsen said...

Mae'r lleol yn bwysicach ym Mon nag yw mewn unrhyw etholaeth arall yng Nghymru.

Anonymous said...

Rwy'n lled amau y caiff y Blaid yn agos iawn at lefel '99.

Tua 50% neu fymryn yn fwy.

Ond eto, dwi'n optimist bob tro mae yna etholiad :)

Aled GJ said...

Dwi innna'n meddwl mai tua 40% fydd y turn-out( roedd o'n 50% yn yr etholiadau cyngor sir ym mis Mai).

Ond bryd hynny, roedd yna ysgogiad clir i'r etholwyr, h.y dewis cyngor newydd sbon yn dilyn yr holl drafferthion blaenorol. O ganfasio mewn sawl man, dwi jest ddim yn synhwyro bod yr un cymhelliant ynys gyfan yma y tro hwn. Un o'r rhesymau am hyn yw nad yw'r pleidiau unoliaethol wedi gwneud fawr o drafferth i ganfasio a chreu synnwyr bod hon yn gystadleuaeth.

Mae PC wedi rhedeg ymgyrch dda iawn ac effeithiol a thynnu llawer o bobl newydd i fewn i ganfasio ond mae'r diffyg cystadleuaeth a'r diffyg trafod cyffredinol ar yr is-etholiad yn bownd o gael effaith ar y niferoedd sy'n bwrw pleidlais.

Beth bynnag, dwi'n gweld Rhun yn ennill yn glir hefo tua 8,000 o bleidleisiau( 45% o'r bleidlais?)

O gofio y cafodd UKIP 5,000 o bleidleisiau yn yr etholiadau cyngor- (a Nigel Farage wedi denu 250 o bobl i gyfarfod yng Nghaergybi mae'n debyg) dydi hi ddim yn amhosib y gallan nhw ddenu pleidleisiau oddi ar Lafur a'r Ceidwadwyr a dod yn ail hefo tua 4,000 pleidlais.

Dwi'n gweld Llafur o gwmpas y ffigwr hwn hefyd, a'r Toriaid yn disgyn yn ol i tua 3,500 tro hwn.







BoiCymraeg said...

Byddwn i'n meddwl bod pleidlais UKIP yn fwy na neb arall yn dibynnu ar sylw cyfryngol. Dwi'n gweld UKIP yn cael 1,500-2,000 ar y mwyaf.

Anonymous said...

Blaid yn ennil yn rhwydd (50%)...

Cael a chael rhwng UKIP a Llafur am yr ail safle...

Toris a'r RhyddDemiaid yn colli eu hernes...

Dai said...

Anodd dewud o bellter ac heb fod yn ymwneud a'r ymgyrch ond wy wedi darogan mewn man arall y bydd y blaid yn 45% ac yn gyfforddus ar y blaen. Bydd Llafur yn ail cyffforddus- tua 25%. Am y gweddill pwy a wyr

Anonymous said...

Fel 'anhysbys' 9.47 ga'i ymffrostio fy mod yn uffernol a agos iddi! Oes gwobr bM?!?!

Iris said...

Cool!