Thursday, June 27, 2013

Rhun ap Iorwerth wedi ei ddewis i sefyll tros y Blaid ym Mon.

Llongyfarchiadau i Rhun.  Pob cydymdeimlad i Heledd ac Ann.  Tri ymgeisydd penigamp.

Rwan mae'r gwaith go iawn yn dechrau.

Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod Llafur yn gwneud eu gorau i helpu'r Blaid i fuddugoliaeth ysgubol.  Eu rhestr fer ydi Tal Michael, Julia Dobson, Dan ap Eifion a Paul Penington.  Mae'r olaf yn gynghorydd o Ddinbych, Julia a Dan yn ymgeiswyr aflwyddianus yn yr etholiadau cyngor diweddar a  Tal wrth gwrs yn crwydro'r wlad yn rhoi ei enw ymlaen am pob dim sy'n mynd.

Y sioc ydi nad ydi bos y Blaid Lafur ar yr ynys, John Chorlton ar y rhestr - ac mae'n ymddangos i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud yng Nghaerdydd ac nid ar Ynys Mon.  Mae'n anodd meddwl am ffordd o achosi cymaint o anghytuno mewnol.  Gallai'r bleidlais Lafur fod yr isaf yn yr etholaeth ers cyn cof.  

10 comments:

Dylan said...

Y busnes Chorlton yma braidd yn od ar ôl yr holl fwydro di-sail am "stitch-up" o fewn Plaid Cymru. Stitch-up go iawn yw gwrthod gadael i ffefryn yr aelodau lleol roi ei enw ymlaen yn y lle cyntaf.

Anonymous said...

Tal Michael yn un galluog dros ben. Cyn Brif Weithredwr Heddlu Gogledd Cymru. O leia mae o yn AELOD o'r Blaid Lafur ers degawdau.....yn wahanol i Rhun ap Iorweth sydd yn aelod newydd sbon danlli grai o Plaid Cymru !.....Hyd y gwn mae TM wedi ymgeisio am ddau beth - Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru (pan ddewisiodd Plaid Cymru gefnogi y Lib Dem llwyddiannus) a dwi'n credu iddo drio am enwebiad Arfon yn ddiweddar.Gyda llaw, ydi Rhun ap Iorweth bellach wedi datgan ei safiad ar ynni niwcliar ?

Anonymous said...

Anon "ydi Rhun ap Iorweth bellach wedi datgan ei safiad ar ynni niwcliar?"

Yndi - a dydio ddim be fasa Llafyr yn obeitho amdano.

Anonymous said...

Dydi Rhun ddim yn aelod newydd sbon danlli o'r Blaid gyda llaw. Fe oedd o'n aelod am flynyddoedd cyn iddo orfod gadael oherwydd ei swydd

Anonymous said...

Sawl camgymeriad ffeithiol gan Anon 10.09

1. Ddaru Plaid Cymru ddim cefnogi 'Lib-Dem' yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu. Doedd gan Plaid Cymru ddim ymgeisydd.

Fe ddaru Dafydd Wigley gefnogi Winston Roddick. Ond - roedd WR yn sefyll yn Annibynnol ac nid fel Lib-Dem.

Hefyd fe ddaru Dafydd Elis Thomas gefnogi Tal Michael. Felly, fe wnaeth aelodau'r Blaid gefnogi o leiaf dau o'r ymgeiswyr yn Nhachwedd.

Ta waeth, dach chi'n cofio'r canlyniad ar yr ynys.

Roddick - 3630 40.7%
Michael - 2258 25.3% ( Fe gafodd Nicola bron iawn cymaint a hynny yn Llangefni yn unig!)

Y cwestiwn yw - fedr o wneud yn well na 25%. Cofiwch mai dim ond 33.4% gafodd Albert yn 2010. Felly be gaiff dyn dwad fel Tal? 28% 29% 30% ?? Dydi pethau ddim yn edrych yn dda i Lafur, yn enwedig ar ol gwrthod rhoi cyfweliad i John Chorlton.

2. Rhun wedi bod yn aelod pan yn ifanc ond wedi gorfod ymddiswyddo er mwyn gweithio fel newyddiadurwr. Felly nid aelod newydd sbon ydi Rhun.

Un o hogia'r ynys

Cai Larsen said...

'Tal Michael yn un galluog dros ben. Cyn Brif Weithredwr Heddlu Gogledd Cymru'

Sut mae'r hwyl Tal?

Anonymous said...

Be aflwydd sy'n digwydd o fewn y Blaid Lafur yn y sir 'ma ?

Gwrthod rhoid rhestr fer i John Chorlton - a fynta wedi rhoid oes o wasanaeth da a ffyddlon i Kingsland, i Gaergybi, ac i'r ynys.

Yn waeth na hynna - parashiwtio dau ddyn dwad i mewn. Un yn gyn Liberal o Brestatyn, a'r llall, Tal Michael, hwnnw hefyd yn ddyn dwad, ond o Golwyn Bay. Rwla i fynd am drip ysgol Sul ydi Colwyn Bay - nid magwrfa i wleidyddion yr hen sir hon!

Unig gyswllt hwnnw hefo'r sir oedd bod 'i dad o wedi ei eni yma yn rhyw oes. Tasa fo o ddifi mi fysa fo wedi symud yma i fyw 'ma ers talwm.

Wedyn, ar ben hyn i gyd, rhoid rhestr fer i ddau ymgeisydd hollol ddi-glem o etholiad mis Mai - a'r ddau 'di cael uffar o gweir!

Pwy aflwydd sy'n rhedag y Blaid Lafur yn y sir 'ma bellach?

O leia mae yna un cysur - diolch i'r drefn nag ydi Cledwyn o gwmpas i weld y shambyls yma.

Duw a'n gwaredo!

Ma'r lecsiwn hon ar blat i Rhun fyswn i'n tybio!

Hen was ffarm

Anonymous said...

Mae rhywun yn cydymdeimlo a'r blaid Lafur i'r graddau eu bod yn amlwg yn ceisio sicrhau ethol yr ymgeisydd mwyaf talentog o'u rhengoedd. Fe hoffwn i weld Tal Michael yn cymryd lle un o'r aelodau di-nod hynny sy'n 'cynrychioli' trigolion Clwyd.

Anonymous said...

Mi sgwennodd alun ffred a elfyn llwyd lythyrau cyhoeddus yn y cnarfon and denbigh i gefnogi roddick y lib dem. od man owt odd dafydd el yn cefnogi tal. Mi oeddan nhw yn lloerig efo dafydd el am gefnogi tal.
Mi oeddan nhw hefyd allan yn canfasio efo winston rodd, wel mi oedd alun ffred beth bynnag. Welish i o yn mynd rownd pengroes efo winston rodd efo taflenni.
Doedd rhun ap iorwth ddim yn aelod o PC pan roth o ei enw ymlaen , waeth gynai be ydi yr esgus am hynny, job medda chi......

Anonymous said...

Be ddigwyddiodd i Dyfed Edwards ? Gafodd o rybudd i beidio cyflwyno ei enw , ta be ?