Tuesday, May 07, 2013

Y diweddaraf o Fon

Mae bellach yn edrych yn debygol - er nad yn sicr - mai clymblaid rhwng Llafur a'r criw annibynnol fydd yn rhedeg Cyngor Mon yn y dyfodol agos o leiaf.  Mae mathemateg y sefyllfa yn sicrhau mai'r un peth sy'n sicr ydi bod Llafur am fod yn rhan o'r weinyddiaeth nesaf - beth bynnag arall sy'n digwydd.

Mi fyddai'n well o safbwynt y Blaid petai'n arwain y weinyddiaeth nesaf - ennill ac ymarfer grym ydi pwynt gwleidydda.  Ond os mai clymblaid Llafur / Annibynnol fydd yn rheoli bydd cryn dipyn o gysur i'w gymryd o'r sefyllfa.  Bydd yn niweidio'r Blaid Lafur, a bydd yn niweidio'r Annibyns ar yr un pryd.  Bydd rhaid i bwy bynnag sy'n rheoli gymryd penderfyniadau anodd, ac mae yna botensial di ben draw i wneud smonach o bethau.  Os ydi'r gorffennol yn dweud unrhyw beth wrthym am y dyfodol mae'n debygol y bydd y grwp Annibynnol yn hynod o ansefydlog a ffraegar.

Yn bwysicach bydd cysylltiad efo Llafur yn niweidiol i lawer o'r Annibyns efo'u cefnogaeth wledig lled geidwadol a bydd cysylltiad efo rhai o gombins y grwp Annibynnol yn niweidiol i blaid sy'n hoffi cymryd arnynt i fod a rhyw fath o waelod fel y Blaid Lafur.  Gallai cysylltiad efo antics y gorffennol agos - os bydd rheiny yn cael eu hailadrodd - fod yn fwy niweidiol byth.  Byddai peidio a bod mewn grym yn siomedig - ond byddai'n gwneud pethau'n haws i'r Blaid yn 2015' a 2016 a 2017.

21 comments:

Anonymous said...

O, wir dduw! Does neb yn malio taten! Mae Llafur wedi llwyddo i wastraffu amser Plaid ac felly sicrhau nad yw Plaid Cymru yn rheoli Mon. Pam fyddai plaid Albert Owen yn barod i gydweithio i weld Plaid Cymru yn rheoli Mon!?

A ti'n ceisio rhoi rhyw sbin ar 'byddan nhw'n amhoblogaidd'. Mae'r Gymraeg wedi colli cyfle euraidd achos fod Plaid Mon neu'r Blaid yn genedlaethol wedi meddwl fod nha rhyw frawdoliaeth y Chwith.

Does dim angen i Lafur fod mewn clyblaid efo'r Annibyns - jyst bod nhw ddim mewn clymblaid efo Plaid Cymru.Mae Llafur yn ddigon hapus - gallu beio'r 'Closet Tories' am unrhyw ddrwg a pheidio rhoi hygrededd i Blaid Cymru.

Unwaith eto mae dogma neu naifrwydd Chwith Plaid Cymru - yr unig bobl sy'n credu propaganda Llafur am bla bla Toris drwg bla bla egwyddorion bla bla - yn golygu fod ail sir allan o reolaeth y Blaid.

Beth oedd ar ben y Blaid ym Mon yn credu:
1. na fyddai'r Annibyns yn creu 'plaid' newydd? Mae pobl eraill yn credu mewn grym neu theoriau egwyddorol.
2. y byddai Llafur am fynd i glymblaid lle fydde nhw'n israddol i'r Welsh Nash? Pa fath o bolisi iaith fyddai Plaid wedi gallu gweithredu efo Llafur beth bynnag.

Er mwyn y tad, a wneith asgell Chwith Plaid Cymru arogli'r blydi coffi ac anghofio am y glymblaid yma o'r Chwith Blaengar. Dydy hi ddim yn bodoli.

Cai Larsen said...

Dwi'n cymryd dy fod yn sylwi bod y Toriaid yn amherthnasol i hyn oll oherwydd na chafodd yr un ohonynt eu hethol.

Gofyn i ti dy hun o ddifri - ag ystyried hanes diweddar y traddodiad annibynnol ym Mon - ydi hi'n fwy naif i glymu dy hun i'r gombins, ta ydi hi'n naif i adael i dy wrthwynebwyr glymu eu hunain iddynt?

Dwi'n cymryd dy fod yn ymwybodol mai clymblaid gyda Llafur yn israddol i'r Blaid sy'n rheoli Gwynedd, a bod polisi iaith y sir honno yn llawer cryfach nag un y gombins tros y Fenai.

Gyda llaw, os ti'n meddwl bod Plaid Cymru Ynys Mon yn rhyw fath o grwp Trosgiaidd ti'n edrych ar bethau o'r blaned Mawrth.


Anonymous said...

Ydy mae'r Blaid Toriaidd yn amherthnasol ond yr holl drydar yw fod annibyns = closet Tories.

Llafur - dydy nhw ddim yn 'clymu ei hunain i'r gombins'; dyna'r oll sydd angen i lafur wneud yw peidio gotio efo Plaid. Y gwir ydy fod mwyafrif plaid Lafur Mon yn casau'r 'Welsh Nash' yn fwy 'na rhy annibyn.

Gwynedd - mae na hefyd cwpwl o annibyns yn gwynedd hefyd o beth gofiaf. Does chwaith ddim AS Llafur yno felly mae Llafur yno'n falch o' cyfle i fod mewn grym. Mae'n wahanol i Fon.

Doedd ond angen i Blaid Cymru cael cefnogaeth rhyw 4 annibyn 'da' i reoli. Pam rhoi 5 diwrnod i lafur benderfynu ar beth oeddynt am wneud? Roedd Plaid yn tin droi tra roedd eraill yn cynllwynio a threfnu. Dyna oedd gem Llafur siwr Dduw!

Iawn i buryddion y Blaid ladd ar yr Annibyns ond gwir yw fe gawson nhw 50% o'r seddi. Dyna'r realiti. Mae pobl wedi eu hethol, roedd rheidrwydd ar y Blaid i barchu hynny - rhoi 12 awr i Lafur i wneud ei meddwl ar ddydd Gwener ac yna os oedd Llafur am din-droi rhannu'r grwp Annibyns.

Ti'n trafod fel petai pobl Mon yn meddwl fod fotio dros Gombins yn beth drwg. Ond dydy 50% o ohonynt ddim yn meddwl fod Gombiniaeth yn beth drwg - mae nhw'n meddwl ei fod yn beth da.

Mae'r Gymraeg wedi colli 5 mlynedd nawr achos fod y Blaid yn rhy araf / naif i feddwl na fyddai'r Annibyns yn creu plaid - er fod wedi digwydd yng Ngheredigion ac efo Llafur yn Sir Gar.

Fydd etholiad 2018 ar sail beth bynnag sy'n digwydd yn San Steffan - dyna sut mae etholiadau lleol gan fwyaf. Neu bydd rhywbeth arall wedi codi.

Does 'na ddim 'diwedd' i politics, mae i gyd yn fater o wneud y gorau o'r sefyllfa ar y pryd. Mae'n fater o ddelio gyda ffeithiau fel mae nhw'n codi nid aros i rhyw berffeithrwydd.

Pam fod Plaid Cymru gymaint ofn Llafur? Pam fod nhw mor naif i feddwl byddai Llafur (mewn sedd lle oedd ganddynt AS) am weld Plaid Cymru yn ffurfio cyngor sefydlog da?

Pum mlynedd wast arall i'r Gymraeg achos fod y Blaid wedi credu nonsens Llafur am 'don't work with closet tories' a ballu.

Bydd y Glymblaid annibynnol yma yn llwyddo - fel y gwnaeth yng Ngheredigion achos fydd dim agenda radical yno, bydd i gyd yn common lowest denominator ond gyda'r cynghorwyr unigol yn llwyddo i wneud ffafriau yn eu wardiau unigol. A bydd lot fawr o bobl yn hapus efo hynny achos dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn poeni am bolisiau gwleidyddol. Dydy'r Glymbaid ddim am chwalu achos fod grym yn uno pobl mewn grym.

Yr unig obaith i Blaid Cymru yw gobeithio fod lot o'r Annibyns yn ymddeal yn yr etholiad nesa.

Digalon.

Ioan said...

Mi roedd Oggy Bloggy Ogwr efo blog ar lle mae'r tir 'canol' yng ngwledyddiaeth Cymru:

http://oggybloggyogwr.blogspot.co.uk/2012/07/wheres-centre-ground-in-welsh-politics.html

Di'n meddwl basa ti'n rhoi Plaid Mon (ac ella Gwynedd - mi fasa ti'n gwybod yn well) reit lle mae Oggy on gosod y 'canol'.

Dwi eto i gyfarfod Trots Plaid Cymru yma ym Mon.

Ioan said...

Fellu mae Peter Rodgers yn mynd mewn i glymblaid efo Llafur?

Anonymous said...

Deosw 'na'm Trosts ym Mon siwr iawn, ond pam na wnaeth y Blaid ym Mon siarad a dechrau rhannu'r annibyns ddydd Gwener a Sadwrn. Pam rhoi 5 diwrnod i Lafur?

Beth oedd yr ofn cael Peter Hain / Carwyn Jones / Albert Owen yn dwued 'Plaid does deal with closet Tories'.

Y gwir ydy, mae Llafur mewn grym a dydy Plaid ddim. Mae Llafur wedi chwarae gem llawer mwy cyfrwys na'r Blaid a fydd Albet Owen a Sargeant a phawb arall yn hapus.

Petai Plaid wedi cynghreirio gyda rhai Annibns yna Plaid fyddai wedi bod y blaid 'wrth Lafu' yn electiwn San Steffan nesa. Nawr, Llafur sydd efo'r grwp 'gwrth-Plaid' a dwi'n gwybod lle mae'r fots - dyna pam i ni golli Mon yn San Steffan yn y ll cyntaf.

Gall Plaid fynd mlaen a mlaen am Llafur a #redtories - ond sneb yn poeni taten, mae'r etholwyr yn asgell dde. Dyna mae pob pol piniwn yn ddangos, mae pobl yn geidwadol. Pam fod Plaid yn mynnu meddwl fod 'na rhyw ffrynt radical. Mae pobl yn hoffi Annibyns achoes mae nhw eisiau planning permissin i bildio ty. Dyna holl bwynt llywodraeth leol i lot fawr o bobl.

Be' ydy problem Plaid Cymru? ANgofiwch plesio Llafur, anghofiwch beth mae Llafur am alw chi. Efallai, jyst efallai, fod pobl wedi fotio Plaid Cymru ac mae nhw'n ymddiried ym Mhlaid Cymru i wneud y gorau dros Blaid Cymru nid triangulation efo parpar, efallai, rhywbryd yn y dyfodol etholwyr Llafur.

Llafur unwaith eto yn chwerthin ar ben y Blaid achos fod y Blaid actually yn cymryd sylw o mud-slinging Llafur.

Anonymous said...

Reit, cawn weld beth ddaw.

Jyst, wedi etholiad mor bositif a llwyddiannus, mae mor ddigalon i deimlo fod Plaid yn boddi wth y lan.

Pob hwyl i griw y Blaid yn Mon. Mae 'na filoedd y tu hwnt i'r Fenai sy'n eich cefnogi ac am eich gweld yn arddel grym dros y Fam Ynys a thros y Gymraeg.

HC said...

Sut fath o bobl ydi'r 'Annibynnwyr' yma ? . Ai pobl sydd yn hoffi bod yn rhydd eu barn ydynt, neu 'closet Tories' , neu pobl sydd yn wirioneddol credu mai yn lleol mae gwneud penderfyniadau ?

Cai Larsen said...

Anon 11.37 - fel hyn mae hi.

Dydi pob Annibyn ddim yn gombin - ond dyna be ydi'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Y prif beth i Blaid wleidyddol ydi gweithredu rhaglen wleidyddol.

Mae gan y gombin ystyriaethau eraill. Mae o eisiau gweithredu'r hyn mae wedi addo ar stepen drws - cael joban cownsil i mab Mrs Jones (dydi'r creadur heb gael lwc ers cael dod adref o'r carchar), cael hawl cynllunio ar gyfer ty tebyg i'r peth na yn Dallas ar ben bryn ynghanol cae i Ffarmwr Ffowc, cael cae astrotyrff addas ar gyfer pob tywydd yng Ngogledd Llanbidinodyn (dydi hynny ond yn deg gan bod na un yn Ne Llanbidinodyn).

Mae'r gombin yn hollol hapus pan mae o'n cael rhoddion i'w dosbarthu i'w gleiantiaid, ond pan mae rhywbeth yn mynd o'i le (Aberawen yn cael gwell cae astrotyrff na Gogledd Llanbidinodyn, mab Mrs Jones yn cael sac am ddwyn llwyau o gantin y cyngor a'u fflogio nhw yn car bwt Mona, y Cynulliad yn chwerthin eu hunain yn sal cyn taflu cais cynllunio Ffarmwr Ffowc i'r bin), mae'n llyncu mul a chwilio am rhywun sy'n well am wireddu breuddwydion ei gleiantiaid. Dyna pam bod grwpiau annibynnol yn tueddu i fod yn shambyls llwyr a chwerthinllyd. Dydi'r math yna o beth yn da i ddim i grwp gwleidyddol sydd efo rhaglen ddifrifol i'w gweithredu.

Gyda llaw - o dan y dulliau arferol o gyfri, pleidleisiodd llai i'r Annibyns na bleidleisiodd i Blaid Cymru (llai na thraean a dweud y gwir). Fyddai Llafur ddim mewn sefyllfa i feirniadu'r Blaid oherwydd eu bod nhw eu hunain mewn clymblaid efo Annibyns Sir Gaerfyrddin (cymysgedd o Doris a gombins - efo mwy o Doris nag a geir ym Mon).

ALED GJ said...

Bydd Carl Sargeant yn destun sbort o Fon i Fynwy os yw Llafur Mon yn dewis cynnal breichiau'r union system y slafiodd o i'w ddisodli trwy greu'r wardiau aml-aelod.

Mae hyn cystal a dweud-roedd y system hefo'r annnibynwyr yn rhedeg y sioe yn gwbl doredig ac roedd rhaid i mi ei newid yn llwyr. O na, rhoswch funud ella nad oedd y system cynddrwg a hynny wedi'r cwbl. Fydd gan y boi ddim hygrededd o gwbl os aiff hyn drwyddo.

Anodd gweld rhesymeg Llafur ar lefel arall hefyd: siawns bod angen iddynt allu rannu clod/bai yn gyfartal a Phlaid Cymru ar Ynys Mon yn y run-up ar gyfer etholiadau 2015 a 2016. Dim ond y bai gawn nhw os awn nhw i glymblaid hefo'r Annibyns, hefo 80%o doriadau San Steffan eto i'w gweithredu ym myd llywodraeth leol yng Nghymru!

Dal i feddwl bod yna blyff a dybl-blyff yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Synnwn i ddim mai clymblaid PC/Llafur fydd hi yn diwedd o hyd,falle hefo'r 1 aelod Lib Dem i mewn hefyd.

Anonymous said...

Fydd yna flog am yr hustings Ewropeaidd? Gweld ar Twitter fod y cyfarfod cyntaf yn Caeffili heno.

Cai Larsen said...

Ella - dwi'n mynd i Seilo ddydd Gwener beth bynnag.

Anonymous said...

Cai - diolch am ateb, dueddol o gytuno efo dy sylwadau ar y Gombin (ddim yn credu fod lot o wahanieth rhyngom ni yno) ond mae angen bod yn ofalus hefyd. Dwi'n nabod nifer o gynghorwyr Gombin ac mae rhai'n well na'i gilydd a rhai'n bobl digon da y gellir cynghreirio â nhw - os (fel ym Mon) mai'r Blaid fyddai'r blaid fwyaf o ddigon. Dyna'r pwynt pwysig, y Blaid fyddai wedi bod y brawd mawr yn y berthynas.

Dwi yn gweld hi'n rhyfeddol (os ydw i'n deall yn iawn) nad oedd Llafur wedi trafferthu ateb cynnig y Blaid o gynghreirio ac yna llawn cyn ryfeddol fod y Blaid fel petaent heb wneud dim am y peth. Onid dyna oedd yr adeg i o leiaf siarad efo rhai Annibyns, ac i fod yn machiavelaidd, i'w rhannu?

Mae'n anodd dychmygu Llafur mewn clymblaid efo Peter Rogers. Ond yna grym yw grym ... er ychydig iawn o rym gaiff Llafur mewn clymblaid efo'r Annibyns ... os ewn nhw i glymblaid ffurfiol neu yn hytrach fotio fesul cynnig neu absteinio.

Bydd yn ddiddorol gweld beth ddywedith Llafur yn ganolog. Dwi'n amheus iawn o ddadleuon fel 'fydd Sargeant yn gyff gwawd os aiff Llafur i gynghrair' dwi'n dueddol o feddwl fod cof pobl ar lefel llywodraeth leol llawer llai yn enwedig ar rhywbeth weddol haniaethol (o'i gymnharu â chau ysgol y pentre ddwedwn i).

Mae'n dibynnu faint o issue oedd Mon Sicily Cymru ar y stepen drws. Gallaf ddychmygu y bydd y pleidleiswr Llafur dosbarth canol yn anhapus iawn ond faint o'r rheini sydd? Byddai'n bizarre wedi'r holl amser, egni ac arian a wariwyd ar 'sortio allan Mon' fod Llafur nawr yn cefnogi'r union wleidyddieth a achosodd y llwgr-reoli yn y lle cyntaf!

Ond cawn weld. Wedi'r holl waith a'r llwyddiant a'r neges bositif byddai'n warthus petai Plaid yn colli'r cyfle i roi statws iawn i'r Gymraeg. Dwi'n gobeithio bod Plaid wedi dechrau siarad gydag un neu ddau Annibyn call rhag ofn.

Cai Larsen said...

Daw pethau'n gliriach maes o law beth bynnag - a beth bynnag ddigwyddith does yna ddim oll yn hanes Mon sy'n rhoi lle i ni gredu y bydd yr Annibyns yn aros efo'i gilydd am hir beth bynnag.

Perth Painters said...

Wow, fantastic info thanks, lots of great ideas to try. No problem, its never been easier to get a local painter. Simply post your job request here Perth Painters

Anonymous said...

O ran y siom ynghylch methiant Plaid Cymru i fod yn fwy Mchiavelliaidd, rhaid cofio mai Llafr yw'r 'King Makers' yma.

Mae'r annibynwyr yn gallu ymddwyn fel 'grwp' pan mae'n eu siwtio, ond os yw rhywun fel laid Cymru am bigo nhw i ffwrdd un wrth un mae'n waith caletach o beth wmbreth. Rhaid cymryd un Cynghorydd ar y tro.

Mae Llafur, fel y partner bach mewn unrhyw glymblaid, yn gallu cynnig pob mathau o seddi cabinet a chadeiryddiaeth pwyllgorau i'r grwp annibynol, ac os ydy'r grwp annibynol yma yn ymdebygu i rai eraill, mae'r abwyd yma am fod yn ddeniadol iawn - mwy o bres.

Byddai tipyn yn llai o'r math yma o 'abwyd' gan Blaid Cymru i'w gynnig. Mae fwy o'r grwp annibynol am fod ar eu hennill fel unigolion o uno efo Llafur na thrwy uno efo'r Blaid.

Gan nad oes cwlwm pleidiol wleidyddol yn eu huno nac ychwaith weledigaeth wleidyddol gynhwysfawr i'r Awdurdod gyfan, mae hyn am fod yn ffactor i'w hysyried hefyd. Trist.

Anonymous said...

Diddorol oedd clywed sylwadau arweinydd newydd Cyngor Mon heno ar Radio Cymru ac arweinydd y grwp Llafur.

Cyng Ieuan Williams yn dweud bod "dim gwaith adfer" enw da cyngor Mon - wel dyna ddechreuad da, ac yna Cyng Arwel Roberts yn dweud byddai Plaid cymru wedi bod yn rhy radical i Lafur ymuno a nhw, sy'n dweud y cyfan.

BoiCymraeg said...

Maddeuwch i mi os yw hyn yn gwestiwn dwl - o bosib fi yn methu deall iaith y gogledd neu rhywbeth! - ond o ble ddaeth y gair "Gombin" yma, a be yn union mae'n ei olygu yn y cyd-destun yma?

Cai Larsen said...

http://en.wikipedia.org/wiki/Gombeen_man

jyoti said...

Vintage Leather Sofas The English Sofa Company Four Seater Leather Sofa - Vintage Bruciato. The Abbey features large flat arms, giving it a modern appearence. The depth of the sofa allows for a generous seating area that is perfect for lounging.
The sofa looks great and the painting above it is also a great touch. Alos liking the chest.. the brass hardware is a great touch

BoiCymraeg said...

Diolch!