- Y peth amlwg i son amdano ydi perfformiad y Blaid - mae'n berfformiad cadarn iawn, ac efo dipyn o lwc gallai fod wedi bod yn un gwych. Byddai nifer fach o bleidleisiau ychwanegol mewn pedair ward (Lligwy, Bro Rhosyr, Seiriol a Talybolion) wedi rhoi 16 sedd a grym llwyr i'r Blaid.
- Does yna ddim modd gor bwysleisio canlyniad mor erchyll ydyw i'r prif bleidiau unoliaethol - ac yn enwedig felly y Toriaid a Llafur. Llwyddodd y Toriaid i gael llai o bleidleisiau nag UKIP, a chafodd y Blaid fwy na'r Lib Dems, Llafur a'r Toriaid efo'i gilydd.
- Mae'r traddodiad annibynnol yn fwy gwydn nag oedd llawer ( gan gynnwys fi) yn ei gredu. Serch hynny nid ymgeiswyr annibynnol gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau mewn etholiadau lleol ar Ynys Mon am y tro cyntaf erioed. Mae hyn yn newid sylweddol.
- Dwi'n amau y bydd Albert Owen yn cysgu'n rhy dda heno. Dwi'n gwybod bod etholiad cyffredinol yn beth gwahanol iawn i etholiad lleol, dwi'n gwybod bod yna amgylchiadau arbennig y tro hwn - ond roedd gan bawb yn Ynys Mon gyfle i fotio i Lafurwr ac 17% wnaeth hynny. Mi fydd yna ogwydd cyffredinol tuag at Lafur yn 2015 ond Ynys Mon ydi Ynys Mon. Os bydd y Blaid yn dewis yn ddoeth - yn dewis rhywun efo hygrededd ar lawr gwlad Mon - mae'r hyn oedd yn edrych yn hynod anhebygol ychydig wythnosau yn ol yn ymddangos yn bosibl yn fwyaf sydyn.
- Mae perfformiad sobor Llafur yn haeddu sylw pellach. Methodd y blaid yn llwyr a gwneud argraff y tu allan i ardal Caergybi. Er iddynt ennill sedd yn Seiriol (ardal Beamaris) pleidlais Alwyn Rowlands nid un Llafur oedd honno. Cafodd eu hail ymgeisydd bleidlais digon tebyg i un UKIP. Ar ben hynny tan berfformiodd Llafur yn eu cadarnle yn ardal Caergybi. Dwy o'r dair sedd a gawsant yn ward Caergybi - ardal drefol, dlawd Saesneg o ran iaith - ac roedd UKIP yn agos at gymryd eu hail sedd. Mae ward gyfagos Ynys Cybi yn fwy dosbarth canol ond mae'n cynnwys ardaloedd Maeshyfryd a Kingsland yn nhref Caergybi - ardaloedd a ddylai fod yn ddelfrydol i Lafur. Plaid Cymru ddaeth ar ben y rhestr, collodd John Chorlton - arweinydd Llafur ei sedd gan ddod ar ol UKIP. Roedd eu dau ymgeisydd arall y tu ol i'r Toriaid hyd yn oed. Mae yna rhywbeth sylfaenol o'i le ar drefniadaeth Llafur ym Mon - a hyd yn oed ar Ynys Cybi ei hun.
- Mae arweinyddiaeth bresenol y Blaid yn wahanol i'r rhai rydym wedi eu cael yn y gorffennol o ran arddull i'r graddau ei bod yn arweinyddiaeth 'hands on' iawn o ran ymgyrchu a chymryd rhan mewn etholiadau. Mae'r ffordd yma o fynd ati wedi talu ar ei ganfed y tro hwn ac mae'n bluen yn het yr arweinydd (cymharol) newydd. Mae'n debyg mai dyma'r ymgyrch fwyaf brwdfrydig a threfnus yn Ynys Mon ers ethol Ieuan Wyn Jones yn ol yn 1987. Mae'r ymgyrch wedi cryfhau'r drefniadaeth leol yn sylweddol a gellir mynd ati i adeiladu ar hynny o gwmpas y cynghorwyr newydd.
- Mae'r Blaid ym Mon i'w llongyfarch am eu hymgyrch y tro hwn. Roedd yn drefnus, trylwyr a brwdfrydig.
Friday, May 03, 2013
Etholiad Mon - sylwadau brysiog
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
8 comments:
Cytuno yn llwyr a dy sylwadau ynglyn a BBC Cymru. Roeddynt fel pet agent wedi gwirioni bod UKIP wedi gwneud yn weddol yn Caergybi.. Wnes I ddim clywed nhw yn dweud pa mor drychinebus roedd eu canlyniad ar draws Mon
Edrych bod UKIP wedi dwyn fot oddiwrth Llafur a'r Toriaid. Edrych bod y cynnydd o 7% i UKIP yn gret i Plaid Cymru mewn system FPTP (ddim mor dda yn y Cynulliad, lle byddant ella yn enill ambell i sedd ar y list).
Nes i ddim dychmygu basa Llafur yn cael noson mor wael...
Wrth ddarllen y Daily Post heddiw, sylwi bod yn 4 ymgeisydd PC yn Twrcelyn, gyda 3 aelod i'w hethol. Lle mae'r gwall ? Arwahan i hyn a diflastod nodweddiadol Caergybi, noson obeithiol.
Cytuno ei bod hi'n noson wael iawn i Lafur a nhwythau wedi bod yn brolio am ennill hyd at 10 sedd. Dwi'n meddwl y bydd Carwyn Jones yntau yn poeni o weld sut gafodd ei blaid eu curo gan y math o ymgyrchu "hands-on" brwdfrydig a welwyd gan PC ar yr ynys, gan y gallai hyn fod yn argoel o etholiad senedd Cymru 2016. I bawb oedd yn cefnogi Leanne am arweinyddiaeth PC, mi roedd ennill 12 sedd yn gyfiawnhad bod y dewis iawn wedi'i wneud y llynedd. Roedd gweld hi ar garreg y drws hefo etholwyr yn ystod yr ymgyrch hon yn dangos eto ei bod hi'n gallu cyrraedd pobol gyffredin mewn modd nad ydi gwleidyddion arferol o bob plaid yn gallu gwneud.
A phwy a wyr na fydd y llwyddiant etholiadolyn fodd i ddenu un neu ddau o'r ymgeiswyr annibynol i ymuno a grwp PC, unwaith y bydd y maniffesto rheoli wedi'i gyhoeddi.
Un pwynt arall calonogol: mae 28 o'r 30 cynghorydd newydd yn Gymry Cymraeg. Cyfle go iawn rwan i sefydlu gweinyddiaeth fewnol Gymraeg i'r cyngor megis Gwynedd a sefydlogi sefyllfa'r iaith ar yr ynys.
Trueni nad oedd y Blaid mor llwyddianus yn y de lle'r ennillod Llafur mewn etholiad cyngor yng Nghaerffili a Phenybont.
Fel yr ydych yn awgrymu, y cwestiwn mawr nawr ydy pwy i'w ddewis yn ymgeisydd ar gyfer San Steffan. Rhaid iddo / iddi fod yn wreiddiol o Fôn ac yn byw yno o hyd, baswn i'n meddwl. Oes gan Vaughan Hughes ddigon o hygrededd? Rhyw syniadau eraill?
Rhaid cytuno bod Plaid Cymru wedi gwneud yn dda a’r Blaid Lafur wedi eu siomi. Ond etholiad oedd hwn dan system newydd oedd wedi ei ddyfeisio - yn ôl y cyn-arweinydd ac ambell un arall - i ffafrio’r pleidiau gwleidyddol dros aelodau annibynnol. Ar y cyfan ‘roedd y ddwy blaid wedi ymateb i’r her yn dda, gan ymdrechu i ffurfio’r weinyddiaeth, fel mewn cynghorau eraill ar linellau pleidiol.
Ond rhaid dweud, os oedd bwriad i hel yr elfen annibynnol allan, neu i gyflwyno lawer o waed newydd, mai methiant fu hwnnw. Os rhywbeth (a chydag ambell i eithriad arwyddocaol), roedd ceidwadaeth yr etholaeth wedi tueddu i ffafrio ailethol aelodau presennol y cyngor. Er gwaethaf yr ailwampio ffiniau, mae 60% o aelodau’r cyngor newydd yn dod o blith aelodau’r hen gyngor – canran dim uwch nag yn 2008.
Os bydd yr aelodau sydd wedi eu hethol dan faner annibynnol yn llwyddo i ddod at ei gilydd a ffurfio un grŵp, efallai hefyd yn denu’r Democrat Rhyddfrydol unig, nhw fyddai’r grŵp mwyaf, ac yn hawlio ffurfio’r weinyddiaeth. Mae sôn yn y cyfryngau am ffurfio clymblaid yn anwybyddu’r rhifyddeg amlwg hwn.
Yn anffodus, mae’r rhifyddeg hefyd yn arwain yn anochel at yr angen gan y naill ochr a’r llall i ennill cadeiryddiaeth y cyngor, gyda’r bleidlais fwrw. Bydd colled y cyn Is-gadeirydd yn taflu’r gystadleuaeth yn agored. Gall hyn – Cyngor wedi ei hollti yn hanner yn union, a dim ond grym y Cadeirydd i dorri’r anghydfod – ddychwelyd Môn i rai o sefyllfaoedd annifyr y gorffennol.
Tra bob amser yn gobeithio am well, rhaid awgrymu nad yw’r holl ailwampio a fuodd wedi arwain at ryw lawer o newid sylweddol yn y Cyngor fuasai’n bodloni amcanion gwreiddiol y sawl a’i cynlluniodd.
Beth sydd hefyd yn arwyddocaol am yr etholiad yma yw fod y Blaid wedi gwneud mor dda yng ngwyneb diffyg sylw/sylw negyddol y papurau lleol (Daily Post a'r Holyhead Mail). Gwyr pawb sydd yn deallt unrhywbeth am wleidyddiaeth a'r wasg mai papurau Trinity Mirror sydd yn gefnogol i Llafur yw'r rhain - mae'r Holyhead Mail wedi troi i fod fel taflen etholiad Albert Owen yn wythnosol ac mae'r Daily Post yn dilyn yr un trywydd bellach. Dwi'n cytuno'n llwyr fod angen i'r Blaid ddewis ymgeisydd San Steffan da, a hynny'n fuan, gan eu bod wedi profi mai ar stepan y drws mae ennill yr etholiad honno, a tydi'r drefniadaeth, brwdfrydedd a'r gwirfoddolwyr yna ddim gan y Blaid Lafur ym Mon.
Post a Comment