Mae'n debyg mai UKIP fydd y stori fawr yn y cyfryngau Prydeinig ddydd Gwener - am a ganran o'r bleidlais maent yn ei ennill os nad y nifer o'r seddi maent yn ei gael. Mae'r polau piniwn yn ogystal ag is etholiadau San Steffan a lleol yn awgrymu i'r blaid adain dde symud ymlaen yn sylweddol ers etholiad 2010.
Mae'n debyg bod tri rheswm sylfaenol am hyn. Yr un lleiaf pwysig ydi i'r BNP wneud yr hyn mae pleidiau neo ffasgaidd Prydain wedi ei wneud erioed a syrthio'n ddarnau oherwydd ffraeo mewnol. Mae hyn wedi creu rhywfaint o le newydd ar y dde i UKIP, ond ddim cymaint a'r hyn sydd wedi ei greu gan ddyfodiad y glymblaid yn Llundain. Mae hynny wedi llusgo 'r Toriaid i'r chwith ar yr un llaw tra'n gwneud y Lib Dems yn anaddas ar gyfer pleidleiswyr protest ar y llall. Mae cryn dipyn o dir gwleidyddol felly wedi ei agor i UKIP.
Y gred hyd yn ddiweddar oedd y byddai UKIP yn cael pleidlais sylweddol, ond yn methu troi hynny'n nifer fawr o seddi - 40 i 60 o enillion efallai. Byddai hyn yn eu rhoi yn bedwerydd. Mae yna reswm da tros ddod i'r casgliad yma. Does gan UKIP ddim llawer o beirianwaith ar hyd y DU, a bydd symudiadau cyflym tuag at pleidiau di beirianwaith yn tueddu i fod yn gyson ym mhob man. Dydi'r gyfundrefn etholiadol sydd gennym yn y DU ddim yn garedig efo pleidiau sydd a chefnogaeth nad yw'n amrywio llawer o ardal i ardal - oni bai bod y gefnogaeth honno yn uchel iawn.
Yr enghraifft mwyaf enwog o hyn ydi etholiad 1983. Roedd y Gynghrair SDP / Rhyddfrydwyr wedi hel cryn dipyn o gefnogaeth yn gyflym iawn. Pan ddaeth yr etholiad cawsant 25.4% o'r bleidlais o gymharu a 27.6% Llafur. Ond dim ond 23 o seddi a gawsant - o gymharu a 209 Llafur. Roedd cefnogaeth y Gynghrair wedi ei dosbarthu yn gyfartal ar hyd y DU, tra bod un Llafur yn anwastad ac wedi ei ganoli ar ardaloedd trefol a diwydiannol. Erbyn heddiw mae cefnogaeth y Lib Dems yn llai gwastad, ac mae ganddynt beirianwaith sylweddol mewn rhai ardaloedd. Yn 2010 daeth 23% o'r bleidlais a 57 sedd iddynt.
Beth bynnag, cyhoeddwyd pol ComRes oedd wedi ei gymryd yn y siroedd (ceidwadol yn bennaf) lle yr etholiadau lleol yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'r marchnadoedd betio wedi symud yn sgil hynny. Y canlyniad oedd Toriaid 31%, Llafur 24%, UKIP 22% a'r Lib Dems 12%. Rwan petai hynny yn cael ei wireddu mae'n awgrymu y gallai UKIP gael mwy o seddi na mae pobl yn disgwyl. Mewn ras 4 ceffyl bydd seddi yn cael eu hennill gyda chanran o 30%. Dydi 22% ddim ymhell o 30%. Gyda 1,745 o ymgeiswyr mae'n anodd dychmygu y bydd pleidlais UKIP mor gyson nes atal cwpl o gannoedd o ymgeiswyr rhag cael 30%+ a 40%+ a felly cael eu hunain yn cystadlu am y seddi hynny.

No comments:
Post a Comment