Thursday, May 23, 2013

Gwneud sioe fawr o wneud dim

Felly mae Mark Antoniw, Owen Smith, Chris Bryant a'n hen gyfaill Leighton Andrews yn benderfynol eu bod am gadw adran damweiniau Ysbyty Frenhinol Morgannwg yn Llantrisant ar agor.  Yn wir  maent mor benderfynol o'i cadw'n agored nes iddynt fynd ati i lawnsio ymgyrch i'r perwyl hwnnw.  Ymgyrch fydd wrth gwrs yn dod a chryn sylw i'r pedwarawd  - mi fyddan nhw'n cael  anerch cynulleidfaoedd o bobl i ddweud cymaint maent yn gwrthwynebu'r cynlluniau, sefyll ar y palmant ym Mhontypridd a Threorci yn hel deiseb a dweud wrth bawb cymaint maent yn gwrthwynebu'r cynlluniau -  cael eu gweld fel pobl sy'n ceisio gwneud rhywbeth.  Mae y rhywbeth hwnnw yn debygol o fod yn gwbl aneffeithiol wrth gwrs.

Mae yna rhywbeth arall llawer mwy effeithiol y gallant ei wneud.   'Dydi swyddfeydd Leighton Andrews a Mark Drakeford yn y Cynulliad ddim ymhell oddi wrth ei gilydd.  Gallai Leighton godi oddi ar ei ben ol, croesi'r 'stafell gabinet ac ymweld a Mark Drakeford i gael gair bach efo fo am ddyfodol yr uned.  Ni fyddai hynny'n dod a mymryn o sylw i Leighton  - ond dyna'r ffordd mwyaf effeithiol o gadw'r uned yn Llantrisant.  Ond mae  ymddangos i wneud rhywbeth yn bwysicach o lawer na gwneud rhywbeth.

A dyna ni'r Blaid Lafur Gymreig i'r dim - nhw ydi'r sefydliad yng Nghymru, ganddyn nhw mae'r grym, mae pob dim yn troi o'u cwmpas nhw.  Ond maen nhw hefyd eisiau bod yn wrth sefydliadol ar yr un pryd - sefydliad gwrth sefydliadol.  

5 comments:

Anonymous said...

Ond a fydd Plaid Cymru yn y Rhondda yn cyhoeddi taflenni yn dangos mor ddau wynebod mae Llafur. Fydd Plaid Cymru yn hecklo Leighton os yw'n annerch torf gyhoeddus? Fydd PC yn gwrthod dilyn 'it's not a political party issue' bydd yr ymgyrch cadw'r ysbysty ar agor (h.y. ffrynt Llafur) yn ei fynnu.

Neu fydd PC jyst yn trydar ar y peth a gwneud speeches yn y Cynulliad does neb yn gwrando arnynt?

Anonymous said...

Dwi'n siwr y bydd y Blaid yn Rhondda yr un mor effeithiol a'r Blaid yn y Gogledd yn beio LLafur am y llanast iechyd. Dyna pam nad yw Lesley Griffiths yn ysgrifennydd iechyd bellach.

Anonymous said...

Newydd weld rhyw Gareth Llywelyn @GarethLlewe yn trydar fod 'na 'non-partizan campaign group i achub yr ysbyty.Mae 'na ymgyrch @rhondda4royalg

Gallwch chi sicrhau fydd hwn yn cael ei stwffio gan Lafur, ac yn enw bod yn 'non partizan' bydda nhw ddim yn gadael i AC Plaid Cymru siarad mewn cyfarfod.

Bydd y grwp yma yn beio 'the Assembly' - byth yn dweud 'Labour'.

Rhaid i Blaid Cymru felly tanseilio'r grwp yma a ffurfio grwp arall. Sori, dwi'n gweld Llafur yn ei chwarae hi bob ffordd ... ac yn ennill a Phlaid, unwaith eto yn rhy ddiniewed/

Anonymous said...

"Mae y rhywbeth hwnnw yn debygol o fod yn gwbl aneffeithiol wrth gwrs."

O rhan cael eu gweld ac ennill edmygedd y defaid, mi fydd hyn yn gwbl effeithiol. Ac ar diwedd y dydd, dyna beth sy'n bwysig iddynt.

Anonymous said...

Roeddwn yn meddwl fod yr ymgyrch yma i fod yn draws bleidiol? Dim ond lluniau Llafurwyr sydd ar y dudalen 'Newyddion'.

http://www.campaign4royalglam.com/