Y ffaith bod Plaid Cymru 'yn yr anialwch' yn dilyn etholiadau lleol Ynys Mon ydi thema ein cyfaill yr wythnos yma. Mae Gwil yn ymddangos yn hapus iawn bod Plaid Cymru yn y dywydedig anialwch, ac mae'n gwbl sicr ei farn mai'r rheswm am hynny ydi'r ffaith nad ydi'r Blaid mor ddi amwys frwdfrydig tros ynni niwclear nag ydi Gwil ei hun.
Rwan, mae'r dyn yn gywir nad ydi'r Blaid mewn grym - hi ydi'r wrthblaid a chyfuniad o bawb arall sy'n llywodraethu. Ond dydi bod yn brif wrthblaid ddim yn gyfystyr a bod mewn anialwch. Fel rydym wedi ei awgrymu eisoes mae sefyllfa felly yn cynnig cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Ond rhywbeth mwy diddorol ydi pam bod Gwil yn gwneud cysylltiad rhwng ynni niwclear a phenderfyniad Llafur i fynd i glymblaid efo'r Annibyns, er taeru du yn wyn na fyddant yn gwneud y ffasiwn beth cyn diwrnod yr etholiad. Yn wir pan holwyd arweinydd y Blaid Lafur pam y daethanti'w penderfyniad ar Radio Cymru roedd ei ateb yn gwbl glir - doedd o ddim yn 'nabod llawer o'r pleidwyr newydd, ac roedd o'n ofn rhyw hen radicalaeth. Mae hyn yn crisialu gwleidyddiaeth draddodiadol Ynys Mon yn ddigon twt - rhaid peidio delio efo'r anghyfarwydd a rhaid osgoi radicaliaeth doed a ddelo. Er gwaethaf yr holl gelwydd y byddant yn newid pethau o gael eu hethol, mae'n ymddangos bod meddylfryd cynghorwyr Llafur Ynys Mon wedi ei angori'n soled ym nhraddodiad hen wleidyddiaeth Ynys Mon.
Ta waeth, mae Gwil yn llafurio efo'r argraff ei fod yn gwybod yn well na'r sawl wnaeth y penderfyniad pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Pam? Wel dydw i ddim eisiau ymddwyn fel Gwil ei hun a smalio fy mod yn gwybod yn well nag unigolion beth maen nhw eu hunain yn ei feddwl. Serch hynny rydym yn gwybod nad ydi'r hen foi yn hoffi Leanne Wood (dim digon adnabyddus iddo a rhy radiacal da chi'n gweld) a'i fod yn hoff iawn o bwerdai niwclear. Dwi'n amau dim bod Gwil wedi edrych ymlaen yn arw at ganlyniadau'r etholiadau i weld y Blaid yn methu a'r Blaid Lafur yn llwyddo, ac wedi edrych ymlaen hyd yn oed mwy at gael priodoli hynny i'w annwyl orsaf niwclear. Ond och a gwae, pan ddaeth dydd y cyfrif cafodd plaid Gwil y stid fwyaf ofnadwy - er gwaethaf eu hymdrechion di ddiwedd i gysylltu eu hunain a'r syniad o godi ail orsaf ar Ynys Mon, tra bod y Blaid wedi llnau'r llawr efo nhw ym mron i pob twll a chornel o'r ynys. Felly dyna fynd ati i addasu'r naratif rhyw ychydig. Mor un llygeidiog ag ydi Gwilym, fedrai hyd yn oed fo ddim honni i'r Blaid wneud yn sal, felly dyna fynd ati i briodoli methiant i ennill grym yn hytrach na methiant i ennill fots i amwyster ynglyn a gorsaf niwclear ar Ynys Mon.
Ac wrth gwrs gan fod Gwil wedi penderfynu ar ei naratif cyn yr etholiad mae'n methu'n lan a sylwi ar yr eliffant mawr hyll ar y stepan drws - y gweir etholiadol anferth a gafodd Llafur ar yr ynys - ynys sydd yn cael ei chynrychioli gynddynt yn San Steffan. Mi lwyddodd hoff blaid Gwil i gael cweir yn ardaloedd trefol Mon hyd yn oed - methu a chadw eu sedd yn Nhwrcelyn, methu a dod o flaen John Arthur yng Nghanolbarth Mon, dod y tu ol i dri phleidiwr, dau Annibyn, dau Lib Dem yn Aethwy, gweld dau o'u hymgeiswyr yn dod y tu ol i UKIP yn Ynys Cybi a chael eu tri ymgeisydd ar waelod y pol yn Lligwy. Mae'n debyg mai hon oedd y gweir fwyaf i Lafur o holl etholiadau Cymru a Lloegr ar ddiwrnod yr etholiad - ac hynny mewn etholaeth San Steffan maent yn ei dal.
Ac mae Gwil wedi methu'r cyfan. Y mater sydd o arwyddocad iddo fo ydi bod llond crochan o Doriaid, Gombins, Llafurwyr, Lib Dems a Nimbis wedi dod at ei gilydd i gadw Plaid Cymru allan o rym. Dydi o ddim yn dangos unrhyw ymwybyddiaeth o gwbl o'r ffaith bod cryn draddodiad o glymblaid fel hyn yn dod at ei gilydd yn y Gorllewin - yn Sir Gaerfyrddin ac yn Sir Geredigion tan yn ddiweddar er enghraifft. A'r rheswm maen nhw'n dod at ei gilydd? Dim oll i'w wneud efo ynni niwclear wrth gwrs. Ond yn hytrach - ag aralleirio'r hyn ddywedodd  Arwel Roberts, arweinydd Llafur ar Gyngor Mon - maen nhw'n ofn yr anghyfarwydd, yn ofn yr hyn sy'n radical, yn ofn newid. Mae'n nhw'n gasgliad o geidwadwyr cul sy'n ofn unrhyw newid am eu bywydau.
6 comments:
Na, mae Llafur yn dod at annibyns yn Môn a Sir Gâr achos fod nhw'n Brits. Fôt ddiwylliannol, gwrth Welsh Nash ydy o. Dyna p dwi methu deall nad oedd Pleidwyr Môn wedi ei ragweld. Mae politics Cymru wedi ei seilio ar hunaniaeth a diwylliant, nid jyst polisiau.
Tybed fedr Gwilym Owen oleuo gwerinwr bach cyffredin ar un neu ddau o faterion bach sydd wedi codi ar yr hen ynys 'ma ers yr ail o Fai.
1. Oes ydi Plaid Cymru mor amhoblogaidd ar yr ynys - yna sut ar wynab ddaear ddaru'r 26 ymgeisydd y Blaid gael cyfanswm o19,649 o bleidleisiau ar yr ail o Fai? Mae'r hyn felly yn torri'r record flaenorol - sef pleidlais Ieuan Wyn Jones yn etholiad 1987. Os cofiaf yn iawn 18,580 oedd ei bleidlais ef. Mil a rhagor yn fwy felly yn 2013 ! Record!
2. Pam mae gan y Blaid 12 Cynghorydd ? Llafur 3 a'r Lib-Dems dim ond un ?
3. Sut ddaeth y Blaid ar dop y rhestr mewn 5 etholaeth. Ynys Gybi, Seiriol, Aethwy, y Canolbarth a Thalybolion. A Llafur - dim ond mewn un ward - Caergybi!
4. Sut lwyddodd y Blaid i gael mwy o bleidleisiau na Llafur, y Lib-Dems, y Toriaid ag Ukip hefo'i gilydd.
Unrhyw sylw Gwil?
Gwerinwr cyffredin
Parthed y Glymblaid ar yr Ynys
Y prif reswm dros sefydlu Cylymblaid Annibyns + Llafur + un Lib-Dems yn ôl Llafur oedd Wylfa B.
“This partnership will deliver the stability we need, offering a clear majority for the administration. It will also put jobs and investment in the Island at the very heart of all that we do. The priority of Labour councillors will be to secure continued progress on 'Wylfa B' - jobs and training opportunities for our young people.” Y Cynghorydd Arwel Roberts, arweinydd y Grŵp Llafur, 9 Mai 2013
Ond….
Liberal Democrats will reject a new generation of nuclear power stations; based on the evidence nuclear is a far more expensive way of reducing carbon emissions than promoting energy conservation and renewable energy. Maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol Prydeinig 2010
We will lead a green revolution in Welsh energy supply by issuing a formal statement that the Welsh Government supports renewable and community energy projects as a priority and opposes new nuclear power because of its detrimental impact on human health and its long-term unsustainability. Maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig 2011
Cwestiwn i Arwel Roberts
Pam mae Aled Morris Jones yn aelod o’ch clymblaid a’r Lib-Dems yn hollol wrth-niwclear ?
Y cwbl ddywedodd Arwel oedd bod Llafur o blaid Wylfa B. Doedd o methu siarad tros y glymblaid am bod amrywiaeth barn. A dyna ffantasi Gwil wedi ei chwythu'n ddarnau.
Mae dyddiau Albert wedi'w cyfri ym Mon-a fo sydd yn gyfrifol am wrthod siarad a chydweithio efo Plaid-neb arall. Amser dangos gwir ochr eithafol a gwrth Gymraeg y cyfaill hwn i bobl Mon.
Cytuno'n llwyr. Mae Albert bellach mewn dipyn o dwll ar ol yr etholiad Cyngor Sir.
Mae'r Blaid Lafur wedi colli tir yn sylweddol, yn nhermau nifer y Cynghorwyr a chanran y bleidlais - a hynny ar yr union adeg pan mae Llafur ar frig y polau piniwn Prydeinig. Mi ddylent fod wedi gwneud yn well o lawer na hyn.
Dim ond un Cynghorydd Llafur ddaeth ar frig y rhestr ym Mon.
Un Cynghorydd yn unig sydd gan Lafur y tu allan i Gaergybi, a hwnnw'n crafu i mewn yn drydydd gwael yn Ward Seiriol.
Y tri ymgeisydd Llafur yn ward Lligwy ( ble y cafwyd ymgyrch rymus) reit ar waelod y rhestr.
Cynghorwyr profiadol fel John Chorlton a Dylan Jones, Amlwch, yn colli eu seddau.
Ac yn y blaen...
Ond - yn waeth na hynny, UKIP yn ennill dros 1,100 o bleidleisiau yn ardal Caergybi - reit yng nghanol cadarnle Albert.
Mi fydd etholiad nesaf Senedd San Steffan yn ddiddorol.
Post a Comment