Sunday, May 05, 2013

Goblygiadau twf UKIP i wleidyddiaeth yng Nghymru

Mae'n anffodus nad ydi'r Hogyn o Rachub yn blogio mor aml ag yr oedd ar un adeg, mae ei flogiadau pob amser werth eu darllen - er mae'n well osgoi darllen yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am ei deulu.  Mae rhai pethau mae'n well peidio eu gwybod.  Ta waeth wele ei flogiad diweddaraf ar lwyddiant UKIP yn etholiadau lleol Lloegr a goblygiadau hynny i'r dyfodol.

Mae'r blog yma yn naturiol ddigon wedi canolbwyntio ar yr etholiadau lleol yn Ynys Mon tros y dyddiau diwethaf, ond mae'r etholiadau yn Lloegr gyda goblygiadau i Gymru hefyd - yn arbennig felly cyn eu bod yn ganlyniadau mor hynod.  Maent wedi eu nodweddu gan berfformiad cryf iawn gan UKIP a chanlyniadau oedd oll mewn gwahanol ffyrdd yn siomedig i'r prif bleidiau unoliaethol.

Y peth cyntaf - a'r peth mwyaf amlwg - i'w nodi ydi bod y datblygiadau yma'n newid y gem.  Am y tro cyntaf mae Lloegr yn cael ei hun mewn tirwedd pedair plaid, ac mae yna bump yma yng Nghymru.  Mae'n anhebygol y bydd y sefyllfa yma'n parhau yn yr hir dymor, ond mae'n weddol sicr y bydd yn cymryd rhai blynyddoedd cyn i'r sefyllfa newydd, gymhleth sydd ohoni ddod i ben.

Mae'r data sydd ar gael yn sgil etholiadau ddydd Iau yn awgrymu bod UKIP yn cymryd pleidleisiau oddi wrth y dair plaid unoliaethol arall - ond bod y Toriaid yn colli mwy o bleidleisiau a bod Llafur yn cael eu digolledu am eu colledion nhw gan enillion o gyfeiriad y Lib Dems.  Mae hefyd werth nodi nad yw'n debygol y bydd UKIP yn cymryd pleidleisiau gan Blaid Cymru, a gallai hynny roi mantais iddi mewn rhai sefyllfaoedd.

Mae hi'n debygol y bydd llwyddiant UKIP yn Lloegr yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru.  Wnaeth hynny ddim digwydd yn Ynys Mon wrth gwrs - roedd cyfradd cefnogaeth UKIP tua chwarter yr hyn oedd yn Lloegr.  Ond mae yna rannau o Gymru sy'n fwy UKIP gyfeillgar nag Ynys Mon.  Yn etholiad Ewrop 2009 roedd cefnogaeth UKIP tros y DU yn 16.5%.  Roedd yn is yng Nghymru - ond ddim yn arwyddocaol is - 12.8%.  Petai etholiadau lleol tros Gymru ddydd Iau mae'n anhebygol y byddai cymhareb felly wedi cael ei chynnal, ond mi fyddai UKIP yn debygol o fod wedi dychwelyd cynghorwyr mewn nifer o ardaloedd.  Mae'r tirwedd yng Nghymru hefyd wedi newid, ac mi geisiwn ddisgrifio effaith tebygol hynny yn y dyfodol.

Mi gychwynwn efo'r etholiad hawsaf i'w darogan - un Ewrop y flwyddyn nesaf.  Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad oes gan y Lib Dems unrhyw obaith o gwbl o gael sedd.  Dydyn nhw ddim yn gystadleuol mewn etholiadau Ewrop yng Nghymru pan mae'r gwynt yn eu hwyliau.  Dydi'r gwynt ddim yn eu hwyliau ar hyn o bryd.  Does yna ddim llawer o bobl yn cofio mae'n debyg gen i i'r Toriaid ddod yn gyntaf yng Nghymru yn yr etholiad hwnnw.  Y canlyniad oedd Toriaid 21.2%, Llafur 20.3%, Plaid Cymru 18.5% ac UKIP 12.8%.  Cafodd y pleidiau hynny sedd yr un.  Tan yn ddiweddar byddai dyn wedi disgwyl i Lafur gynyddu eu pleidlais digon i gael mwy na dwywaith pleidlais UKIP ac felly cymryd eu sedd.  Dydi hynny ddim yn debygol o ddigwydd bellach.  Ond petai'r un gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yn digwydd yng Nghymru yn yr etholiadau Ewrop a ddigwyddodd yn etholiadau lleol Lloegr ddydd Iau yna byddai'r Toriaid yn colli eu sedd i Lafur.

O edrych ymhellach ymlaen i etholiad cyffredinol 2015 mae'n mynd yn fwy anodd.  Gellir disgwyl i UKIP wneud yn well nag yn 2010, ond mae'r cyfryngau yn tueddu i wasgu pleidiau ag eithrio Llafur, y Toriaid neu'r Lib Dems allan o'r darlun.  Ond a chymryd patrwm lle mae'r Toriaid yn colli i Lafur ar un llaw ac i UKIP ar y llall tra bod y Lib Dems yn gwaedu pleidleisiau i Lafur gellir darogan y bydd y rhan fwyaf o seddi'r Toriaid o dan bwysau.  Mae gan pob aelod seneddol Toriaidd lle mae Llafur yn ail gydag eithriad David Davies le i boeni.  Mae hynny'n arbennig o wir mewn etholaethau lle mae gan y Lib Dems bleidlais barchus (y cwbl ohonyn nhw erbyn meddwl).  Mae'r Lib Dems yn siwr o golli Canol Caerdydd a fyddan nhw ddim yn ennill sedd o'r newydd.  Mae'r symudiad oddi wrth y Toriaid at UKIP yn fanteisiol iddynt ym Mrycheiniog. Maesyfed ond ddim yng Ngheredigion. Er bod Ceredigion ac Ynys Mon yn parhau i fod yn anodd i'r Blaid, mae'r ddwy yn fwy tebygol o lawer yn sgil datblygiadau diweddar, ac o gael yr ymgeisydd iawn a chanolbwyntio adnoddau yn ofalus mae'r ddwy bellach yn bosibiliadau pendant.  

Mae etholiad y Cynulliad 2016 yn fwy anodd eto i'w ddarogan. Bydd llawer yn dibynu os bydd Llafur mewn grym yn San Steffan. Gallai hynny arwain y ffordd at etholiad da neu dda iawn i Blaid Cymru. Ond y naill ffordd neu'r llall byddai hyd yn oed perfformiad tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn Ynys Mon yn gwneud UKIP yn gystadleuol yn y seddi rhanbarthol. Os bydd UKIP yn dod o flaen y Lib Dems yn y rhanbarthau - ac o dan amgylchiadau heddiw byddai hynny'n siwr o ddigwydd - byddai UKIP yn debygol o gymryd 5 a gadael y Lib Dems heb unrhyw seddi rhanbarthol. Byddai'r Cynulliad yn lle ofnadwy o unig i Kirsty Williams.

18 comments:

Anonymous said...

Cyn i bawb fynd dros ben llestri am UKIP, gwerth nodi mai yn y "shire counties" Lloegr yr oedd y bleidlais yma, lle gwnaeth treuan fotio. Cheith UKIP ddim cymaint mewn ardaloedd dinesig Gogledd Lloegr na Llundain.

Wedi deud hynny mae'n achosi problem i'r Toriaid ar hyd glannau'r Gogledd - dyma lle y bydd UKIP ar ei gryfa yng Nghymru. Tybed be fydd dyfodol Guto Bebb a David Jones o weld 10% o'u pleidlais neu fwy yn llithro i UKIP?

Anonymous said...

O hyd pethe difyr i'w darllen - diolch .

Plaid Gwersyllt said...

Ddim dwy waith na fydd Janet Finch Saunders yn colli ar hollt yn y bleidlais gdwadol yn gadael y Blaid yn ol i mewn yn Aberconwy.

Cai Larsen said...

Ia, mae goblygiadau pell gyrhaeddol i'r Toriaid ar hyd arfordir Gogledd Cymru, yn Nhrefaldwyn a Brycheiniog a Maesyfed ac o bosibl ym Mhenfro.

Mae'n debygol y bydd yna bleidlais UKIP arwyddocaol mewn rhai ardaloedd dosbarth gweithiol hefyd. Llefydd fel Merthyr o bosibl. Nid ym Menllech a Moelfre wnaeth UKIP orau ym Mon ddydd Iau ond ym Morawelon, London Road, a Phorthyfelin.

Anonymous said...

Pam bod dwi yn gorfod dod i flog amaturaidd i gael dadansoddiad o etholiadau Ynys Mon a beth mae twf UKIP yn ei olygu i Gymru?

BoiCymraeg said...
This comment has been removed by the author.
BoiCymraeg said...

Oherwydd y ffordd mae D'Hondt yn gweithio, hyd yn oed pe bai UKIP yn dechrau ennill ACau ar y rhestr (bron a bod yn sicr, *os* yw lefel eu cefnogaeth yn dal i fyny erbyn 2016) byddai'r Dems Rhydd yn medru cadw eu seddi oni bai eu bod nhw'n dal i ennill 6-7% (dyma sy'n esbonio pam y wnaethon nhw gadw bron a bod eu seddi i gyd yn 2011 er i'w pleidlais gollwng o dua 30%). Byddai UKIP yn ennill eu seddi ar draul y pleidiau sy'n ennill 2 sedd ar y rhestr - y Toriaid gan fwyaf ar y foment; ond byddai'n anodd i'r blaid ennill 2 sedd ar restrau fel y maent wedi gwneud yn y gorffennol (ee De Cymru Canol a Gorllewin) pe bai UKIP a'r Dems Rhydd ill dau'n ennill tua 8% o'r bleidlais, hyd yn oed pe bai pleidlais y Blaid yn codi.

Anonymous said...

Plaid Gwersyllt - Cofia mae cydradd ail oedd PC tro dwetha efo Llafur (=26%).
Doedd UKIP ddim yn sefyll.

Ioan said...

Boi Cymraeg,

Ia, yn gyffredinol mae PC angen drost ddwbl % y LibDems a UKIP, mewn llefydd fel Dwyrain a chanol De Cymru er mwyn cael dwy sedd.

e.e.
Yn 2011 yn y De Ddwyrain
Llafur: +0 82699 46%
Conservative: +2 35459 20%
Plaid Cymru: +2 21850 12%
Liberal Dems: +0 10798 6%
UKIP: +0 9526 5%

Anhebygol iawn bydd PC yn ddwbl UKIP - os rhywbeth gwell cyfle curo'r Torriaid i'r ail safle.

Anonymous said...

(@ Anon. 1:32pm - os caf i fod yn bedantaidd ac er tegwch i Cai: Blog Amatur, nid Amaturaidd. Cytuno efo dy bwynt, serch hynny)

Cai Larsen said...

Os ydi fy syms brysiog i yn gywir - ac efallai nad ydynt - y bedwerydd sedd a gafodd y Lib Dems yn y De Orllewin a'r Gogledd a'r drydydd yn y Canolbarth a Canol De Cymru - ond roedd y rheiny yn dyn. Byddai gostyngiad cymharol fach yn eu canran yn ei gwneud yn anodd iddynt ennill sedd ranbarthol o gwbl.

Serch hynny dwi'n derbyn ei bod yn anodd rhagweld canlyniadau rhanbarthol am bod sawl newidyn ar waith.

BoiCymraeg said...

Ond cofia, pan gynhaliwyd etholiad cynulliad 2011 roedd y Dems rhydd eisioes wedi cwympo yn y polau i'r man lle maen nhw nawr - etholiad cyffredinol '15 fydd yr un i'w gwylio o ran cwymp yn eu pleidlais nhw.

Maen nhw wedi aros mwy neu lai yn yr un lle yn y polau ers 2011; wela i ddim pam y ddyliwn ni ddisgwyl iddynt gwneud yn waeth yn 2016 ag y gwnaethon nhw yn 2011.

Os fydd UKIP yn ennill seddi yn y cynulliad - ag o gael 8%+ o'r bleidlais, fe wnawn nhw - cymryd seddi rhestr oddi ar y Toriaid wnawn nhw. Ond, fel y dywedais, mi allen nhw ei wneud hi'n anodd iawn i Blaid Cymru ennill mwy nag un sedd ar bob restr chwaith. 5 plaid + rhestrau 4-aelod = mi fydd hi'n anhebyg iawn gweld unrhyw blaid yn cael mwy nag un sedd mewn unrhyw ranbarth penodol. Os yw Plaid Cymru eisiau gweld eu cynrychiolaeth yn cynyddu, mi fydd yn rhaid ennill etholaethau; yn fwy felly nag erioed o'r blaen.

Cai Larsen said...

Ti'n gywir bod perfformiad polio'r Lib Dems yn debyg yn 2011 i rwan - yn yr amrediad 8% i 15% yn y ddau achos tros Brydain (etholiadau San Steffan).

Ti'n gywir hefyd i awgrymu y bydd pob plaid yn cael trafferth i gael ail sedd restr os oes pedair plaid yn cystadlu amdanynt.

Mi fyddwn fodd bynnag yn ychwanegu bod y Lib Dems o fewn chydig o bwyntiau canranol i golli eu sedd ranbarthol ym mhob achos.

Bydd pethau yn agos am pob pedwaredd sedd.

Ioan said...

"...Mi fyddwn fodd bynnag yn ychwanegu bod y Lib Dems o fewn chydig o bwyntiau canranol i golli eu sedd ranbarthol ym mhob achos"

Heblaw am y De Ddwyrain lle mae nhw o fewn 1% i enill sedd oddiwrth PC.

Cai Larsen said...

Wel ia, does ganddyn nhw ddim sedd yno - ac mae'n debygol ar hyn o bryd y bydd UKIP o'u blaenau yn y rhanbarth yma.

BoiCymraeg said...

Methu peidio temilo taw'r sedd mae UKIP fwya debygol o'i gymryd yw, yn anffodus, sedd Lindsay Whittle.

Cai Larsen said...

http://en.wikipedia.org/wiki/Gombeen_man

Anonymous said...

Ydych chi angen benthyciad i ddechrau busnes neu glirio eich biliau?
Ydych chi eisiau i ddatrys eich problemau ariannol?
Rydym yn cynnig benthyciad gyda chyfradd llog bach yn 3%. Gwnewch gais nawr am fenthyciad heddiw .............
cysylltwch â ni yn ôl drwy e-bost:
swm ........................
wlad .........................
ffôn .............................
wellintonjoeloanfirm@outlook.com