Mae Leighton Andrews yn mynd mymryn yn rhy bell pan mae'n dweud nad ydi'r Eisteddfod, Cymdeithas yr Iaith, CBAC, Cynghorau Cymru, S4C, Prifysgol Cymru ac ati wedi addasu i ddatganoli, ond mae ganddo fo bwynt. Mae llawer o sefydliadau Cymreig yn ymddwyn - mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - fel petai'r ffurf ar ddemocratiaeth Gymreig sydd wedi tyfu ers blynyddoedd olaf y ganrif ddiwethaf erioed wedi digwydd. Efallai bod Cymdeithas yr Iaith mor euog o hyn a neb o hyn.
Ond am rhyw reswm anghofiodd Leighton son am y sefydliad Cymreig mwyaf ohonyn nhw i gyd - y Blaid Lafur Gymreig. Ni all arweinydd y blaid yma fynd trwy cymaint ag un sesiwn holi'r Prif Weinidog heb gyfeirio at San Steffan ac mae'n cael ei halian i Lundain i gael ffrae os ydi'n meiddio gwneud ei farn yn glir ynglyn a pha bwerau ychwanegol y dylid eu datganoli i Fae Caerdydd. Ar ben hynny mae'n ymddangos bod Llafur yn credu y dylai Cymru gael ei gor gynrychioli gan Aelodau Seneddol yn San Steffan i'r un graddau heddiw ag oedd yn cael ei gor gynrychioli bymtheg mlynedd yn ol.
Meddyliwch mewn difri - os ydych chi'n byw yng Nghaer rydych yn cael eich cynrychioli ar lefel seneddol gan Stephen Mosley. Os ydych yn byw ychydig filltiroedd i lawr yr A483 yn Wrecsam rydych yn cael eich cynrychioli gan Lesley Griffiths, Llyr Huws Gruffydd, Aled Roberts, Mark Isherwood, Antoinette Sandbach ac Ian Lucas. Cyn 1998 roedd gan y ddwy etholaeth un aelod seneddol yr un.

No comments:
Post a Comment