Tuesday, February 26, 2013

Sut i beidio cael eich lobio

Un o'r llawer o anfanteision o fod yn weinidog yn llywodraeth Cymru ydi'r ffaith eich bod yn cael eich lobio byth a hefyd gan rhywun neu'i gilydd.  Dydi cael eich lobio ddim yn brofiad braf, oni bai mai Darren Hill sy'n gwneud y lobio.  Beth bynnag, dwi'n crwydro, nid Darren Hill ydi gwrthrych y blogiad yma.  Lobio, a'r gweinidogion druan sy'n cael eu lobio ydi'r thema - pobl fel Leighton Andrews.



Does yna ddim byd gwaeth na chael eich lobio wrth y bwrdd brecwast.  Dydi eich meddwl chi ddim ar yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthych - mae o ar gwahanol broblemau'r diwrnod sydd o'ch  blaen - a dydach chi ond yn hanner effro beth bynnag. Mae'n ddigon posibl eich bod yn teimlo mymryn yn sal hefyd.

Y demtasiwn o dan yr amgylchiadau hyn ydi dweud "Iawn cariad" beth bynnag y syniad dw lali sy'n cael ei gwthio ger eich bron, er mwyn cael llonydd.  Mae hyn yn gamgymeriad anferthol wrth gwrs.  Oherwydd fy ngwendid ben bore, dwi wedi cael fy hun mewn pob math o sefyllfaoedd gwirion bost - ar ben ysgol y tu allan yn paentio ffenest ail lawr mewn storm, ar wyliau mewn carafan yn Skegness, yn gwylio rhyw blydi ddrama neu'i gilydd, yn siopa yn Cheshire Oaks ac ati.  Dwi'n fodlon dweud "Iawn" i unrhyw beth dan haul wrth fwrdd brecwast ben bore.  Yn wir, petai Nacw yn gofyn i mi daflu'r safonau iaith i mewn i'r sgip, mi fyddwn i'n debygol iawn o ddweud "Iawn cariad" a mynd ati i wneud hynny - pe gallwn.

Dwi'n siwr nad ydi Leighton yn cael ei lobio wrth y bwrdd brecwast, a dwi'n siwr petai hynny'n digwydd y byddai'n well boi na fi ac yn ymateb efo "Na" awdurdodol. Beth bynnag, rhag ofn bod Leighton - neu unrhyw un arall - yn cael trafferth hoffwn gynnig mymryn o gyngor iddo. Mae yna ddwy ffordd o osgoi lobio wrth y bwrdd brecwast - peidio bwyta brecwast, neu godi mor fuan fel nad oes yna neb eisiau codi yr un pryd a chi. Dwi bellach yn gwneud y ddau beth - jyst i fod yn saff.

11 comments:

Anonymous said...

Wel dyna daro un hoelen ar ei phen o leiaf.

Anonymous said...

Hei - pam bod llun Ann Beynon Cyfarwyddwraig BT Cymru yn y blog yma?

;-)

Anonymous said...

Eh? Ddim cyfarwyddwraig BT ydi honna. Gwraig Leighton Andrews ydi hi.

Anonymous said...

Erioed wedi eu gweld gyda'u gilydd yr un amser yn ol pob son

Anonymous said...

Un arall o'r genhedlaeth euraidd (Rhodri Billions, Meri Huws, Aled Eirug) ddefnyddiodd eu radicaliaeth myfyriol fel stepan bach handi i goridorau grym. Cashau nhw mwy na'r Toriaid.

Anonymous said...

Pa rym sydd gan Meri Huws ? . Dim ond grym prynu sylweddol ei chyflog, mae'n siwr.

Anonymous said...

you're truly a excellent webmaster. The site loading velocity is incredible. It kind of feels that you are doing any unique trick. Furthermore, The contents are masterpiece. you've done a fantastic process
on this topic!

Feel free to visit my web page :: zetaclear nail fungus relief
Also see my website - zetaclear nail fungus relief

Anonymous said...

First off I want to say great blog! I had a quick question that I'd like to ask if you do not mind. I was curious to know how you center yourself and clear your thoughts before writing. I've had trouble clearing my mind in getting my thoughts
out there. I truly do take pleasure in writing however it just
seems like the first 10 to 15 minutes are wasted simply just trying to figure out how to
begin. Any recommendations or hints? Kudos!



Also visit my web page :: phoenix house cleaning

Anonymous said...

May I just say what a relief to find somebody who really
understands what they're talking about on the internet. You definitely understand how to bring an issue to light and make it important. More people should read this and understand this side of the story. I was surprised that you are not more popular since you surely have the gift.

Here is my web-site housekeeper agencies

Anonymous said...

Saved as a favorite, I like your website!

my blog; provillus information

Anonymous said...

Hey! I'm at work surfing around your blog from my new iphone! Just wanted to say I love reading your blog and look forward to all your posts! Keep up the fantastic work!

my webpage; zetaclear reviews
My site > treatment for toenail fungus