Canran 2001 yn gyntaf, gostyngiad yn y grwp 65+ mewn cromfachau.
Diffwys a Maenofferen - 83.9%/79.3% (-9.6%)
Penrhyndeudraeth - 75.9%/72.3% (-7.9%)
Bowydd a Rhiw - 79.8%/78.2% (-2.5%)Diffwys a Maenofferen - 83.9%/79.3% (-9.6%)
Teigl - 80.9%/78.5% (-5.5%)
Trawsfynydd - 77.4%/73.1% (-13.4%)
Harlech - 58.9%\54.1% (-11.7%)
Llanbedr - 50.7%\50.8% (-6%)
Dyffryn Ardudwy - 48.5%\47.4% (6.4%)
Brithdir - 65.9%\63.2% (-5.7%)
Dolgellau - 67.8%\61.8% (-12.9%)
Llandderfel - 70.9%\67.1% (-12%)
Bala - 80.1%\78.5% (-3.3%)
Llanuwchllyn - 80.2%\79.2% (-3.8%)
Corris - 60.8%\55.8% (-7.8%)
Aberdyfi - 41.9%\42.6% (-3.4%)
Tywyn - 37.7%\35.8% (-1.3%)
Bryncrug - 58.4%/42.6% (-11.5%)
Llangelynin - 40.7%/35.9% (-7.9%)
Y Bermo - 36.8%/39.1% (-3.5%)
Y Bermo - 36.8%/39.1% (-3.5%)
- Fel yn Nwyfor ceir patrwm amlwg o ostyngiad sylweddol yng nghanran y grwp 65+, gyda'r cwymp yn fwy na'r un cyffredinol ym mhob achos ag eithrio Bryncrug.
- Fel yn Nwyfor does yna ddim tystiolaeth bod cwymp cyflym mewn ardaloedd lle ceir llai na 70% yn siarad y Gymraeg - ag eithrio ym Mryncrug eto.
- Er mai cymharol fychan (o gymharu a'r rhan fwyaf o Orllewin Cymru) ydi'r cwymp yn yr 8 ward mwyaf Cymreig yng Ngogledd y rhanbarth (Penrhyndeudraeth, Teigl, Bowydd a Rhiw, Bala, Llanuwchllyn, Llandderfel, Trawsfynydd a Diffwys/Maenofferen), does yna ddim un ward 80% ym Meirion bellach. Roedd 4 yn 2001.
- Nid oes yna unrhyw wardiau gwledig yng Nghymru sydd ag 80%+ yn siarad Cymraeg bellach. Roedd yna un yn 2001 (Llanuwchllyn).
- Mae patrwm Dwyfor ac Arfon lle ceir yr ardaloedd Cymreiciaf mewn wardiau trefol yn cael ei gynnal ym Meirion hefyd.
- Un ward 80%+ sydd yn etholaeth Meirion/Dwyfor bellach (Dwyrain Porthmadog).
- Cafwyd cynnydd mewn ward gymharol Seisnig (Aberdyfi, Abermaw a Llanbedr).
- Mae yna batrwm clir o arfordir Seisnig a pherfedd dir Cymreig ym Meirion. Dydi'r patrwm yma ddim mor glir yng ngweddill Gwynedd.
9 comments:
Cai o le ti'n cael yr ystadegau?
O'r fan hyn - http://www.ons.gov.uk/ons/interactive/census-map-2-2---wlanguage-e/index.html
Mae pethau'n llafurus braidd am dy fod yn gorfod edrych ar pob ward ar wahan, nabod y ward ( dydyn nhw ddim yn cael eu henwi) a sylweddoli bod wardiau etholiadol weithiau yn cael eu cyfuno, neu eu rhannu i bwrpas y cyfrifiad.
Mae Dolgellau wedi gostwng oherwydd y stadau newydd niferus sydd wedi'u hadeiladu yno yn ystod y ddegawd diwethaf a mewnlifiad o henoed i'r ardal
Gogledd Dolgellau 2001:
Ganwyd yng Nghymru - 816
Ganwyd yn Lloegr - 363
2011 -
Ganwyd yng Nghymru - 770
Ganwyd yn Lloegr - 388
De Dolgellau 2001:
Ganwyd yng Nghymru - 1111
Ganwyd yn Lloegr - 331
2011:
Ganwyd yng Nghymru - 1023
Ganwyd yn Lloegr - 411
Ydy dy ganran + / - ar gyfer Llanbedr yn gywir?
Rwy'n methu gweld Y Bermo yma.
Y Bermo i'w weld rwan.
Llanbedr yn gywir dwi'n meddwl.
Diolch am yr holl waith dadansoddi Cai, mae'n ddiddorol iawn. Ond onid y casgliad cyffredinol ydi, ar wahan i Arfon (heb Fangor), mae'r Gymraeg yn wynebu her anferth yng ngweddill Gwynedd hefyd? Fedra i ddim gweld fawr ddim i ddathlu o Lŷn na Meirion yn yr ystadegau, ond digon o le i boeni.
Yn bersonol, dw i'n pryderu ychydig yn fwy na chdi am y ffigurau 65+ oed - mae 'na lwmp da o hwn yn deillio o fewnfudo wrth gwrs, ond mae hefyd yn cynrychioli marw'r to hŷn. Iawn, mae hynny i'w ddisgwyl, ond yn aml dyma'r genhedlaeth sydd fwyaf actif mewn cymdeithas ac yn cynnal digwyddiadau ac ati - fel yr Eisteddfodau lleol - ac mae eu colled a'u cyfnewid am Saeson yn golled ieithyddol gymunedol bendant.
Yn fwy na hynny, dybiwn i mai siaradwyr Cymraeg 65+ oed sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio Cymraeg, yn arbennig ymhlith ei gilydd. Hebddynt mae'r Gymraeg i'w chlywed llai yn nifer o'n cymunedau - ac wrth gwrs dyna'r peth pwysig yn y pen draw.
Yn 1991 pobl yn yr oedran 40-49 oedd y lleia tebygol o fod yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd, Ynys Mon a Cheredigion. Yn 2001 50-59 oed ac erbyn 2011, 60-64 oed oedd y lleia tebygol. Fellu, hyd yn oed heb ddim mewnfudo, mi fasa'r ganran 65+ wedi disgyn yn 2011. Fydd o ddim cweit mor wael yn 2021, achos pobl tua 70-74 oed fydd y lleia tebygol o siarad Cymraeg.
Mi allwn ni ddisgwl i'r ganran 65+ ddisgyn am yr ugain mlynedd nesa yn y dair sir hon, a does na ddim lot allwch chi wneud am y peth.
Sir Gaerfyrddin, Abertawe a NPT yn fater gwahanol - mae nhw 20 mlynedd ar ei hol hi.
Post a Comment