Sunday, February 10, 2013

Treganna

Ymddiheuriadau i'r sawl sydd ddim yn gyfarwydd a Chaerdydd yn gyffredinol a Threganna yn arbennig - edrychwch i ffwrdd.

Caerdydd ydi un o'r ychydig awdurdodau yng Nghymru i weld cynnydd yn y ganran o bobl sy'n siarad y Gymraeg.  Er i nifer o wardiau ddangos cynnydd - yn arbennig felly yng Ngorllewin a Gogledd y ddinas, Treganna neu Canton wnaeth orau mae'n debyg. Roedd ffigyrau Creigiau, yr Eglwys Newydd, Pentyrch a Llandaf hefyd yn eithaf uchel.

Dwi'n gyfarwydd iawn a'r rhan yma o'r ddinas, ac wedi bod yn ymwelydd cyson ers bron i dri deg pump o flynyddoedd.  Mae yna lawer iawn mwy o Gymraeg i'w glywed yn yr ardal rwan nag oedd 'na bryd hynny.  Gan ei bod yn bosibl cael data am ardaloedd gweddol fach o Gaerdydd, dyma fanylion ardal Treganna.

Fel roeddwn yn ei ddweud, os nad ydych yn 'nabod yr ardal, peidiwch a thrafferthu darllen ymlaen.


035A Parc Victoria i Pencisely Rd yn y Gogledd a Fairfield Rd yn y Gorllewin 25.5%.
035D o Parc Victoria i waelod Clive Rd yn y Dwyrain - gan gynnwys Egerton St ac Ethel St 20.8%
035B Gogledd Clive Rd, Gorll Pembroke Rd, 22.2%
040D Dwyrain Pembroke Rd, Rectory Rd, Market Rd 21.1%
034B Severn Rd, Llanfair Rd, Severn Grove, De Conwy Rd 19%
034A Pontcanna / Dogo St 19.4%
034C King's Rd / Springfield Place 19.7%
034D ardal o droed Cathedral Rd i droed Cowbridge Rd East 22.2%
040E Atlas Rd / Denton Rd 19.1%
040B Pen y Peel Rd i Landsdowne Rd 19.7%
035C Rhan uchaf Orchard St i Cowbridge Rd East 18.2%
026C Yr ardal lle mae Western Avenue a Cardiff Rd yn croesi 20.3%

5 comments:

Anonymous said...

Beth am ddadansoddi ffigyrau Ynys Mon?

Yn bwysicach na Threganna siawns?

menaiblog said...

O bosibl - dwi'n tueddu i fynd ar ol y llefydd dwi'n nabod orau.

Mae patrymau Mon yn eithaf diddorol, ac mi dria i wneud rhywbeth maes o law - ond bydd rhaid i ti ddisgwyl am rhyw wythnos mae gen i ofn.

Simon Brooks said...

Hynod ddifyr. Llai o amrywiadau oddi mewn i Dreganna ei hun nag o'n i di rhagweld. Neis gweld Vic Pk ar y brig er hynny!

menaiblog said...

Mi gei di ganran uwch yn yr ardal o Keleston Rd i Church Rd yn yr Eglwys Newydd

Anonymous said...

Cai- mae nifer o Gymry Cymraeg dosbarth canol (hefyd gweithiol)sydd wedi cael yr iaith ar blat yn hoff o heidio i Gaerdydd.
Does gen i ddim problem efo hyn per se.
Ond mi fetiaf fod gormod o jobsus da cyhoeddus, deallol, Cymraeg sy'n talu'n dda wedi eu lleoli yng Nghaerdydd.
Sut ddiawl mae hyn yn deg i Gymru gyfan?
Does gan brifddinas Cymru sydd reit yn y de ddim hawl denu gormod o swyddi da cyhoeddus.
S4C am symud swyddi da o Gaerdydd i lefydd eraill? Cynta'n byd, gorau'n byd!
Martin Williams