Saturday, February 23, 2013

I ble'r aeth Saeson Caernarfon?

Reit, gair bach o rybudd cyn dechrau hon - dydi'r ymarferiad bach isod ddim yn wyddonol o bell ffordd, a dydw i heb redeg y ffigyrau trwy daenlen - dwi wedi cyfrifo'r ffigyrau 'ganwyd y tu allan i'r DU yn fy mhen' - felly efallai bod man gymgymeriadau.

Cwestiwn yn nhudalen sylwadau'r blogiad diwethaf gan William Dolben ynglyn ag o lle mae'r sawl sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru yn Nwyrain Caerfyrddin / Gorllewin Castell Nedd yn dod wnaeth i mi feddwl.  Cefais gip ar bedair ward a chymharu'r rheiny efo ffigyrau 2001. Ym mhob achos y ffigwr cyntaf ydi'r nifer a anwyd yn Lloegr, yr ail ydi'r nifer a anwyd yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, y trydydd ydi'r nifer a anwyd yng Nghymru a'r pedwerydd ydi'r nifer a anwyd y tu allan i'r DU.  Wele'r canlyniadau:

Chwarter Bach - 2001 - 435/12/2434/123.   2011 - 540/14/2304/196
Gwaen-cau-gurwen - 2001 - 348/13/2415/67.   2011 - 498/13/2320/195
Rhydaman - 2001 - 251/14/2347/89.   2011 - 332/23/2202/285
Ystradgynlais - 2001 - 233/27/2258/64.  2011 - 289/27/2168/178

Mae'r patrwm yn gyson iawn yma - rhywfaint yn llai o bobl a anwyd yng Nghymru, cynnydd yn y nifer a anwyd yn Lloegr a chynnydd mwy (mewn tri o'r pedwar achos) yn y nifer a anwyd y tu hwnt i'r DU.  Mae'n rhaid nodi fodd bynnag bod y canrannau a anwyd yng Nghymru yn uchel o gymharu a chymunedau mwy gwledig yn y Gorllewin.

Wedi gwneud hyn penderfynais ddod adref ac edrych ar Gaernarfon.  Ceir pedair ward yn y dref:

Menai - 2001 - 278/15/1806/84.  2011 - 281/10/1818/283
Seiont - 2001 - 364/12/2599/77.  2011 - 279/12/2585/434
Peblig - 2001 - 231/11/2043/16.  2011 - 195/6/2062/175
Cadnant - 2011 - 262/18/1823/120.  2011 - 210/12/1787/147

Mae'r patrwm yma yn syfrdanol yng nghyd destun yr hyn sy'n digwydd i'r iaith y tu allan i'r Gogledd Orllewin.  Y peth cyntaf i'w nodi ydi bod cwymp sylweddol wedi bod yn y niferoedd a anwyd yn Lloegr yn ardaloedd dosbarth gweithiol y dref.  Cafwyd cynnydd mawr iawn hefyd (ond disgwyledig) yn y nifer a anwyd y tu allan i'r DU, tra bod  nifer y sawl a anwyd yng Nghymru yn gyson.  Mae yna fwy o bobl yng Nghaernarfon wedi eu geni y tu allan o'r DU nag a anwyd yn Lloegr. Tros y dref i gyd syrthiodd y ganran sy'n siarad y Gymraeg 0.5%.  Roedd y cwymp hwnnw i gyd - y cwbl ohono - yn un rhan bach o'r dref - y canol lle cafwyd y rhan fwyaf o'r mewnfudiad o Ddwyrain Ewrop.  Yn wir gallwn ddweud gyda chryn dipyn o hyder   y byddai'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn 2011 wedi cynyddu yn sylweddol yng Nghaernarfon oni bai am y mewnfudo o Ddwyrain Ewrop.

Edrychais wedyn ar bedair ward wledig yn Nwyfor, dwy lle cafwyd cynnydd yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg (Abererch a Chlynnog), a dwy a welodd gwymp.

Clynnog - 2001 - 279/7/563/24.  2011 - 293/4/689/21
Abererch - 2001- 321/17/1068/60. 2011 - 265/6/1055/80
Aberdaron -  2001 - 273/4/730/6. 2011 - 272/7/668/46
Botwnnog - 2001 - 263/3/678/27. 2011 - 245/3/728/54

Diweddariad 28/2/2013 - mae yna anghysondeb rhwng y ffigyrau dwi yn eu defnyddio am bobl sydd wedi eu geni mewn gwledydd y tu hwnt i'r DU a ffigyrau eraill dwi wedi edrych arnynt yn ddiweddar.  Mi wna i bwt ar y peth maes o law.

Does yna ddim patrwm cyson yma.  Mae'n amlwg mai symudiadau poblogaeth oddi mewn i Wynedd sy'n gyrru'r cynnydd yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yng Nghlynnog, ac mai cwymp yn y sawl a anwyd yn Lloegr sydd yn gyrru'r gwelliant ieithyddol yn Abererch.  Diboblogi ymysg Cymry ydi nodwedd Aberdaron ac mae Botwnnog yn gweld cwymp yn y nifer o Saeson a chynnydd ymysg y Cymry.  Mae hynny yn achosi ychydig i benbeth i mi, oherwydd i Botwnnog weld lleihad o 1.5% yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg.  Ceir cynnydd yn y niferoedd o Ddwyrain Ewrop - ond cynnydd bach ydi hwnnw wrth ymyl yr un yng Nghaernarfon.  Efallai y dyliwn nodi cyn gorffen mai mewn pentrefi agos at Bwllheli (lle mae'r iaith yn gwneud yn eithaf da) ydi'r rhan fwyaf o drigolion ward Abererch, ac mae dylanwad Caernarfon yn gryfach ar Glynnog nag ydyw ar unrhyw ran arall o Ddwyfor.

* Ffigyrau  oll o neighbourhood Statistics.



5 comments:

Anonymous said...

O wrando ar sgysiau'r trigolion ar y ffordd i'r gwaith, byddwn i'n dweud mai ryw 5 o dai / busnesau gwely a brecwast yn Stryd y Jêl yw "English Quarter" Caernarfon.

Difyr fod y Saeson i gyd yn dal i fyw o fewn waliau'r dre.

Simon Brooks said...

Dylai fod gennym ymgyrch i gymreigio mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop/isgyfandir India. Dydi'r Saesneg ddim yn famiaith iddynt, felly pam mai Saesneg yn hytrach na Chymraeg maen nhw'n ei siarad gan amla yng Nghymru?

menaiblog said...

Am eu bod nhw'n gweld y Saesneg fl lingua franca rhyngwladol debyg.

Dydi mewnlifiad o'r tu allan i'r DU ddim yn anarferol (er bod graddfa'r mewnlifiad diweddar yn fwy wrth gwrs) Daeth Eidalwyr yn y 30au, Pwyliaid yn y 40au, Gwyddelod yn y 50au a 60au, pobl o is gyfandir India yn y 70au ac 80au.

Saesneg oedd iaith y genhedlaeth gyntaf pob tro. Fedra i ddim meddwl am lawer o bobl ail genhedlaeth sy'n dal i fyw yn lleol sydd methu siarad y Gymraeg, a fedra i ddim meddwl a fedra i ddim meddwl am neb o'r drydydd genhedlaeth.

William Dolben said...

Diddorol iawn. Diolch am dy waith dadansoddi MB

Parthed Cwm Aman Gwelaf yn fras fod
1. Cyfanswm y boblogaeth yn eithaf sefydlog
2. 5% o'r Cymry yn symud allan neu farw am eu bod yn hyn ar gyfartaledd
3. 5% o Saeson a phobl o Ddwyrain Ewrop yn symud i mewn
4. Goblygiad hyn ydi gogwydd o 10% yn erbyn y Gymraeg mewn 10 mlynedd.

Y cam nesaf fyddai dadansoddi oedrannau i gadarnhau mai oedolion ifainc 20-40 oed sy'n symud i mewn

Ambell ei gwestiwn yn codi ynglyn a hyn.

1. Ydi plant Cymraeg yn mudo o'r fro yn fwy na'r rhai di-Gymraeg am nad oes cyflion ar eu cyfer? I lawr i Abertawe, Caerdydd a thu hwnt i Loegr
2. Pa waith mae'r mewnfudwyr yn ei gyflawni mewn ardal mor ddirwasgedig? Nid ydynt yn y gyfundrefn addysg rwy'n siwr!

Mae rhai wedi sôn am adleoli S4C a sefydliadau felly i'r fro Gymraeg. Hwyrach y gobaith olaf yn Ne-ddwyrain Sir Gâr fyddai penderfyniad o'r fath. Ni fyddai Rhydaman neu Lanelli at ddant llawer o'r cyfryngis ond pa ddyfodol sydd i'r iaith os collir yr ardal hon?

menaiblog said...

Dwi ddim yn meddwl bod y data ar gael i wneud astudiaeth oedran manwl ar hyn o bryd - neu i fod yn gywirach mae ar gael ond mae'n uffernol o anodd tynnu pethau at ei gilydd.

Cofia mai deuddeg ward yn unig dwi wedi edrych arnynt - mae hynny'n pwyntio i gyfeiriad pendant, ond mae'n berygl cyffredinoli gormod o ymarferiad mor gyfyng.