Tuesday, February 19, 2013

Y Cyfrifiad - tair stori wahanol i dri rhan o Gymru

Hwyrach eich bod yn cofio i mi nodi mewn blogiad diweddar ynglyn a'r Cyfrifiad  bod rhai o'r cymunedau a welodd gynnydd bychan yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yn Arfon hefyd wedi gweld gostyngiad yn y nifer o bobl sydd wedi eu geni y tu allan i Gymru.  Cymrodd ambell un hynny fel awgrym mai mewnlifiad ydi'r rheswm dros ostyngiad yn y canrannau sy'n siarad y Gymraeg.  Yn ddi amau mae gwirionedd yn y canfyddiad hwnnw - ond un peth mae craffu ar y ffigyrau cyfrifiad wedi ei ddangos i mi ydi bod y darlun ar hyd Cymru yn gymhleth - a'i bod yn anodd dod i gasgliadau cyffredinol.

Cymerer yr wybodaeth isod dwi wedi ei roi at ei gilydd er enghraifft.  Dwi wedi dewis chwe ward mewn tri rhan gwahanol o Gymru - Gogledd Mon, Gorllewin Gwynedd a Dwyrain a De Caerfyrddin / Gorllewin Castell Nedd.  Mae'r ardaloedd yma oddi mewn i'r Gymru Gymraeg draddodiadol, a hyd rhyw ugain mlynedd yn ol roeddynt oll yn gymunedau Cymreig iawn.  Dwi wedi dewis y wardiau fwy neu lai yn fympwyol.

Dwy elfen yr ydym yn eu hystyried  - y canrannau sydd wedi eu geni yng Nghymru a'r canrannau sy'n siarad y Gymraeg.  Mae'r patrymau yn wahanol iawn.  Yng Ngogledd Mon mae'r canrannau sy'n siarad y Gymraeg a faint sydd wedi eu geni yng Nghymru yn weddol agos at ei gilydd, ond gyda chanran uwch wedi eu geni yng Nghymru na sy'n siarad yr iaith mewn pedair cymuned.

Yng Ngorllewin Gwynedd mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn  uwch pob tro nag ydi'r ganran o bobl sydd wedi eu geni yng Nghymru.  Mae'r patrwm yn Nwyrain Caerfyrddin a De Caerfyrddin / Castell Nedd yn gwbl wahanol.  Mae'r canrannau a anwyd yng Nghymru yn sylweddol uwch na'r nifer sy'n siarad y Gymraeg.  Mewn rhai llefydd - Rhydaman er enghraifft - mae'r gwahaniaeth yn syfrdanol.  

Rwan mae sawl casgliad y gellir ei gymryd o hyn.  Mae'n ymddangos bod trosglwyddiad iaith o un genhedlaeth i'r llall yn effeithiol yng Ngogledd Mon, yn rhyfeddol effeithiol yng Ngorllewin Gwynedd, ond yn wan yn wardiau Caerfyrddin / Castell Nedd.  Mae'n debyg bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu colli oherwydd allfudo yn y Gogledd Orllewin - ond dydi'r mewnlifiad ddim yn arwain at golli siaradwyr.  Mae'n dod a'r canrannau i lawr wrth gwrs - ond mae'r sawl a anwyd yng Nghymru yn cadw eu Cymraeg.

Does yna ddim llawer o fewnfudo i Ddwyrain a De Caerfyrddin / Castell Nedd (o gymharu a Gogledd Mon a Gorllewin Gwynedd), ond mae yna lawer mwy o ddirywiad ieithyddol.  Mae'r mewnlifiad yn gwanhau'r iaith yn y Gogledd Orllewin, ond dydi o ddim yn gwneud yn agos cymaint o niwed a phenderfyniad torfol cymunedau Dwyrain a De Caerfyrddin / Castell Nedd i beidio a throsglwyddo'r iaith i'w plant.  Y caswir ydi bod yr iaith yn marw yn rhannau o Sir Gaerfyrddin a Chastell Nedd oherwydd bod carfanau sylweddol o bobl sy'n byw yn y llefydd hynny yn ewyllysio i hynny ddigwydd.  Neu o leiaf dydi'r iaith ddim digon pwysig i bobl y cymunedau hynny i'w cymell i'w throsglwyddo i'w plant.


24 comments:

William Dolben said...

Diddorol iawn. Mae dirywiad yr iaith yng nghwm Aman / Tawe / Gwendraeth yn destun pryder ers tro a'r duedd bellach yw rhoi'r bai ar rieni sy'n magu eu plant yn Saeson.

Ond.. onid yw'n anhygoel fod dros 20% o drigolion yr ardaloedd bellach wedi'u geni tu allan i Gymru? Mae'n debyg fod tai'n rhad ond pwy yw pobl y mewnfudiad diweddar hwn? Nid yw'r ardal yn ddeniadol iawn (glo brig a bellu) a rwy'n amau fod prinder gwaith dybryd

Cytunaf hefo Dewi Prysor fod ystadega'r cyfrifiad yn gamarweiniol. Mae canran y Cymry cynhenid yn yr ysgolion yn ffynhonnell well o bell ffordd

Bûm yn pori ar wefan Estyn a deuthum o hyd i adroddiad Ysgol Cwmllynfell ym 2012. 67% o'r plant yn Gymry cynhenid, cynnydd o dim ond 40% ym 2006 a chynydd o 76 i 110 o blant! Gwych ynde a thebyg i ysgol yn Arfon! Gwaeth'ar modd dim ond 37% oedd yn Gymry ym Mrynaman (Cwarter Bach) ym 2009. Wedyn mae adroddiad Cwmtwrch yn nodi: "Daw bron pob un o’r dysgwyr o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith". Darlun cymysg ar y naw!

Mi fuasai'n dda clywed gan rhywun o'r ardal!

Efrogwr said...

Hoffwn wybod rhagor am pam fod rhieni Cymraeg yn methu â dysgu'r iaith i'w plant. Fy nhyb fyddai na welir gwerth yr iaith oherwydd ei bod hi'n ymylol yn economaidd ac oherwydd nad ydy hi'n iaith ag iddi digon o ddiwylliant torfol poblogaidd teniadol. Onid dyma pam nad ydy plant sy'n medru'r iaith hefyd yn eu tro yn methu a'i siarad? Rhan o'r her yw newid y ddau wendid yma.

Anonymous said...

Beth am i gymdeithas yr iaith orymdeithio drwy stadau dosbarth gweithiol Cwm Gwendraeth a Rhydaman dan floeddio " Beth i ni moin ? "
" Chi i siarad Cymraeg !!". Dwi'n siwr y buasai'r werin yn rhoi croeso mawr iddynt, ac yn syrthio ar eu bai yn syth.

Hogyn o Rachub said...

Dw i’n siŵr imi sôn am y ddamcaniaeth hon yn rhywle ond dw i am ailadrodd yma, gan ei fod yn berthnasol dw i’n meddwl.

Tan yn ddiweddar iawn roedd llawer iawn o bobl yn yr ardaloedd Cymraeg (a Chymry Cymraeg yn gyffredinol) yn arddel y farn bod Cymry’n siarad Cymraeg ac mai Saeson oedd yn siarad Saesneg. Doedd hynny ddim i ddweud bod y Cymry di-Gymraeg yn Saeson, ond yn bendant iawn roedd siaradwyr y Gymraeg yn Gymry. Pe gofynnai rhywun “Ydi o’n Gymro?” y cwestiwn mewn difri oedd “Ydy o’n siarad Cymraeg?".

Hynny yw, roedd y Gymraeg yn rhan annatod, ddi-wahân o Gymreictod y Cymry Cymraeg. I fod yn Gymro, roedd yn rhaid ar Gymraeg.

Rŵan, mae’r agwedd honno’n parhau yn y gogledd-orllewin i raddau helaeth (lle mae’r Gymraeg gryfaf er gwaethaf y mewnlifiad) - ac mae hynny’n ddealladwy gyda llaw, y duedd yno ydi bod y Cymry’n siarad Cymraeg a’r Saeson yn siarad Saesneg.

Nid dim ond y Cymry Cymraeg a arddelai hyn gyda llaw. Tan yn ddiweddar cyfeiriai nifer o Gymry di-Gymraeg at y Cymry Cymraeg fel "Proper Welsh". Prin iawn iawn y clywch chi hynny erbyn hyn.

Ond mae hyn wedi newid yn raddol, efallai ers datganoli - dydi’r iaith a Chymreictod ddim yn bethau sy’n annatod i’w gilydd. Ydi, mae o i mi a fwy na thebyg nifer sy’n darllen y blog hwn, ond dydi o ddim i bawb. A thybed, os gwywo mae’r agwedd honno yn y de-orllewin – sef Cymry sy’n siarad Cymraeg – a ddaeth yn llai pwysig ymfalchïo yn y Gymraeg, ac yna ei throsglwyddo a’i siarad?

Yn hytrach na “dw i ddim isho magu Sais” mae pobl yn meddwl “bydd fy mhlant i’n Gymry beth bynnag – a mi ddysgan nhw Gymraeg yn yr ysgol eniwe”.

Rhyw elfen ar y Gymru gynhwysol newydd a grewyd ydi marw’r agwedd hon, ein bod yn Gymry waeth pa iaith a siaradwn. Ond yr hyn y mae hynny wedi’i wneud – yr hyn y mae pontio’r bwlch ieithyddol rhwng y di-Gymraeg a’r Cymry Cymraeg wedi’i wneud efallai – ydi gwahanu'r iaith rhag Cymreictod.

Dydw i ddim yn dadlau o blaid nac yn erbyn yr agwedd hon fel mae’n digwydd, ond mi alla i weld sut y gallai ei datgymalu fod wedi niweidio’r iaith yn ei chadarnleoedd, a chadarleoedd go iawn hefyd. Pwy feddyliasai ugain mlynedd yn ôl y byddai gan Rydaman leiafrif Cymraeg heddiw?

William Dolben said...

Mae'n ddrwg gennyf am iwsio yr hen dermau ond maent yn sowndio'n fwy naturiol i mi rywsut. Credaf fod pobl y Rhondda gystal Cymry a rhai Bethesda er eu bod yn siarad Saesneg erbyn hyn. Roedd pobl yn pechu yn erbyn fy nhad ers talwm gan ei alw'n Sais am nad oedd o'n medru'r iaith a dylwn i o bawb fod yn fwy sensitif i hyn

Efallai fod y Gymraeg ar ei chryfaf yn y Gogledd-Orllewin o achos y mewnlifiad...

Hoffwn hefyd sylw at Gaergybi, Bangor, Dinbych ac yn y blaen lle mae'r diffyg trosglwyddiad llawn cyn weithed â phentrefi diwydiannol Sir Gâr. Waeth i ni heb frïo y Gogledd-Orllewin a difrïo'r De-Orllewin. Mae yna drawstiau yn llygad y Gogledd-Orllewin hefyd. Hawdd siarad am y dosbarth gweithiol a'r werin ond pam bod Caernarfon mor Gymraeg a Bangor mor Saesneg (wps...Saesneg ei iaith dwi'n feddwl!)

Dal i aros am i rywun egluro i mi pwy ydi'r 20-23% o fewnfudwyr yng Nghwm Aman a Chwm Gwendraeth!!!! A fydd y mewnfudwyr yn sbarduno newid agwedd ymhlith y Cymry lleol? Jyst gofyn....


Anonymous said...

Dwi wedi clywed (yma ym Mon), rhywun yn son am ei Wyr oedd yn dysgu Cymraeg, ac yn dweud "'dio ddim yn Gymro eto".

HOR - Cytuno pob gair. Pan fydd di-gymraeg Gwynedd/Mon yn cysidro'i hunain yn Gymru mi fydd hi'n nesu at 'gem drosodd'.

Nodyn ola, mae 'na lot o bobl ym Mon wedi ei genni yma, ond yn cysidro eu hunain yn Saeson (eu Mam a'u Tad o Loegr). I gymlethu pethau fwy byth, tydi nhw ddim o angenrhaid yn wrth-gymreig..!

Anonymous said...

The following things as precautions should always be kept in mind while using
these devices:. During this moment, the THC and the other active cannabinoids comes out with very little or even no noxious gases and carcinogenic
tars which are usually created with smoke. People who suffer from sore throat seriously experience
difficulty in breathing due to the narrowing down process of larynx or pharynx taking place
slowly.

my blog post :: vaporizer

Hogyn o Rachub said...

Will,

Roedd pobl yn arfer fy ngalw i'n Sais 'stalwm achos mai Saesnes ydi Mam!

Dydw i ddim yn dweud fy mod i o reidrwydd yn cytuno efo "Cymro = siarad Cymraeg" ond dweud ydw i fod yr agwedd honno efallai wedi cynnal yr iaith i raddau o leiaf. Ac os ti'n meddwl fy mod i'n difrïo'r de-orllewin gyda'r sylw uchod yna nid wyt yn deall y sylw.

Cofier hefyd fod maes glo'r de wedi'i Seisnigeiddio i raddau helaeth yn ieithyddol oherwydd mewnlifiad di-Gymraeg, er bod hynny 'stalwm erbyn hyn. Dydi mewnlifiad di-Gymraeg byth yn fodd i gynnal y Gymraeg.

Swni hefyd yn dweud, yn fy mhrofiad i (a chroeso i unrhyw un ddweud fel arall) un gwahaniaeth mawr rhwng pobl ym Mangor a Chaergybi o'u cymharu â phobl gweddill Môn a Gwynedd fwyaf ydi dydi 'Cymreictod' ddim wedi bod yn beth pwysig iawn ymhlith nifer fawr o drigolion y llefydd hynny ers amser maith (nid pawb wrth gwrs dwi ddim eisiau gorgyffredinoli). Wrth gwrs, ym Mangor mae'r brifysgol wedi hefyd chwarae rhan fawr yn Seisnigeiddio'r ddinas.

William Dolben said...

Diolch hogyn o Rachub:

Doedd yna ddim beirniadaeth o'r De Orllewin yn eich geiriau ond rwy'n teimlo fod rhai Gogs yn credu eu bod wedi bod yn drywach i'r iaith na'r Hwntws. Ganrif yn ôl pan oedd Gwynedd yn uniaith Gymraeg i bob pwrpas oedd pobl Cwmtawe a Chwm Afan yn ddwyieithog yn barod a chan mlynedd yn hwyrach does dim rhyfedd fod Gwynedd yn dal yn fwy Cymraeg. Mae'n debyg iawn yn achos y Wydddeleg, rhaid edrych ar ganran y Gwyddyl uniaith ym 1851 neu 1891 yn hytrach na faint oedd yn siarad Gwyddeleg a Saesneg yr adeg honno.

Parthed mewnfudo, rwy'n cytuno ei fod o wedi newid iaith llawer o gymunedau yn ddios a wedi bod yn ffactor negyddol ar y cyfan. Beth oeddwn i'n treio rhoi ymlaen fel syniad oedd fod y mewnlifiad yn medru cryfhau y teimlad o Gymreictod a'r ewyllys i gadw'r iaith. A oes yna beth gwir yn hynny? A fuasai Pobl Llyn ac Arfon mor selog dros yr iaith petai'r mewnlifiad heb ddigwydd?

Hogyn o Rachub said...

Anodd dweud, ond mae'n gwestiwn diddorol Will - a dw i'm yn meddwl ei fod yn ddi-sail ychwaith. Dw i'n siŵr bod 'na amryw resymau sy'n cydblethu a bod yr holl sefyllfa'n gymhleth ofnadwy ond maen nhw'n bethau y mae'n rhaid inni eu hystyried a hynny ar fyrder.

Mae'n haeddu traethawd yn fwy na sylwadau ar flog!

Gall lefel y mewnlifiad ddylanwadu yn fawr dybiwn i ar agweddau Cymry Cymraeg. Efallai dy fod yn iawn i awgrymu bod diffyg mewnlifiad yn gwneud pobl yn fwy cyfforddus o lawer. Ac wrth gwrs os oes gormod o mewnlifiad - wel, wele Ceredigion (neu lot o'r hen Glwyd).

Gan hynny dylanwada lefel y mewnlifiad ar agweddau Saeson hefyd buaswn i'n meddwl - ymddengys fod rhyw 'drothwy' o ran faint o Saesnon sy'n byw mewn cymuned a'u parodrwydd i gymathu (sef dysgu o leiaf rywfaint o Gymraeg).

Efallai fod 'na wleidyddiaeth ynghlwm wrth y peth hefyd - mae cenedlaetholdeb torfol (y mae'r iaith yn gwbl, gwbl annatod iddo) ond wir wedi cydio yng Ngwynedd, ddim hyd yn oed y gogledd-orllewin - jyst Gwynedd. Tybed a ydi hynny'n ffactor?

Ta waeth, buaswn i'n dweud hyn - rhaid inni drafod yn gall bopeth sy'n effeithio ar hen gadarnleoedd yr iaith a gwneud hynny ar fyrder hefyd os ydyn ni am sicrhau y bydd y cymunedau Cymraeg yn dal eu tir yn 2021 ... dw i'n rhyw amau eisoes nad dyma fydd yr achos yn Sir Gâr, er bod mwy o obaith yng Ngheredigion.

William Dolben said...

ie wir, mae'n gofyn doethuraieth!

Mae'r mewnlifiad yn waeth mae'n debyg na'r ystadegau. Mewn ambell ardal yn Ne Gwynedd mae 60-65% wedi'u geni yn Lloegr a os wyt yn adio plant i Saeson sydd wedi cael eu magu'n lleol ond sydd yn cyfri eu hunain yn Saeson faint o Gymry sydd? Dwi'n deud plant ond rhaid cyfri'r wyrion a gor-wyrion bellach mewn llefydd fel y Bermo a Thywyn

Hawdd digalonni wrth weld y ffigyrau yn Sir Gâr ond sbïa ar ysgol Cwmllynfell....

pam dy fod yn gweld llygedyn o obaith yng Ngheredigion?

menaiblog said...

Dadl ddiddorol bois. Mi fyddwn i yn rhoi pethau ychydig yn wahanol. Yn y De mae yna fodel amgen o Gymreicdod, yn y Gogledd Orllewin does yna ddim.

Mi fyddwn i hefyd yn ychwanegu bod Gogleddwyr yn dod i fwy o gysylltiad efo Saeson 'go iawn' nag ydi pobl yn y rhan fwyaf o'r De. Mae yna fwy ohonyn nhw yn byw yma, a rydan ni'n croesi'r ffin yn amlach.

O ran Caergybi a Bangor, mae'n wir i'r rheiny Seisnigeiddio i'r un graddau a'r De. Mae yna draddodiad yng Nghaergybi i bobl weld eu hunain yn wahanol i Ynys Mon. Mae cefndir Gwyddelig llawer o'r trigolion wedi atgyfnerthu hyn. Mae Bangor ar arfordir y Gogledd, ac mae pob dim i'r Dwyrain o'r ddinas ar yr arfordir wedi Seisnigeiddio - ac mae pobl Bangor yn tueddu i weld eu hunain yn wahanol i Wynedd ac Ynys Mon.

Gyda llaw, os awn ni'n ol tua hanner canrif mae'r canrannau sy'n siarad yr iaith yng Nghaerfnarfon a Bangor yn debyg - ond roedd pobl C/narfon yn gweld pobl Bangor yn 'Seisnig' bryd hynny.

Anonymous said...

Mae'r holl offer cyfieithu yn y llun o gynulleidfa cyfarfod cyhoeddus Llais Gwynedd yn y C&D Herald yr wythnos hon yn awgrymu y byddai gosod melin wynt ym mhob pentref ym Mhen Llŷn yn achub yr iaith Gymraeg yn Nwyfor dros nos.

Melin gwynt = dim mewnfudwyr + trydan rhad i bobl leol ;-)

menaiblog said...

Mae'n wir bod y Gymraeg yn tueddu i wneud yn well mewn ardaloedd sydd ddim yn atyniadol o safbwynt gweledol.

Anonymous said...

Diawch dwi'n edrych mlaen i'r melinau gwynt yma yn Maldwyn felly; falle fydd y lle ma ddim mor ddeniadol i'r mewnfudwyr ma. Hei lwc

menaiblog said...

Wel - beth am symud tip llechi o Ddyffryn Nantlle i Lanbrynmair?

Anonymous said...

Ydi ardaloedd ol-ddiwydiannol Sir Gaerfyrddin yn hardd ?

menaiblog said...

Nag ydyn - ond fel rydym wedi son, nid mewnlifiad sy'n lladd yr iaith yno.

William Dolben said...

Gwir bob gair Menai Blog. Mae yna agendor dosbarth go lew o fawr rhwng Cymry Gwynedd a mewnfudwyr cefnog o Loegr

Ond gaf ofyn eto pwy haul sy wedi bod yn ymfudo i ardaloedd ôl-ddiwydiannol Sir Gâr yn ddiweddar? Mae'n glir nad Saeson bonheddig na hipis mohonynt. Mae jyst i chwarter y trigolion wedi'u geni tu allan i Gymru bellach mewn rhannau o Gwm Aman! Rwy'n cydweld hefo Blog Menai nad ydi'r mewnlifiad yn lladd yr iaith yn fanno ond ai hyn ydi'r gwelltyn sy'n torri cefn y camel neu fydd o'n sbardun i achub yr iaith?

A oes yna rywun hefo crap ar ystadegau's cyfrifiad yn medru deud wrthym o ble daw'r bobl yma?

Hogyn o Rachub said...

Will,

Y rheswm dw i'n gweld mymryn mwy o obaith yng Ngheredigion ydi demograffeg y Gymraeg.

O ran plant 3-15 oed gall 57.7% siarad Cymraeg yn Sir Gâr ond ffigwr Ceredigion ydi 78.4% - sy'n sylfaen cadarn. Hefyd, os cofiaf yn iawn o ystadegau ar FlogMenai ryw ychydig flynyddoedd yn ôl, dim ond 25% o blant ysgol gynradd Sir Gâr ddaw o gartrefi Cymraeg ond ffigwr Ceredigion ydi tua 34% (sy ddim yn uchel iawn wrth gwrs ond mae'n sylweddol uwch).

Hefyd, mae'r ffigwr yn uwch ymhlith y grŵp 'rhieni' (16-64) yng Ngheredigion - 41.9% i 39% - a dybiwn i fod lot fawr o'r rhai sy ddim yn Gymry Cymraeg yng Ngheredigion yn y grŵp hwnnw yn fyfyrwyr yn hytrach na phobl leol barhaol.

Ac wrth gwrs, mae nifer y rhai sy'n siarad Cymraeg yng Ngheredigion yn agos at y 50% - o weithredu gellir adennill y mwyafrif yno.

William Dolben said...

Diolch, HOR

Plant sy'n siarad Cymraeg ar yr aelwyd ym 2012 (yn ôl y rhieni...

dim ond 26% yng Ngheridigion a 22% yn Sir Gâr

Yn siarad
Cymraeg
yn rhugl
gartref
Number


Can-
Local Authority Nifer ran

Isle of Anglesey 1.562 38,3
Gwynedd 4.188 57,6
Conwy 713 11,1
Denbighshire 631 10,3
Flintshire 111 1,1
Wrexham 158 1,8
Powys 486 6,2
Ceredigion 1.027 26,2
Pembrokeshire 337 4,5
Carmarthenshire 2.506 22,4
Swansea 368 2,5
Neath Port Talbot 364 4,2
Bridgend 182 2,0
The Vale of Glamorgan280 3,3
Rhondda Cynon Taf 819 5,3
Merthyr Tydfil 27 0,7
Caerphilly 198 1,7
Blaenau Gwent 10 0,2
Torfaen 26 0,4
Monmouthshire 62 1,2
Newport 21 0,2
Cardiff 1.010 4,7
Wales 15.086 7,8


http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/schools2012/120911/?lang=cy

Hogyn o Rachub said...

Diolch Will - diddorol iawn. Dydw i ddim yn gallu dod o hyd i'r ffigurau o Flogmenai o rai blynyddoedd nôl erbyn hyn dybiwn i, ond mae'n drist iawn gweld dirywiad mor wael yng Ngheredigion a dirywiad hefyd yn Sir Gâr.

Serch hynny dw i'n sicr bod y cynnydd yng Ngwynedd a Môn ill dau yn tua 5% sy'n gadarnhaol tu hwnt ... mae'r nifer Cymru gyfan (7.8%) nag yr oedd rai blynyddoedd yn ôl hefyd. Er cymaint na ddylen ni orbwysleisio cryfder parhaus y Gymraeg yn y gogledd-orllewin, rhaid hefyd ei gydnabod ac ymfalchïo ynddo.

Er, rhaid dweud bod nifer o'r ystadegau yn torri calon rhywun. 1.8% o blant Wrecsam a 4.5% o rai Sir Benfro yn dod o gartrefi Cymraeg! Jyst ofnadwy!

Ar bwynt gwahanol braidd...

Rhaid imi ddweud hefyd - fel un sy'n bythol gwyno am ddirywiad yr iaith - fod mod i'n teimlo bod newid wedi bod yng Ngwynedd o leiaf dros y 4-5 mlynedd diwethaf.

Dw i o Ddyffryn Ogwen sy'n un o'r ardaloedd prin a welodd gynnydd, a wyddoch chi be? Mi fuaswn i'n taeru bod Dyffryn Ogwen yn Gymreiciach yn ieithyddol heddiw nag yr oedd ryw 5 mlynedd yn ôl (ond wrth gwrs yn llai Cymraeg na thua 15 mlynedd yn ôl). Does dim modd mesur hynny, ond dyna ni!

menaiblog said...

Dau bwynt brysiog:

Dwi'n meddwl i'r ganran iaith gyntaf mewn ysgolion gynyddu tua degawd yn ol pan newidwyd y dull cyfrifo - defnyddwyd tystiolaeth rhieni yn hytrach nag un ysgolion. Dwi o'r farn bod tystiolaeth rhieni yn gywirach yn y cyd destun hwn.

Yn ail dydi iaith cartref ddim yn 'clear cut'. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio naill a'i Gymraeg neu'r Saesneg, ond mae yna lawer o deuluoedd sy'n defnyddio'r ddwy.

Ceir newid hefyd - ee weithiau bydd plentyn yn dod i'r ysgol yn ddi Gymraeg am bod mam yn ddi Gymraeg, ond ar ol dysgu Cymraeg yn yr ysgol mae'n dechrau siarad yr iaith efo dad sydd yn Gymro Cymraeg.

William Dolben said...

ydi mae rhai plant yn arddel yr iaith wedyn a gellir gweld hyn yn ystadegau'r ysgolion uwchradd. Mae Ceredigion yn codi o 26% i 35% e.e. Ond dwn i ddim be sy'n digwydd ar ôl iddynt ymadael â'r ysgol

Yn siarad
Cymraeg
yn rhugl
gartref
Number Per
cent

Can-
Local Authority Nifer ran

Isle of Anglesey 1.404 41,1
Gwynedd 3.866 58,0
Conwy 585 9,8
Denbighshire 839 13,8
Flintshire 165 1,9
Wrexham 260 4,1
Powys 532 7,5
Ceredigion 1.290 35,4
Pembrokeshire 524 7,9
Carmarthenshire 2.378 23,1
Swansea 395 3,2
Neath Port Talbot 479 6,0
Bridgend 119 1,5
The Vale of Glamorgan187 2,4
Rhondda Cynon Taf 675 4,9
Merthyr Tydfil 5 0,2
Caerphilly 53 0,5
Blaenau Gwent 3 0,1
Torfaen 117 1,9
Monmouthshire 8 0,2
Newport 8 0,1
Cardiff 652 3,8
Wales 14.544 8,6