Sunday, February 03, 2013

A rwan am y newyddion drwg yn Arfon

Bangor ydi'r newyddion drwg wrth gwrs.  O'r Dwyrain i'r Gorllewin (fwy neu lai) eto.  Ffigyrau 2001 yn gyntaf a 2011 wedyn.

Marchog 1 - 53.5%\48.1%
Marchog 2 - 55.4%\51.9%
Hirael - 51.2%\35.2%
Garth - 49%\34.8%
Menai - 27.8%\18.6%
Deiniol - 30.8%\22.8%
Glyder - 55.7%\51.7%
Hendre - 52%\45.3%
Dewi - 59.1%\52.6%
Pentir - 62.6%\59.3%

Fel rydym wedi trafod, mae ffigyrau'r cyfrifiad yn Arfon yn ddigon cadarnhaol yng nghyd destun ehangach Cyfrifiad 2011, ond mae yna eithriad - Bangor.  Mae'r cwymp yn rhai o wardiau Bangor gyda'r gwaethaf yn y wlad i gyd - ond efallai nad ydi'r newyddion yno llawn mor ddrwg na mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.  Y newidyn mawr yma wrth gwrs ydi'r Brifysgol, ac mae'n debyg i'r sefydliad hwnnw ehangu'n sylweddol tros gyfnod o ddeg mlynedd.  Dydan ni ddim yn gwybod faint o'r cwymp y dylid ei briodoli i hynny wrth gwrs - ac efallai na chawn ni ateb terfynol - ond bydd gweld ffigyrau sy'n dangos y strwythur oedran o fewn wardiau unigol yn rhoi syniad go lew i ni.

Rwan mae'r cwymp mwyaf mewn tair  ward sy'n cartrefu niferoedd sylweddol o fyfyrwyr - Menai, Garth a Hirael.  Mae myfyrwyr yn debygol o gael effaith ar wardiau eraill hefyd - ond ddim i'r un graddau.  Yr ardal lle ceir y lleiaf o gwymp ydi Pentir - ond dydi honno ddim yn ward Bangor go iawn.  Mae'n cynnwys rhan Orllewinol Penrhosgarnedd - sy'n bentref sydd ynghlwm a Bangor yn ogystal ag ardaloedd gwledig ar gyrion y ddinas.  Mae'r cwymp yn ward gyfochrog Glyder ychydig yn fwy, ond mae honno yn cyfochri yn ei thro efo Menai - ward sy'n cynnwys Bangor Uchaf a'r Brifysgol.

Stad tai cyngor sylweddol iawn ydi'r rhan fwyaf o Marchog - Maesgerchen  -  ochr arall y ddinas - sydd ddim  o dan ddylanwad y Brifysgol, ac mae yna gwymp yno eto - ond un bychan yng nghyd destun Bangor.

Ceir cwymp mwy yn wardiau Deiniol a Dewi.  Mae'r gyntaf wedi ei chanoli ar stad dai cyngor Glanadda yng Ngorllewin Bangor ac mae'r ail yng nghanol y Ddinas.  Gellid disgwyl dylanwad y Brifysgol ar y naill, ond nid ar y llall.

Plant sy'n siarad y Gymraeg

Marchog 1- 70%\67.6%
Marchog 2 - 65.8%\73.4%

Hirael - 56.8%\60.4%
Garth - 81.6%\74.5%
Menai - 71.1%\65.9%
Deiniol - 65.5%\56%
Glyder - 77.8%\72.5%
Hendre - 60.8%\78.8%
Dewi - 69.8%\67.5%
Pentir- 79.7%\79.4%


A daw hyn a ni at fater - ahem - sensitif.  Yn y rhan fwyaf o Wynedd mae'r niferoedd o blant sy'n siarad y Gymraeg yn gadarn o gymharu a 2001.  Ond dydi hynny ddim yn wir ym Mangor - neu o leiaf dydi o ddim yn wir ym Mangor i gyd. Mae'r cwymp yn Garth, Menai a Deiniol yn sylweddol - er dylid nodi bod twf arwyddocaol yn Hendre ac un llai yn un o wardiau Marchog.

Nid twf y Brifysgol sydd y tu ol i hyn - i unrhyw raddau arwyddocaol o leiaf.   Mae'n bosibl nad ydi'r Gymraeg yn cael ei throsglwyddo yn effeithiol o un genhedlaeth i'r llall ym Mangor - fel mae yng ngweddill y sir. Mae'r rhesymau am hyn yn debygol o fod yn gymhleth - ond mae Bangor yn anarferol yng Ngwynedd i'r graddau bod y gyfundrefn addysg yno yn debyg i un Sir Gaerfyrddin - gyda sector cyfrwng Cymraeg ar wahan.   Does dim amheuaeth bod ysgolion cynradd yn y ddinas yn gwneud gwaith da iawn o ran cyflwyno'r Gymraeg. Ond efallai mai un o'r camau mwyaf effeithiol y gallai'r Cyngor ei gymryd i gefnogi'r Gymraeg yng Ngwynedd yn y dyfodol agos,fyddai atgyfnerthu ymhellach y ddarpariaeth Gymraeg yn ysgolion y ddinas.

10 comments:

Anonymous said...

adlewyrchir hyn maen siwr mewn llawer i deulu. Mae cariad fy chwaer yn dod o ardal Hirael ym Mangor. Cymraeg yw iaith ei dad a Saesneg ei fam. Saesneg y siaredir adre. Aeth e i ysgol gymharol Gymraeg, ond wedyn i Friars a cholli'r hyder. Dywed e, fod y Gymraeg dal yno, ond oherwydd i'w dad peidio ei siarad gydag e, ar'r ysgol yn basically Saesneg, collodd yr hyder.
Cymraeg yw iaith fy nhad, a Saesneg yw iaith fy mam. Saesneg a siaradom adre. OND es i i Ysgol David Huws, a chael fy addysg yn llawn Gymraeg. Nid yw hyn bob tro yn batrwm llewyrchus, ond fe weithiodd i mi, a'r chwaer. (Peidiwch son am Holyhead High, sy'n dirty little secret i Gyngor Mon)Problem Bangor erioed oedd priodasau cymysg a Friars fel ysgol ffug dwyieththog. Adlewyrchir trasiedi Sir Gar yn llai ar y wyneb ym Mangor, ond cofier, bod Bangor yn cael effaith anferthol ar rhan ddeheuol o Sir Fon, ac i raddau Y Felinheli a'r pentrefi megis Gerlan, Rachub, Tal y Bont ayyb. Fyw inni anwybyddu hyn.

Rhian Davies said...

Hoffwn ategu'r uchod. Mae plant cynradd BAngor yn hollol ddeallus o'r Gymraeg wedyn yn colli hyder pan ant i Friars.

mae rhieni Saesnig o cyn belled a Borthmadog yn fwriadol anfon eu plant yno er mwyn cael addysg yn yr iaith honno, er fod tystiolaeth gryf bod addysg eilradd yn gryfach yn yr ysgolion Cymreig

Ioan said...

Y ward ym mhob sir sydd efo'r ganran uchaf o blant 3-15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg:
Ward Awdurdod lleol %3-15 yn siarad cymraeg
1 Bethel Gwynedd 97.4%
2 Cefni Isle of Anglesey 94.0%
3 Uwchaled Conwy 91.3%
4 Llanwenog Ceredigion 90.6%
5 Banwy Powys 87.3%
6 Crymych Pembrokeshire 85.4%
7 Quarter Bach Carmarthenshire 85.2%
8 Llandrillo Denbighshire 81.8%
9 Cwmllynfell Neath Port Talbot 73.7%
10 Rogiet Monmouthshire 58.2%
11 Dyffryn Ceiriog Wrexham 54.7%
12 Ffynnongroyw Flintshire 52.4%
13 Llanwern Newport 48.5%
14 Mawr Swansea 48.1%
15 Croesyceiliog South Torfaen 46.5%
16 Pontypridd Town Rhondda Cynon Taff 43.9%
17 Canton Cardiff 41.1%
18 Abercarn Caerphilly 40.5%
19 Wenvoe Vale of Glamorgan 36.2%
20 Blaina Blaenau Gwent 35.2%
21 Pontycymmer Bridgend 34.2%
22 Merthyr Vale Merthyr Tydfil 28.5%

Sir Gaerfyddin lawr yn y saithfed safle...

Emlyn Uwch Cych said...

@Ioan:

Nid annisgwyl yw safle Sir Gâr yn rhif 7 (er rwy'n falch i weld 85% o blantos Cwarter Bach yn medru'r Gymraeg).

Siom ydy 73.7% Cwmllynfell. Beth ddigwyddodd?

Rhyfeddod y byd ydy 58.2% (!!!!) Rogiet. Diwygiad i'r Wenhwyseg ar lannau Môr Hafren?

Anonymous said...

@ Emlyn - effaith Ysgol Gymraeg y Ffin a mewnlifiad hanesyddol o'r cymoedd gorllewinol (mae'r ardal yn agos i weithfeydd dur Llanwern).

Anonymous said...

Synnu fod y canran sy'n siarad Cymraeg yn Maesgeirchen mor uchel. O fy mhrofiad i, roedd gryn dipyn yn is 30 mlynedd yn ol. Nifer uchel o blant yn y wardiau, mae'n siwr. Mae Ysgol Friars bellach yn gwneud ei henw ar fod yn ysgol sy'n osgoi y Gymraeg, (Dim byd newydd yn hynny)ac
Mae rhieni o un pen o Mon a Gwynedd i'r llall yn manteisio ar welliant ffyrdd sylweddol yn yr ugain mlynedd diwethaf i ddanfon eu plant yno.

Simon Brooks said...

Oes na ryw fanteision i fodolaeth Friars fel mae hi rwan? Gofyn y cwestiwn ydw i, nid dweud. Ydi presenoldeb un super school Saesneg yng ngogledd y sir yn golygu fod yr ysgolion uwchradd eraill yn cael bwrw ymlaen yn gymreigaidd? Holi, dyna i gyd.

Gyda llaw, pam nad oes mwy o blant Bangor yn mynd i Tryfan gan fod y dewis ar gael?

Anonymous said...

Mae niferoedd Tryfan wedi codi'n eithaf sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yr oedd pryder y buasai'n gorfod cau/uno ar un pryd. Mae prifathro Friars, gyda'r llaw, gyda enw fel disgyblwr cadarn iawn, sy'n atyniadol iawn yn yr oes yma .

menaiblog said...

I couldn't possibly comment Mr Brooks.

Anonymous said...

Hello, i believe that i noticed you visited my site so i got here to go back the want?
.I am trying to to find things to improve my web site!I guess its ok to use a few of your concepts!
!

Feel free to surf to my web site; cash advance america loans