Saturday, February 16, 2013

Gogledd Ynys Mon

Ffigyrau 2001 yn gyntaf  - fel arfer.

Porth Amlwch - 67.5%\64.5%
Amlwch - 57.1%\54.3%
Llanbadrig (Cemaes) - 53.7%\52.4%
Mechell - 64%/61.1%
Llanfaethlu - 67.1%\64.4%
Y Fali 1 - 49.7%\50.2%
Y Fali 2 - 60%\58.9%
Llaneilian - 61.5%\58.9%
Moelfre - 51%\52.3%
Llanfair yn Neubwll 1 (Gogledd i Rhosneigr) 32.4%\34.6%
Llanfair yn Neubwll 2 (Bodedern) - 68.7%\66.9%

Prif bwyntiau:

  • Cwymp graddol  - oni bai am y dair gymuned leiaf Cymreig, lle ceir cynnydd.
  • Fel yng Ngwynedd 'dydi'r ffigyrau ddim yn cefnogi'r ddamcaniaeth bod cwymp cyflym yn digwydd pan mae'r canrannau yn gostwng yn is na 70%..  A diystyru Ynys Cybi, mae yna dueddiad i'r iaith ddal ei thir orau yng Ngogledd Mon lle mae eisoes yn gymharol wan.
  •  Mae'r canrannau yn is nag ydynt yn Nwyfor, ond mae tebygrwydd yn y patrwm oedran.  Yn wir mae'r tueddiad i'r cwymp ddigwydd ymysg y grwp 65+ yn gryfach yma nag ydyw yn Nwyfor.  Mae tua tri chwarter y cymunedau a restrir uchod yn dangos cynnydd yn y ganran o bobl 16-64 sy'n siarad y Gymraeg. 

3 comments:

Anonymous said...

Wrth gwrs bydd cwymp anferth ym Môn yn 2021 a 2031 yn sgil y miloedd o weithwyr fydd yn symud i'r ardal o Loegr a Dwyrain Ewrop i adeiladu ac i redeg Wylfashima

Hogyn o Rachub said...

Neu wrth gwrs bydd pawb yn symud i ffwrdd os na fydd 'na Wylfa.

Ond o ran Môn yn gyffredinol - o ystyried y ffigurau 'pennawd' ychydig yn siomedig ar y cyfan ydi'r ystadegau lleol

Cai Larsen said...

Mae yna ddwy ffordd i edrych ar y peth HOR - ni chafwyd colledion mawr ag eithrio Aberffraw - ac o bosibl newid ffiniau sy'n gyfrifol am hynny - mae Rhosneigr yn agos iawn!