Monday, February 25, 2013

Andrew RT eisiau torri treth incwm - iddo fo ei hun

Mae'n siwr ei bod yn greulon i chwerthin ar ben arweinydd y Toriaid Cymreig, Andrew RT Davies - ond wir Dduw mae'n anodd peidio weithiau.


Cymerwch er enghraifft ei syniad diweddaraf - defnyddio unrhyw bwerau trethu a gaiff y Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol i dorri trethi'r bobl sawl sydd ar gyflogau uchaf yng Nghymru.  Y 'rhesymeg' y tu cefn i hyn ydi y byddai'r newid yn annog entrepreneriaid fod yn entreprenaraidd a ballu.  Mae Andrew yn hoffi'r cyfryw entrepreneriaid, yn yr un ffordd nad yw'n hoffi'r sawl sydd yn gweithio yn y sector gyhoeddus.  

Rwan, mae'r blog yma wedi awgrymu yn y gorffennol y byddai'n llesol i'r Toriaid ddatganoli pwerau trethu i Gymru oherwydd y byddai hynny yn ei gwneud yn anodd i Lafur hefru  am fwy a mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru, heb orfod codi sentan goch ar neb i dalu am y gwariant hwnnw.  

Ond mae'r hen Andrew yn camddeall effaith gostwng treth band 40% yng Nghymru yn llwyr.  .  Ystyriwch y canlynol - yn 2010/2011 tua un gweithiwr o pob deunaw oedd yn talu treth  ar y raddfa 40% yng Nghymru.  Un o pob deuddeg oedd y gymhareb yn yr Alban ac un o pob deg yn Lloegr. Mae'r gymhareb yn is erbyn hyn wrth gwrs yn y dair gwlad, fel mae'r llywodraeth Doriaidd yn dod a mwy a mwy o bobl ar gyflogau gweddol gyffredin  i mewn i'r band treth 40%.

Felly dydi cynllun Andrew ddim am helpu llawer iawn o bobl - 90,000 i 100,000 efallai allan o  o tua 1.35m o bobl sy'n talu treth incwm.   Ond bydd yna lawer llai o entrepreneriaid yn elwa  - mae'r sector gyhoeddus yn fawr yng Nghymru, ac mae yna sleisen o weithwyr y sector honno yn y band 40%.  Ac wrth gwrs mae llawer o entrepreneriaid yn berchnogion eu cwmniau eu hunain - ac i rhywun yn y sefyllfa honno mae'n fwy cost effeithiol o lawer o safbwynt trethiannol   i gymryd taliad yn uniongyrchol o'r cwmni nag ydi hi i dynnu cyflog.  Ychydig o dreth incwm mae llawer ohonynt yn ei dalu beth bynnag.

Mewn geiriau eraill  prif enillwyr cynllun Andrew fydd pobl ar gyflogau uwch yn y sector gyhoeddus - pobl fel fi - ac Andrew RT ei hun wrth gwrs.  

2 comments:

Rhys Williams said...

Hefyd os yw rhywun yn talu treth ar y fand 40% - rhaid gofyn a ydynt yn gystal 'entrepreneur' ag hynnu?

Aled GJ said...

Fyddwn i ddim ar gymaint o frys i gondemnio'r datganiad hwn.

Iawn, mae'r syniad bod rhywun ar 34,000 yn mynd i fod yn entrepreneur all wedyn greu swyddi yng Nghymru yn naif. Ond, mae'n cychwyn trafodaeth ar y pwnc. O'm rhan fy hun, mi fyddwn i'n barod i ystyried y syniad o roi toriant mewn trethi i bobl sydd yn gallu dangos eu bod yn creu swyddi newydd yng Nghymru- ein prif angen fel gwlad heddiw.

Hefyd, onid yw'r datganiad hwn gan y Toriaid hefyd yn fodd i ynysu'r Blaid Lafur ar y mater, gyda'r holl wrthbleidiau rwan yn son am wahanol gynlluniau i godi trethi yma yng Nghymru?

Gyda momentwm fel hyn, mae'n bosib y gellid creu consensws bod modd cadarnhau hyn trwy bleidleisiau pobl yn etholiad 2016 yn hytrach na thrwy refferendwm arall nad oes neb ei eisiau ar wahan i'r Blaid Lafur.