Un o'r llawer o anfanteision o fod yn weinidog yn llywodraeth Cymru ydi'r ffaith eich bod yn cael eich lobio byth a hefyd gan rhywun neu'i gilydd. Dydi cael eich lobio ddim yn brofiad braf, oni bai mai Darren Hill sy'n gwneud y lobio. Beth bynnag, dwi'n crwydro, nid Darren Hill ydi gwrthrych y blogiad yma. Lobio, a'r gweinidogion druan sy'n cael eu lobio ydi'r thema - pobl fel Leighton Andrews.
Does yna ddim byd gwaeth na chael eich lobio wrth y bwrdd brecwast. Dydi eich meddwl chi ddim ar yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthych - mae o ar gwahanol broblemau'r diwrnod sydd o'ch blaen - a dydach chi ond yn hanner effro beth bynnag. Mae'n ddigon posibl eich bod yn teimlo mymryn yn sal hefyd.
Y demtasiwn o dan yr amgylchiadau hyn ydi dweud "Iawn cariad" beth bynnag y syniad dw lali sy'n cael ei gwthio ger eich bron, er mwyn cael llonydd. Mae hyn yn gamgymeriad anferthol wrth gwrs. Oherwydd fy ngwendid ben bore, dwi wedi cael fy hun mewn pob math o sefyllfaoedd gwirion bost - ar ben ysgol y tu allan yn paentio ffenest ail lawr mewn storm, ar wyliau mewn carafan yn Skegness, yn gwylio rhyw blydi ddrama neu'i gilydd, yn siopa yn Cheshire Oaks ac ati. Dwi'n fodlon dweud "Iawn" i unrhyw beth dan haul wrth fwrdd brecwast ben bore. Yn wir, petai Nacw yn gofyn i mi daflu'r safonau iaith i mewn i'r sgip, mi fyddwn i'n debygol iawn o ddweud "Iawn cariad" a mynd ati i wneud hynny - pe gallwn.
Dwi'n siwr nad ydi Leighton yn cael ei lobio wrth y bwrdd brecwast, a dwi'n siwr petai hynny'n digwydd y byddai'n well boi na fi ac yn ymateb efo "Na" awdurdodol. Beth bynnag, rhag ofn bod Leighton - neu unrhyw un arall - yn cael trafferth hoffwn gynnig mymryn o gyngor iddo. Mae yna ddwy ffordd o osgoi lobio wrth y bwrdd brecwast - peidio bwyta brecwast, neu godi mor fuan fel nad oes yna neb eisiau codi yr un pryd a chi. Dwi bellach yn gwneud y ddau beth - jyst i fod yn saff.