Thursday, January 31, 2013

Y Cyfrifiad - ardal Caernarfon

Dwi'n tueddu i fod yn fwy optimistaidd na llawer o fy nghydnabod ynglyn a'r Gymraeg.  Y rheswm am hynny o bosibl ydi'r ffaith fy mod yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Gwynedd, lle mae'r Gymraeg yn gwneud yn eithaf da, ac yn treulio cryn dipyn o amser yn Nhreganna, Caerdydd - lle mae'r Gymraeg eto yn gwneud yn dda.  Felly mae fy nghanfyddiad wedi ei lywio gan brofiad gweddol gadarnhaol.  Dwi'n gwybod nad ydi pawb mor ffodus a fi yn hyn o beth, a bod profiad llawer o bobl eraill yn fwy negyddol o lawer.

Ta waeth, dwi'n bwriadu cymryd cip ar rhai o ardaloedd Cymru tros yr ychydig wythnosau nesaf.  Dwi am ddechrau ym mhle mae pethau orau - a lle dwi'n digwydd byw - ardal Caernarfon.  Mae'r ganran gyntaf yn cyfeirio at 2001 pob tro, tra bod yr ail yn cyfeirio at 2011.

Caernarfon:
Seiont 1 - 83.8% / 80.6%
Seiont 2 - 90% / 90%
Peblig - 87.1% / 87.3%
Cadnant - 86.3% / 86.2%
Menai - 83.6% / 83.9%

Un ardal sy'n dangos cwymp, tra bod y gweddill yn weddol sefydlog.  Mae rhan Ogleddol Seiont yn ward ryfedd i'r graddau ei bod yn cwmpasu ardaloedd gwledig y tu allan i Gaernarfon yn ogystal a chanol y dref.  Mae'n bosibl y gellir priodoli'r cwymp o dros i 3% yn rhannol i fewnfudo gan bobl o'r tu allan i'r DU i ganol y dref.  Mae yna nifer o deuluoedd o Ddwyrain Ewrop yn byw yn yr ardal y tu ol i'r post ar y Maes.  Mae yna hefyd nifer o fflatiau uwch ben siopau yn y canol, ac mae poblogaeth symudol yn tueddu i fyw yn y rheiny.

Oni bai am yr ardal yma, mae'r Gymraeg wedi dal ei thir yng Nghaernarfon - yn wir ychydig iawn o symud a fu.  Mae'r ddwy ward sydd wedi eu canoli ar stadau tai cymunedol mawr - Cadnant (Maesincla) a Peblig (Sgubor Goch) yn parhau i fod ymysg y cymdogaethau Cymreiciaf yng Nghymru, y rhan o Seiont o gwmpas hen Ysgol yr Hendre (cymysgedd o stadau tai preifat a chymunedol) ydi'r unig  ardal gyfrifo sy'n cyffwrdd 90%, ac mae Menai (sydd ag eithrio ardal Twthill) yn gefnog iawn, hithau yn mwy na dal ei thir.  Mae'r Gymraeg wedi colli tir yn y rhan fwyaf o'r Gymru Gymraeg am ddegawdau, ond prin bod y ffigyrau wedi symud yng Nghaernarfon tros y cyfnod hwnnw.

Orbit Caernarfon:
Y Bontnewydd - 84.8%/ 82.6%
Y Waunfawr  - 73.5% / 75.8%
Cwmyglo - 74% / 73.1%
Llanrug  - 86.3% / 87.8%
Bethel - 88.1% /  87.3%
Y Felinheli - 71.8% / 64.3%
Llanwnda - 82.5% / 81.6%
Llandwrog - 80.6% / 81.3%

Ar wahan i gymunedau'r Felinheli, Y Waunfawr a'r Bontnewydd  mae'r patrwm yn debyg i'r graddau mai ychydig o newid a fu.  Mae Waunfawr yn drawiadol oherwydd i'r ganran godi yn ol uwchben 75%, ac mae'r Felinheli yn drawiadol oherwydd y cwymp sylweddol.

Mae'r Felin yn bwysig o ran y Gymraeg i'r graddau ei bod yn sefyll rhwng Bangor Seisnig a Chaernarfon Gymreig.  Fel y gymuned Gymreig arfordirol mwyaf Dwyreiniol mae ar un olwg ar reng flaen y frwydr i gynnal yr iaith. Mae'n bosibl mai adlewyrchu'r gwymp sylweddol ym Mangor mae'r hyn ddigwyddodd yn y Felin.  Mae hefyd yn bosibl mai twf y Brifysgol sydd y tu ol i rhywfaint o hynny.  Ceir llawer iawn o fyfyrwyr  mewn wardiau megis Hirael, ac mae rhai yn byw yn y Felinheli hefyd - yn arbennig felly yn ardal y marina.
Rwan rydym wedi edrych ar yr ardal lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf - a dydi pob man o bell ffordd ddim yn gwneud cystal. Yn wir byddwn yn edrych ar ardaloedd cyfagos sydd o dan fwy o bwysau maes o law. Ond mae'r ffaith bod y Gymraeg yn gwneud cystal yma y dangos ei bod yn bosibl i'r iaith ffynnu fel iaith gymunedol - hyd yn oed yn y Byd sydd ohoni.

19 comments:

Anonymous said...

tra o'n i'n byw yn Portugal, o'n i'n yfed mewn bar o'r enw Angelos yn Albufeira.

Cwrddais i a brawd y boi oedd yn berchen y bar, tra roedd o ar ei wyliau yn Portugal. Daeth y boi ar ei holides o Gymru nol i'w famwlad o dre G'narfon. Roedd y boi (o Bortiwgal)yn ddyn tan, yn siarad Cymraeg perffaith, hefo acen y cofi, a'i blant yn Gymry Cymraeg glan gloyw. DIM OND YN GNARFON. Angen gweld sut mae hyn yn gweithio, a'i gopio bobman arall

Ioan said...

Newid yn y ganran - y deg uchaf..

1: Clynnog (Gwynedd) 73.2% (+5.3%)
2: Church Village (Rhondda Cynon Taff) 19.4% (+5.2%)
3: Trewern (Powys) 14.7% (+4.4%)
4: Drybridge (Mynwy) 10.5% (+3.7%)
5: Canton (Caerdydd) 19.1% (+3.6%)
6: Rogiet (Mynwy) 15.6% (+3.3%)
7: Raglan (Mynwy) 11.1% (+3.3%)
8: Newtown South (Powys) 15.3% (+3.2%)
9: Abererch (Gwynedd) 79.8% (+2.8%)
10: Devauden (Mynwy) 9.6% (+2.8%)

Edrych yn fwy gwledig na threfol..??

Cai Larsen said...

Diolch Ioan, difyr iawn.

Rhys R said...

"Rogiet (Mynwy) 15.6% (+3.3%)"

Effaith Ysgol Gymraeg y Ffin a mewnlifiad o Llanelli i ardal Caldicot yn y 60au?

Anonymous said...

Ble ydach chi i gyd wedi cael canranau i wardiau unigol?
Mae'r linc sydd yn cael ei roi ar y we yn arwain at fap rhyngweithiol - ond dydi o ddim yn rhoi % i ward.
Diolch am unrhyw arweiniad!
(Gyda llaw Mr Menai mae spam yn y 'comments' ir blog ar ol hwn)

Cai Larsen said...

Clic ar y ward a wedyn clic ar click on area to update table - top dde i'r map.

Ioan said...

Neu, dos i http://www.nomisweb.co.uk/
Wedyn clickio ar:
1) Wizard query
2) Census 2011 - Key Statistics
3) 2011 census ks207wa - welsh language skills
4) Dewis: "ALL" yn y bocs "2011 wards"
5) Dewis: "All usual residents aged 3 and over" a "Can speak Welsh"
6) Next (Value)
7) Lawrlwytho yn xls wnes i.

Dwi ddim yn siwr pa bryd bydd statswales yn cael gafael ar y data. Wedyn mi gawn weld mwy o fanylion oedran. Hefyd ar statswales mae'r data o 2001. Un nodyn o rybudd - mae 'na lawer i ward yng Ngymru efo'r un enw a ward yn rhywle arall.

Anonymous said...

Diolch ir ddau ohonoch

Anonymous said...

Pwy fyddai'n meddwl y byddai Gogledd a De Pwllheli mor uchel - fyddech chi byth yn meddwl o wrando ar y strydoedd.

Anonymous said...

Keep this going please, great job!

my weblog - hardwood floors

Anonymous said...

I think the admin of this web page is really working hard for his web site, for
the reason that here every stuff is quality based material.


Stop by my site ... hardwood floors
my page :: hardwood flooring

Anonymous said...

Wow, superb blog layout! How long have you ever been blogging for?
you made running a blog glance easy. The overall look of your site is fantastic, as well as the content!


Have a look at my homepage ... hardwood flooring

Anonymous said...

Hi there every one, here every one is sharing these
knowledge, therefore it's fastidious to read this weblog, and I used to pay a visit this webpage all the time.

Stop by my web blog - cash for payday
Also see my web site - instant payday loans

Anonymous said...

Hello to every one, it's actually a pleasant for me to go to see this site, it includes precious Information.

Stop by my web page nice article

Anonymous said...

Everything is very open with a very clear explanation of
the challenges. It was truly informative.
Your website is extremely helpful. Many thanks
for sharing!
hardwood floor

Also visit my homepage; hardwood floors

Anonymous said...

I needed to thank you for this great read!! I certainly loved every little
bit of it. I have you book marked to check out new stuff you post…
hardwood flooring

Also visit my web page: hardwood floors

Anonymous said...

Stunning story there. What happened after? Take care!


Also visit my web blog - house cleaning phoenix

Anonymous said...

What's up friends, its impressive piece of writing concerning teachingand entirely defined, keep it up all the time.

Here is my homepage ... cleaning company

Anonymous said...

buy ativan ativan juice - ativan and alcohol detox