Wednesday, January 30, 2013

Data cyfrifiad - ambell i sylw brysiog

Dydw i heb gael amser i weithio fy ffordd trwy'r data iaith a ryddhawyd heddiw eto - a does gen i ddim amser i wneud hynny eto - mi dria i wneud rhywbeth nos fory.  Ond ag edrych yn frysiog ar y data mae ambell i thema yn dod i'r amlwg.  Rydym wedi edrych ar y rhan fwyaf o'r rheiny o'r blaen - ac i'r graddau yna mae'r patrymau a amlygwyd heddiw yn barhad o rai sydd wedi hen sefydlu eu hunain.


  • Mae'r iaith fel iaith gymunedol yn mynd yn nodwedd o'r Gogledd Orllewin, a'r Gogledd Orllewin yn unig - er nad ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto.
  • Mae'r iaith yn mynd yn un fwy trefol.  Mae'n tyfu mewn ardaloedd trefol yn y De Ddwyrain, a'r ardal lle mae'n dal ei thir orau oddi mewn i'r Fro Gymraeg ydi yn nhrefi a phentrefi mawr y Gogledd Orllewin.
  • Mae'r broses o wthio'r Gymraeg oddi wrth yr arfordir wedi mynd rhagddo yn weddol gyflym.
  • Mae'r hen broses o Seisnigeiddio Maes Glo'r De - gan weithio o'r Dwyrain a symud tua'r Gorllewin - wedi mynd rhagddo'n ddi betrys -  heb i'r camau sydd wedi eu cymryd i arbed yr iaith yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin gael fawr o effaith.
  • Mae strwythur oedran siaradwyr Cymraeg yn rhoi lle i fod yn obeithiol mewn rhannau helaeth o Gymru.
  • Mae'n ymddangos mai rhai o wardiau Caerdydd ydi'r ardaloedd lle mae'r Gymraeg fwyaf hyfyw i'r Dwyrain o'r hen isopleth sy'n gwahanu'r Gymru Gymraeg draddodiadol a'r un ddi Gymraeg.

11 comments:

Anonymous said...

Gostyngiad anferthol wedi bod yn y trefi prifysgol e.e. Bangor, Aberystwyth a Llanbed dros yr ugain mlynedd diwethaf yn cyfateb i'r twf aruthrol ym maint y sefydliadau yma.

Anonymous said...

Mae angen gofyn y cwestiwn oes angen i'r Prifysgolion hyn fod mor fawr mewn difri? Hefyd onid yw'n bryd iddynt fod yn llawer iawn gwell o ran staffio a'r Gymraeg. Wedi'r cyfan maent yn gyflogwyr sylweddol ac yn llwyr ddibynol ar ein arian ni fel trethdalwyr

Ioan said...

Da iawn Clynnog!
2001: 67%
2011: 73%

Ydi hynna'n gywir? Ydi'r ward wedi newid ffin?

Un o Ardudwy said...

Dwi'n synhwyro fod mwy o obaith (neu ochenaid o ryddhad?) yn sgil y ffigyrau yma na rhai'r siroedd fis Rhagfyr.
Mae'n wir mai yn y Gog Orllewin mae'r iaith ar ei gryfaf ond mae hynny'n arwydd pendant fod polisi Cymraeg y cyngor sir yn gweithio. Pebae Ceredigion a Chaerfyrddin wedi mabswysiadu rhywbeth tebyg, tybed be fyddai'r ffigyrau yna.
Ydio'n rhy hwyr i wneud hynny rwan - amau ei fod o, yn enwedig efo cyngor mor wrth-Gymraeg ac un presennol Caerfyrddin.
Mae o hefyd yn dangos methiant y Bwrdd Iaith a phob polisi iaith dan haul gan Llywodraeth Cymru. Gwastraff llwyr ac mae angen i Dafydd "Mae brwydr yr iaith drosodd" Elis Thomas gael ei orfodi i gerdded drwy ardaloedd Seisnigedig Meirionnydd a Dwyfor yn noeth am ei fethiant gwleidyddol enfawr.

menaiblog said...

A bod yn onest dwi ddim yn meddwl bod nifer myfyrwyr yma nac acw o ran dyfodol yr iaith.

Anonymous said...

Wales is the only country on the planet whose universities work to the lessening of its national identity.

Ioan said...

10 uchaf:

1: Cathays (Caerdydd) 2015 (+678)
2: Canton (Caerdydd) 2625 (+661)
3: Amlwch Port (Ynys Mon) 1559 (+653)
4: Grangetown (Caerdydd) 1867 (+621)
5: Butetown (Caerdydd) 928 (+573)
6: Bryntirion (Penybont) 997 (+549)
7: Church Village (Rhondda Cynon Taff) 923 (+472)
8: Pont-y-clun (Rhondda Cynon Taff) 1232 (+416)
9: The Elms (Mynwy) 452 (+303)
10: Whitchurch and Tongwynlais (Caerdydd) 2319 (+293)

Be sydd wedi digwydd yn Amlwch? Dim newid yn Amlwch wledig...??

Ioan said...

A'r deg isa:
10: Bigyn (Sir Gar) 1496 (-268)
9: Llandovery (Sir Gar) 1056 (-268)
8: Ystalyfera (Neath Port Talbot) 1339 (-275)
7: Fairwater-T (Torfaen) 466 (-278)
6: Llantwit Major (Bro Morganwg) 983 (-279)
5: Gwaun-Cae-Gurwen (Neath Port Talbot) 1576 (-284)
4: Ammanford (Sir Gar) 1290 (-318)
3: Ponciau (Wrexham) 1298 (-338)
2: Llanwddyn (Powys) 431 (-355)
1: Morriston (Abertawe) 1931 (-497)

Ioan said...

O ran canran:
10: Saron (Sir Benfro) 54% (-11)
9: Cenarth (Sir Gar) 48% (-11)
8: Godre'r graig (Neath Port Talbot) 30% (-11)
7: Tycroes (Sir Gar) 47% (-11)
6: Garnant (Sir Gar) 58% (-11)
5: Cynwyl Gaeo (Sir Gar) 46% (-11)
4: Gwaun-Cae-Gurwen (Neath Port Talbot) 55% (-12)
3: Ammanford (Sir Gar) 49% (-12)
2: Hirael (Gwynedd) 37% (-15)
1: Garth-G (Gwynedd) 30% (-15)

Gyda llaw, data o http://www.nomisweb.co.uk/

menaiblog said...

Diolch Ioan - mi gaf i gip pan fedra i.

Anonymous said...

Great post! We will be linking to this particularly great content on our
website. Keep up the good writing.

Here is my blog; payday loan lender
my website - great article