Mae rant Gwilym Owen yn Golwg hyd yn oed yn rhyfeddach a mwy afresymegol nag arfer heddiw. Cwyno am y raliau a gynhalwyd ym Merthyr, Caerfyrddin a Chaernarfon yn sgil cyhoeddi'r cyfrifiad mae'r colofnydd eofn yr wythnos yma-
Pwy oedd yn bresennol yn y raliau hyn? Hyd y gallwn i weld o'r lluniau ar y teledu roedd y mwyafrif llethol ohonyn nhw yn byw yn gyffyrddus braf mewn swyddi sy'n dibynnu ar fodloaeth y Gymraeg. Yn wir roedd nifer o gyplau priod sy'n ennill cyflogau breision trwy gyfrwng iaith y nefoedd. O ddifri rwan onid troi dwr i'w melinau eu hunain yn hytrach nag ymgyrchu tros ddyfodol yr iaith ar aelwydydd y dosbarth gweithiol yn y gwahanol froydd mae'r rhain?
Mae'n anodd gwybod lle i ddechrau efo'r rwdlan di reswm yma. Roeddwn i yn y rali yng Nghaernarfon, a roeddwn yn 'nabod, neu o leiaf yn gwybod pwy oedd efallai hanner y bobl oedd yno - ac roedd 'na rai cannoedd yn y rali. Mi welais i Simon Brooks yna - ac mae hwnnw'n ddarlithydd Cymraeg - felly mae'n debyg y gallwn ddweud bod ei fywoliaeth o'n ddibynnol ar iaith y nefoedd. Gallwn ddweud yr un peth am Sion Aled debyg - cyfieithydd ydi hwnnw. Fedra i ddim meddwl am neb arall oedd yno sydd a'i fywoliaeth yn ddibynnol ar y Gymraeg, er mae'n siwr bod 'na rai.
Mae'n debyg bod rhai pobl yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg i ryw raddau neu'i gilydd - ond dydi hynny ddim yn gyfystyr a dweud bod eu bywoliaeth yn ddibynnol ar fodolaeth y Gymraeg - neu gallwn greu dadl abswrd bod pawb bron ym Mhrydain yn ddibynol ar y Saesneg am eu bywoliaeth. Cyfieithwyr, athrawon Cymraeg a gweithwyr mentrau iaith ydi'r unig swyddi y gallaf feddwl amdanynt sy'n ddibynnol ar y Gymraeg am eu bodolaeth. Erbyn meddwl efallai y gallwn ychwanegu cyfryngis sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg - fel Gwilym - at y rhestr.
Mae'n bosibl wrth gwrs bod Gwilym yn 'nabod mwy o bobl na dwi'n eu hadnabod - ac yn gwybod sut maent yn ennill eu bara menyn - bod ei luniau ar y teledu yn wyrthiol yn caniatau iddo weld mwy o bobl nag oedd yn bosibl eu gweld yn y rali ei hun. Neu efallai mai darlithwyr ac athrawon Cymraeg, cyfieithwyr, gweithwyr mentrau iaith a chyfryngis fel Gwilym oedd yn raliau Caerfyrddin a Merthyr.
Naill ai hynny, neu bod Gwil wrth ei hen driciau eto - creu tystiolaeth o ddim oll a defnyddio'r dystiolaeth mae wedi ei greu fel esgus i ailadrodd ei ragfarnau idiotaidd hyd at syrffed.
2 comments:
Roeddwn i yng Nghaerfyrddin a dwi ar y funud allan o waith. Nie wyf i erioed wedi gweithio drwy'r Gymraeg.
Hyd yn oed os ydi honiad Gwilym Owen yn wir, a dydw i ddim yn ei dweud ei fod o, dwi ddim yn gweld y broblem. Onid ydi o yn hollol naturiol i'r math o bobl fysa'n troi fyny i rali am y Gymraeg fod yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg? Ydi gwneud swydd o'r fath yn diarddel hawl unigolyn i weithredu'n bositif dros yr iaith? Mae Gwilym Owen i weld wedi cymysgu achos ac effaith, ond wrth gwrs, mae o wedi bod yn dadansoddi digwyddiadau mewn ffordd wallus ers degawdau.
Post a Comment