Monday, January 07, 2013

Pytiau brenhinol - rhan 3

Ond tydi hi'n neis deall bod Charles Windsor - ac yntau am fod yn daid - yn credu ei bod yn bwysicach nag erioed amddiffyn yr amgylchedd rhag cynhesu byd eang, oherwydd ei fod yn poeni y bydd cenhedlaeth ei wyr / wyres yn gofyn iddo pam na wnaeth fwy i atal y cyfryw gynhesu?

Hwyrach y byddai'n syniad i Charles ystyried y niwed amgylchyddol a wnaed gan briodas ei fab a Kate Middleton. Ymddengys i'r digwyddiad gynhyrchu  6,765 tunnell  o CO2 - 1,230 o weithiau cymaint a bydd cartref cyffredin yn y DU yn ei gynhyrchu mewn blwyddyn gyfan, gron.

Mae pawb yn gwybod fod Charles yn deithiwr heb ei ail, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf ohonom fydd o byth yn teithio mewn awyren neu long efo pobl eraill - mae'n well ganddo deithio ar long neu awyren breifat - penderfyniad sy'n gwneud ei ol troed carbon yn llawer, llawer mwy nag un neb arall. 

Ond byddai'n well i ni beidio a bod yn rhy galed y creadur  - mae wedi dod o hyd i un ffordd wych o leihau'r niwed amgylcheddol mae'n ei wneud - rhedeg ei Aston Martin ar win.

 

5 comments:

Anonymous said...

Mae gen ti job handy neu bywud boring.

Cai Larsen said...

Ella - ne ella bod dwi ddim mor ddiog a chdi.

Anonymous said...

O myn brain i!
Gad lonydd i'r teulu brenhinol. Mi wyt ti llawn cynddrwg a Golwg360. Drycha, os dwi moen darllen manion am y Windsors mi ddarllenai'r Daily Express nid Blog Menai.

Cai Larsen said...

Mae Blogmenai yn rhad ac am ddim, ac mae'r straeon a geir yma am y teulu brenhinol yn wir pob gair. Ar y llaw arall mae'r Express yn costio pres ac mae'r hyn maent yn ei 'sgwennu am y teulu brenhinol at ei gilydd yn mymbo jymbo.

maen_tramgwydd said...

Cadwa ati!