Thursday, January 10, 2013

Dim cytundeb rhwng Eos a'r Bib

O diar, dim cytundeb ynglyn rhwng Eos a'r Bib felly.  Felly o ran penaethiaid y Bib yn Llundain mi geith Radio Cymru fynd i grafu - a mynd i fedd cynnar - a wnelo swm o arian sy'n llawer is na mae rhai o'u 'ser' Seisnig unigol  yn ei ennill.

Dwi'n gwybod fy mod i'n ailadroddus - ond mae'r holl stori yn dangos pam bod rhaid datganoli'r pwerau sy'n ymwneud a darlledu i Gymru.  Mae'r BBC yn cael symiau rhyfeddol o bres y cyhoedd oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn sefydliad o bwysigrwydd 'cenedlaethol' gan wleidyddion yn San Steffan.

Dydi Radio Cymru ddim yn cael eu ystyried yn sefydliad cenedlaethol gan y Bib - mae'n cael ei ystyried yn sefydliad rhanbarthol.  O ganlyniad mae'n gorfod cystadlu efo pob math o ystyriaethau eraill - ac oherwydd bod poblogaeth Cymru'n isel, a nifer y siaradwyr Cymraeg yn is - fydd ganddo byth wrandawiad mawr - ac ni fydd y Bib byth yn ei ystyried yn flaenoriaeth.

Yr unig bobl sy'n ystyried y cyfryngau Cymreig yn rhai cenedlaethol ydi'r Cymry eu hunain.  Dim ond trwy ddatganoli pwer a chyllid i Gymru y caiff y penderfyniadau ynglyn a darlledu Cymreig ei wneud gan bobl sy'n ystyried darlledu Cymreig yn fater o bwys cenedlaethol.

Mae pethau'n syml yn y bon.

4 comments:

maen_tramgwydd said...

Wyt ti'n gwybod pam newidiodd y PRS statws Radio Cymru yn y lle cyntaf?

menaiblog said...

Mi'r oeddwn i'n gwybod rhyw bethefnos yn ol.

Mae'r newid yn rhan o newid ehangach yn y ffordd mae cerddorion Prydeinig yn cael eu talu.

Aled GJ said...

Dan ni wedi cael blynyddoedd o bropoganda ynghylch pa mor wych yw gwasanaethau Cymraeg y BBC a pha mor lwcus ydan ni o'u cael nhw. Mae Eos wedi gwneud cymwynas a phawb trwy orfodi'r BBC i ddangos faint o werth y maen nhw yn ei roi mewn difrif ar ddiwylliant Cymraeg cyfoes. Mae natur Llundeinig y bwystfil wedi'i ddangos mewn modd cwbl eglur- ac fel ti'n deud, mae'n cryfhau'r achos dros ddatganoli darlledu i Gaerdydd.

Wedi dweud hynny, dwi'n meddwl fod gan Gwilym Owen bwynt yn Golwg wsnos hon, wrth ddweud bod angen defnyddio'r argyfwng hwn i edrych o ddifrif ar arlwy Radio Cymru a gofyn pam eu bod yn colli cymaint o wrandawyr. Mae angen gofyn oes modd defnyddio'r 12 miliwn y mae'r gwasanaeth yn ei dderbyn yn flynyddol, i hyrwyddo'r Gymraeg mewn ffyrdd newydd ar y tonfeddi.

Anonymous said...

Cost fesul gwrandawr:
http://stakeholders.ofcom.org.uk/market-data-research/market-data/communications-market-reports/cmr11/radio-audio/3.19

Rhan o'r broblem efo Radio Cymru, ydi bod o'n trio bod yn fersiwn gymraeg o Radio 1, Radio 2, Radio 4, 5 live etc, a llwyddo i blesio neb. Faint fysa'r gost o gael gorsaf gerddoriaeth Radio Dau?

Faint 'ma Heart FM yn gostio i'w redeg?

Lle mae £12miliwn yma'n mynd?