'Dydi hi ddim yn hawdd dod o hyd i lawer o gydymdeimlad efo BBC Cymru mae gen i ofn.
Ar ol blwyddyn gron o bwmpio propoganda Prydeinllyd i gyfeiriad eu gwrandawyr anffodus, maent yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle mae un o'r prif asedau sy'n eu gwneud yn unigryw - mynediad i ganeuon poblogaidd Cymreig - yn cael ei golli iddynt oherwydd nad ydi eu meistri yn Llundain eisiau talu i gynnal y proffeil unigryw hwnnw.
Disgynodd rhifau gwrandawyr Radio Cymru oddi ar ddibyn yn 2011 - 2012 (pobl yn 'laru ar y propoganda hysteraidd di ddiwedd?) - o 150k y flwyddyn cynt i 138k. Gallwn ddisgwyl cwymp mwy os na fydd y sefyllfa sydd ohoni yn cael ei sortio'n weddol handi. Serch hynny beth bynnag ein barn am bolisi golygyddol Radio Cymru, mae'r orsaf yn bwysig - yn hanfodol bwysig o safbwynt y Gymraeg - ac mae'n bwysig bod datrusiad i'r sefyllfa digwydd yn weddol fuan.
Ond - beth am funud bach wneud rhywbeth nad ydi Blogmenai yn ei wneud yn aml - ac edrych ar bethau o safbwynt penaethiaid y Bib yn Llundain. Iddyn nhw mae Radio Cymru yn uffernol o ddrud. Mae Radio Cymru yn costio tua £9.8m i'r Gorfforaeth tra bod Radio Wales yn costio £10.8m. Am y (tua) £10m yma mae Radio Wales yn cael 471k o wrandawyr tra bod Radio Cymru yn cael 138k Mae gwrandawiad Radio Wales ar gynydd tra bod un Radio Cymru yn cwympo. Ond mae Radio Wales yn ei dro yn ddrud o safbwynt y Bib - a dweud y gwir mae darlledu i wledydd datganoledig y DU yn ddrud. Mae'r Bib yn gwario tua £141m ar radio rhanbarthol yn Lloegr sydd a 42m o oedolion, tra eu bod yn gwario £91m ar radio rhanbarthol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer tua 8m o oedolion. I edrych ar bethau mewn ffordd arall, mae gwrandawiad Radio Cornwall yn debyg i un Radio Cymru o ran niferoedd, ond gwerir tua 10 gwaith cymaint ar Radio Cymru.
Dydi cydymdeimlad uchel swyddogion y Bib yn Llundain tuag at y Gymraeg ddim yn debygol o fod wedi ei ddyrchafu gan y ffaith bod y gyfrifoldeb am gyllido S4C yn syrthio ar y gorfforaeth o eleni ymlaen. Er bod cyllideb S4C am syrthio o tua £90m y llynedd i £76m eleni, y Bib fydd yn gorfod ysgwyddo'r gost. Anaml y bydd S4C yn llwyddo i gael 100k o bobl i wylio rhaglen. Dydi hyn ddim yn edrych fel gwerth am arian os mai o Lundain yr ydych yn edrych.
Rwan i ddod yn ol ac edrych ar bethau o (dyweder) Gaernarfon. Mae refeniw'r Bib yn anferthol - mae pobl yn cael eu gorfodi i dalu'r drwydded - os ydynt yn gwneud defnydd o wasanaethau'r Bib neu beidio. Daw hyn a'r swm nid anheilwng o £3.6bn i'r coffrau. O ychwanegu £222m am weithgareddau masnachol, £279m o grantiau ychwanegol gan lywodraeth San Steffan a £271m o ffynonellau eraill rydym yn son am £4.41bn. A chymryd bod tua 5% o hyn yn dod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd o Gymru mae'r cyfraniad Cymreig yn £222.4m - hen ddigon i gyllido Radio Cymru, Radio Wales, S4C a sianel cyfrwng Saesneg ar gyfer Cymru.
Dydi pethau ddim mor syml a hynny wrth gwrs - wedi'r cyfan mae bron i bawb yng Nghymru'n treulio amser yn edrych ar y rhyfeddodau o raglenni mae'r Bib yn ei gynnig i ni ar BBC1, BBC2 ac ati. Mae felly'n briodol am wn i ein bod yn cyfrannu at y danteithion cyfryngol hynod yma. Ond mae'r ffaith bod yr hyn rydym yn ein wario (yn anuniongyrchol) ar ein gwasanaethau teledu a radio wedi eu cymysgu a'u rheoli o Lundain yn broblematig.
Byddai'n gwneud llawer mwy o synnwyr i ddatganoli cyfran (anrhydeddus) o'r arian cyhoeddus a werir ar ddarlledu yng Nghymru i'r Cynulliad Cenedlaethol a gadael i'r corff hwnnw - sydd wedi'r cwbl yn atebol i bobl Cymru - wneud y penderfyniadau mawr. Gallai'r Cynulliad wedyn wario mwy neu lai ar deledu a radio Cymraeg a Chymreig - yn unol a'i phenderfyniadau. Byddai i hyn fanteision eraill hefyd.
Un o'r pethau rhyfedd ynglyn a'r Gymraeg ydi bod y penderfyniadau ynglyn a'r prif elfennau gwariant arni yn cael eu gwneud y tu allan i Gymru. Y rheswm am hyn ydi bod y rhan fwyaf o wariant ar y Gymraeg yn wariant ar gyfryngau torfol cyfrwng Cymraeg - dydi'r penderfyniadau ynglyn a'r gwariant hwnnw ddim yn cael ei wneud yma yng Nghymru. Rwan mae yna - ar lefel wleidyddol o leiaf - rhyw led gonsensws yng Nghymru bod y Gymraeg yn bwysig, a'i bod angen ei chynnal. Ond mae hwnnw'n gonsensws hawdd i'r graddau nad ydym yn gorfod gwneud penderfyniadau arwyddocaol ynglyn a gwariant ar y Gymraeg. Byddai cael y gallu i wario ar y cyfryngau darlledu yn gwneud y ddadl yng Nghymru ynglyn a gwerth y Gymraeg yn un mwy aeddfed - pan mae'n rhaid gwario ar rhywbeth rydym yn gofyn cwestiynau caled i ni'n hunain ynglyn a gwerth yr hyn rydym yn gwario arno.
Mewn cyd destun felly byddai'n rhaid i'n Cynulliad Cenedlaethol ddod i gasgliadau ynglyn a gwerth y Gymraeg i Gymru - a chyn i hynny ddigwydd byddai'n rhaid wrth ddadl genedlaethol ynglyn a'r mater hynod bwysig yma i'n bywyd cenedlaethol. Yn fy marn i byddai cynnal y ddadl honno mewn cyd destun ystyrlon yn llesol i'r Gymraeg - mae yna gryn dipyn o ewyllys da tuag ati ar hyd a lled Cymru - byddai dod a'r ddadl ynglyn a sut rydym yn gwario i'w chynnal yn dod a hi i mewn i brif lif gwleidyddiaeth Cymru yn crisialu'r ewyllys da hwnnw mewn ffordd sydd ddim yn bosibl ar hyn o bryd.

9 comments:
Cafodd Llywodraeth Cymru cyfle i allu lywodraethu a sicrhau perchnogaeth Cymreig o cyfryngau (newydd) megis .cymru a .wales.
Ond cynllwynodd mewn modd dan din i rhoi'r cyfan i Nominet, gwmni Prydeinig/Saesneg a'i phenchadlys yn sir Rhydychen.Gweler http://www.dotcym.org/hafan/?p=203
Felly ym marn Llywodraeth Llafur, mae cwmni preifat yn Loegr yn well am benderfynu ac ariannu ein hunaniaeth a brandio Cymraeg a Chymreig arlein. Ella mae nhw'n iawn - does neb rili yn balio ots neu a clem yn y bybl yn y bae.
Tra yn yr Alban, y llywodraeth SNP sy'n arwain y cais .scot. Ac ym mhob gwlad neu ardal arall yn y byd, eu cyrff llywodraeth brodorol sy'n arwain eu ceisiadau nhw ac yn sicrhau perchnogaeth.
Dyna ddangos mor beryglus oedd strategaeth 'mae'r frwydyr drosodd' Dafydd Elis Thomas, Bwrdd yr iaith, Rhodri Williams a Meri Huws.
Mae'r mantra yma fod y 'frwydr drosodd' wedi golygu nad oes gan Radio Cymru nag S4C neb i'w hamddiffyn gan fod pawb yn meddwl 'fod y frwydr drosodd'.
Byddai £220m yn heb ddigon in gynnal gwasanaethau Cymraeg a Saesneg da - a dweud y gwir gellid a dylid cael 2 orsaf radio Gymraeg. Mae modd gwneud hyn. Ond mae uchelgais y Cymry wedi bod mor uffernol o isel am 'fod y frwydr drosodd' fel ein bod yn barod I ddiolch am friwsion.
Mae'n bryd cael gwared ar y BBC. Gyda lwc bydd annibyniaeth i'r Alban yn arwain at hynny,
Post diddorol, a sylwadau ynglŷn â .Cymru ac ati yn llygad eu lle.
Mae un peth wedi 'nharo i erioed am ddealltwriaeth Llundain, a'r cyfryngau'n gyffredinol o'r sefyllfa yng Nghymru. Mae pobl yn sôn am £90 miliwn i S4C neu £9.8 miliwn i Radio Cymru fel peth drud oherwydd taw "dim ond" hyn a hyn o wylwyr / gwrandawyr sydd. Ond mae £9.8 miliwn Radio Cymru yn cynhyrchu gorsaf radio sydd yn denu 28% o'r boblogaeth darged. Mae £10.8 miliwn Radio Wales yn denu cwta 16% o'r boblogaeth darged, ychydig dros hanner ffigwr Radio Cymru.
Mae'r BBC yn darlledu rhaglenni ar gyfer lleiafrifoedd - megis pobl sydd am weld arlwy diwylliannol BBC4, neu wrando ar gerddoriaeth Radio 3, neu hyd yn oed gweld rhaglenni plant CbbC ac ati, felly rhaid eu bod nhw'n deall y cysyniad o ddenu canran y boblogaeth darged, yn hytrach na rhifau moel.
Mae unrhyw ddatganiad o fewn o BBC ynglŷn â pha mor ddrud yw RC neu S4C felly wedi cael ei wneud trwy anwybyddu ystyriaeth sydd yn sail bob-dydd i fesur cynulleidfaoedd gwasanaethau eraill. Nid esgeulustra mo hynny, eithr ymgais bwriadol i gam-liwio'r sefyllfa.
Mi fyddwn i'n ei roi fo fel hyn Iestyn - o'n safbwynt ni gwasanaethau cenedlaethol ydi Radio Cymru, Radio Wales ac S4C. O safbwynt penaethiaid y Bib gwasanaethau rhanbarthol ydyn nhw.
Fel gwasanaethau rhanbarthol maen nhw'n ddrud. Fel rhai cenedlaethol maen nhw'n rhad.
Hey Ι know thiѕ iѕ off topic but ӏ was
ωonԁerіng if yоu κnew
of аny wiԁgetѕ I сould аdd to my blog that autοmаtically tωeet my newest twitter updates.
I've been looking for a plug-in like this for quite some time and was hoping maybe you would have some experience with something like this. Please let me know if you run into anything. I truly enjoy reading your blog and I look forward to your new updates.
My site ; www.prweb.com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.htm
Your style is really unique compared to other folks I've read stuff from. Many thanks for posting when you've got the opportunity, Guess I will just
bookmark this page.
Here is my website :: wood floors
Very good information. Lucky me I found your blog by accident (stumbleupon).
I have bookmarked it for later!
Feel free to surf to my web page :: best wood flooring
My spouse and I stumbled over here coming from a different
website and thought I might check things out. I like what I see so i am
just following you. Look forward to checking out your web page repeatedly.
engineered hardwood floors
Have a look at my blog hardwood floor
I believe what you posted made a lot of sense.
But, what about this? what if you added a little information?
I am not saying your information isn't good., but what if you added something that makes people want more? I mean "Eos, y Bib a gwariant ar y Gymraeg" is a little boring. You might glance at Yahoo's front page and
see how they create post titles to get viewers interested.
You might try adding a video or a pic or two to
get people excited about everything've got to say. Just my opinion, it might bring your posts a little livelier.
my weblog: hair loss
Post a Comment