Saturday, January 05, 2013

Diolch i Golwg360 am sefyll yn y bwlch

Mae'n debyg gen i y dylai pobl sydd eisiau darllen am hynt a helynt teulu 'brenhinol' Lloegr trwy gyfrwng y Gymraeg ddiolch am fodolaeth Golwg360.  Mae'n dra anarferol i BBC Cymru anghofio adrodd unrhyw stori am y teulu arbennig yma, ond pan mae'r stori yn rhy ddi ddim hyd yn oed i'r Bib drafferthu efo hi, mae Golwg360 yno i sefyll yn y bwlch a sicrhau bod y manylion oll yn cael eu trosglwyddo yn saff i'w darllenwyr.

Rwan, dydw i ddim yn arbenigwr ar y teulu 'brenhinol' o bell ffordd, ond os 'dwi'n deall pethau yn iawn mae'r stori yma yn ymwneud ag un o feibion ail wraig mab hynaf Elizabeth Windsor yn gorfod gadael ei dy ynghanol nos oherwydd bod yna dan mewn adeilad yn y stryd lle mae'n byw.

Mae Golwg360 hefyd o'r farn ei bod werth ailadrodd y wers a gymrodd y brenhinol berson o'r digwyddiad.  Ymddengys ei fod o'r farn bod y ffaith i ddynion injan dan ddiffodd y tan a bod cymdogion heb adael iddo fo a'i deulu geisio cysgu ar y palmant yn dangos bod digwyddiadau fel hyn yn dod 'a'r ysbryd Prydeinig gorau allan o bobl'.

Hmm, naill ai bod y boi yn credu bod dynion injan dan mewn gwledydd y tu allan i Brydain yn sefyll heb godi bys  yn edrych ar adeiladau yn llosgi'n llwch, tra bod cymdogion yn gadael i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan dannau gysgu o dan bontydd, neu mae'n gwneud defnydd o'r digwyddiad i hyrwyddo ei syniadau ei  hun ynglyn ag uwchraddoldeb cymdeithas sifig ym Mhrydain o gymharu a lleoedd eraill.

Dydi hynny ddim yn syndod wrth gwrs, mae cenedlaetholdeb naturiol, is ymwybodol yn nodweddiadol o lawer o bobl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr. Maent yn aml yn gwadu eu bod yn genedlaetholwyr o unrhyw fath, ond mewn gwirionedd mae'r ffordd maent yn meddwl wedi ei lywio'n llwyr gan syniadaethau cenedlaetholgar Prydeinllyd.

Ond mae'n gwestiwn arall pam yn union bod Golwg 360 yn teimlo'r angen i drosglwyddo'r nonsens gwirion yma i ni.


14 comments:

Neilyn said...

Er mwyn i ni gael y cyfle i weld, dro ar ol tro ar ol tro, mor chwerthinllyd o amherthnasol yw'r "teulu" i ni Gymry, ac i fynegu barn gyhoeddus ar hynny?!

Anonymous said...

Pwy sy'n gyfrifol bellach am y wefan ? Go brin mai llaw Dylan Iorwerth sy'n gyfrifol am rai o'r gwallau iaith (a'r camgymeriadau ffeithiol niferus) sy'n britho'r wefan. Nid yw wedi datblygu o gwbl - os rhywbeth cymerodd gam yn ol. Nid oes yna unrhyw 'erthyglau' gwahanol, ac mae rhai straeon yn aros yn sownd am bron i wythnos.

MR MARSHALL said...

Cytuno'n llwyr gyda'r ail sylw. Ma na broblem gan Golwg360. Tybed oes prinder pres i ddatblygu'r gwasanaeth? Does fawr ddim wedi digwydd i'w wella ers y dechrau. mae'r cyfan - gan gynnwys y diwyg yn edrych yn flinedig. Des i ar draws hwn ddoe

http://www.catalannewsagency.com/
a hwn
http://www.catalannewsagency.com/aboutus

Iawn, ma na 75 yn gweithio i'r CNA a llawer llawer llai i Golwg360 ond dyw hynny ddim yn golygu na all Golwg360 ddysgu rhywbeth o esiampl y Cataloniaid.

Unknown said...

Diolch am y diddordeb yng ngwasanaeth Golwg360. Na'i gymryd y cyfle i ateb rhai o'r cwestiynau sy'n codi yma.

I ateb cwestiwn y person anhysbys uchod, gan fod y gwsanaeth yn un 7 niwrnod yr wythnos mae amryw olygyddion yn gyfrifol am y cynnwys newyddiadurol.

O safbwynt datblygu'r gwasanaeth, rydym yn edrych yn gyson ar ffyrdd i wella Golwg360. Yn amlwg mae'r byd digidol yn newid yn gyflym iawn, ac ydy, mae arian yn brin yn yr hinsawdd bresennol. Wedi dweud hynny, rydym eisoes yn gweithio ar ail-ddatblygu'r hafan - dwi'n cytuno fod angen ffreshau pethau.

Rydan ni'n ymwybodol o'r CNA, a nifer o wasanaethau da eraill. Mae MR MARSHALL yn iawn bod llawer llai yn gweithio i Golwg360 o'i gymharu รข'r CNA - tua 70 yn llai i fod yn fanwl gywir.

Mae datblygu'r gwasanaeth newyddion yn un peth, a gwella'r dechnoleg yn ystyriaeth beth arall...ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod datblygu elfennau masnachol Golwg360 er mwyn ceisio gwneud y gwasanaeth yn fwy hunangynhaliol.

Diolch eto am y diddordeb ac am y sylwadau defnyddiol.

Anonymous said...

Hello There. I found your blog using msn. This is an extremely well written article.
I will be sure to bookmark it and come back to read more of your useful info.
Thanks for the post. I'll certainly comeback.

Look into my weblog: hardwood flooring

Anonymous said...

Hi to all, the contents existing at this web page are truly
remarkable for people experience, well, keep up the
nice work fellows.

Also visit my webpage ... hardwood floors

Anonymous said...

Hello to every one, the contents existing at this site are in fact
remarkable for people experience, well, keep up the good work
fellows.

Feel free to surf to my web blog zetaclear nail fungus relief
My web page - zetaclear nail fungus relief

Anonymous said...

Someone essentially help to make significantly posts
I might state. That is the first time I frequented your
website page and so far? I amazed with the analysis you made to create this particular put up incredible.

Magnificent job!

Feel free to surf to my weblog :: hardwood floors

Anonymous said...

I'm amazed, I have to admit. Rarely do I come across a blog that's both educative and entertaining,
and let me tell you, you have hit the nail on
the head. The issue is something that too few people are speaking
intelligently about. I'm very happy I found this in my hunt for something relating to this.

Also visit my page :: maid
my page - home cleaning services

Anonymous said...

If you desire to obtain a good deal from this piece
of writing then you have to apply such techniques to your won weblog.


Here is my web blog: treatment for toenail fungus

Anonymous said...

Howdy I am so grateful I found your weblog, I really found you by error,
while I was browsing on Google for something else, Anyways
I am here now and would just like to say thank you
for a tremendous post and a all round exciting blog (I also love the theme/design), I
don't have time to look over it all at the minute but I have bookmarked it and also included your RSS feeds, so when I have time I will be back to read more, Please do keep up the superb work.

Also visit my website - phoenix house cleaning

Anonymous said...

I am regular visitor, how are you everybody? This article posted at
this website is actually fastidious.
hardwood floors

My weblog; cleaning hardwood floors

Anonymous said...

Very good article. I definitely appreciate this website. Thanks!


my web-site :: toe fungus treatment
My page: nail fungus treatment

Anonymous said...

I know this if off topic but I'm looking into starting my own blog and was wondering what all is required to get set up? I'm assuming having a blog like yours would cost
a pretty penny? I'm not very web savvy so I'm not 100% positive. Any tips or advice would be greatly appreciated. Appreciate it

Check out my webpage :: www.maidbrigade.com